CGA / EWC

About us banner
CGA yn penodi aelodau newydd y Bwrdd Achredu AGA
CGA yn penodi aelodau newydd y Bwrdd Achredu AGA

Mae Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA) wedi croesawu dau aelod newydd i’w Fwrdd Achredu Addysg Gychwynnol Athrawon (AGA).

Bydd Andy Liptrot, Pennaeth Ysgol Gynradd Sandycroft, a Christine Jones, cyn Ddeon yr Athrofa Addysg a’r Dyniaethau ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, yn ymuno ag 11 aelod arall o’r bwrdd, dan gadeiryddiaeth Dr Hazel Hagger. Mae’r Bwrdd Achredu AGA yn gyfrifol am achredu rhaglenni AGA ledled Cymru.

Gan siarad yn sgil cael ei phenodi, dywedodd Christine “Plant a phobl ifanc yw ein dyfodol ac, felly, mae’n hynod bwysig ein bod yn sicrhau eu bod nhw’n cael yr addysg orau bosibl.

“Apeliodd y cyfle i gyfrannu at ddatblygiad addysg athrawon yn fawr ata’ i, nid yn unig oherwydd fy nghred ym mhwysigrwydd y maes, ond hefyd oherwydd fy mhrofiad helaeth ym maes ansawdd a safonau.”

Meddai Andy, sydd hefyd yn aelod o Banel Priodoldeb i Ymarfer CGA “Rwy’ wedi bod yn athro ysgol gynradd ers 1988 ac rwy’ wir yn credu mai addysgu yw’r swydd orau yn y byd. Rwy’n awyddus i fod yn rhan o AGA yng Nghymru i sicrhau bod athrawon y dyfodol yn cael y profiad gorau posibl.

“Rwy’n edrych ymlaen at weithio gyda gweddill y bwrdd a’r amrywiaeth o ddarparwyr AGA.”

Gan edrych ymlaen at ei hamser fel aelod o’r bwrdd, ychwanegodd Christine “Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at drafod y ddarpariaeth gyda phobl yn ein prifysgolion, ein hysgolion a’n partneriaethau sy’n gweithio mor ddiwyd ar gyfer athrawon y dyfodol. Ar yr un pryd, braint fydd sgwrsio â’r myfyrwyr hynny sydd wedi dewis dilyn gyrfa mor bwysig, gyrfa all gael effaith mor gadarnhaol ar eraill o’u cwmpas.”

Croesawodd Bethan Stacey, Cyfarwyddwr Datblygiad Proffesiynol, Achredu a Pholisi CGA, yr aelodau newydd, gan ddweud “Pleser yw croesawu Andy a Christine i’n bwrdd, ill dau yn uwch arweinwyr â chymaint o brofiad o’r sector addysg. Bydd eu gwybodaeth am y sectorau ysgolion a phrifysgolion, ynghyd â’u profiad o addysg gychwynnol athrawon, yn cyfoethogi ein carfan bresennol o aelodau bwrdd.”

Ewch i wefan CGA i gael rhagor o wybodaeth am achredu a rôl y Bwrdd Achredu AGA.