CGA / EWC

About us banner
CGA yn cyhoeddi ei adroddiad priodoldeb i ymarfer diweddaraf
CGA yn cyhoeddi ei adroddiad priodoldeb i ymarfer diweddaraf

Heddiw (26 Awst), mae Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA) wedi cyhoeddi ei Adroddiad Blynyddol Priodoldeb i Ymarfer 2021-22, yn amlinellu sut mae’r sefydliad wedi gweithio i ddiogelu buddiannau dysgwyr a phobl ifanc, rhieni, gwarcheidwaid a’r cyhoedd.

Fel rheoleiddiwr proffesiynol annibynnol ar gyfer ymarferwyr addysg yng Nghymru, un o swyddogaethau craidd CGA yw ymchwilio i’r nifer bach o honiadau a allai fwrw amheuaeth ynghylch priodoldeb cofrestrai i ymarfer, a chynnal gwrandawiad iddynt.

Mae’r adroddiad diweddaraf yn cynnwys data ar y mathau o achosion y mae CGA yn delio â nhw (gan gynnwys pobl sydd wedi cofrestru ar hyn o bryd a phobl sy’n gwneud cais i gofrestru), tueddiadau o flwyddyn i flwyddyn a phroffiliau’r bobl sy’n gysylltiedig ag achosion.

Mae’r adroddiad ar gael i’w ddarllen nawr trwy wefan CGA.