CGA / EWC

About us banner
Hwyl fawr a diolch i Angela Jardine, Cadeirydd CGA
Hwyl fawr a diolch i Angela Jardine, Cadeirydd CGA

Ar ran pawb yng Nghyngor y Gweithlu Addysg (CGA), hoffem ddiolch i Angela Jardine am y rôl allweddol mae hi wedi ei chwarae yn ystod ei hamser gyda ni.

Etholwyd Angela fel aelod o Gyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (CyngAC) yn 2000, ac yn Gadeirydd arno yn 2010. Yn unol â Deddf Addysg (Cymru) 2014, aildrefnwyd, ailenwyd ac ailsefydlwyd CyngAC fel CGA yn 2015.

Ar ôl cael ei phenodi gan Lywodraeth Cymru fel aelod o Gyngor CGA, etholwyd Angela gan ei chyfoedion ar y Cyngor fel Cadeirydd, ac fe'i hail-etholwyd yn 2019. Roedd arweinyddiaeth Angela o CGA yn hanfodol yn llywio a chefnogi'r sefydliad a'i gofrestreion, drwy gyfnod o ehangu cyfrifoldebau a grwpiau newydd o gofrestreion. Mae hi wedi bod wrth wraidd gwaith CGA yn cynnal a gwella safonau addysgu ac ansawdd dysgu yng Nghymru, yn ogystal â diogelu buddion dysgwyr a chynnal hyder ac ymddiriedaeth y cyhoedd yn y gweithlu addysg.

Dros ei 22 blynedd o wasanaeth, mae Angela wedi bod yn angerddol, uchelgeisiol a chefnogol. Mae ei harweinyddiaeth wedi bod yn bennaf gyfrifol am sicrhau bod CGA yn uchel ei barch fel y rheoleiddiwr annibynnol, proffesiynol ar gyfer y gweithlu addysg yng Nghymru. Bydd tymor Angela fel Cadeirydd yn dod i ben ar 31 Mawrth 2023. Ar ran ein cofrestreion, rhanddeiliaid a staff CGA, hoffem ddiolch i Angela am ei chyfraniad hynod a dymuno pob dymuniad da iddi yn y dyfodol.