CGA / EWC

About us banner
CGA yn cyhoeddi cynlluniau at y dyfodol
CGA yn cyhoeddi cynlluniau at y dyfodol

Mae Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA) wedi cyhoeddi ei Gynllun Strategol 2023-26.

Mae'r cynllun yn gosod blaenoriaethau CGA ar gyfer y cyfnod, ac yn adlewyrchu ar ei rôl a'i gylch gwaith statudol, o fewn cyd-destun ehangach y dirwedd addysgiadol yng Nghymru.

Mae hefyd yn atgyfnerthu gweledigaeth CGA i fod yn rheoleiddiwr proffesiynol, annibynnol y gellid ymddiried ynddo, sy'n gweithio ym mudd y cyhoedd i gynnal proffesiynoldeb, a gwella safonau yn y gweithlu addysg.

Wrth lansio'r Cynllun Strategol, dywedodd Prif Weithredwr CGA, Hayden Llewellyn "Mae'r Cynllun Strategol wedi ei greu i roi cyfeiriad cryf i CGA fel sefydliad.

"O fewn y cynllun, ry'n ni'n gosod ein hymrwymiad i effeithiolrwydd a chynaladwyedd, tra'n amlinellu sut fyddwn yn sicrhau bod cydraddoldeb a thegwch yn parhau i fod yn rhan annatod o'n gweithrediadau a'n gweithdrefnau."

Mae fersiwn ddiweddaraf  Cynllun Cydraddoldeb Strategol CGA 2020-24  hefyd wedi ei gyhoeddi, sy'n esbonio sut, trwy ei rôl a'i gylch gwaith, bydd CGA yn ceisio datblygu ei ymdriniaeth o ran hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth dros y blynyddoedd nesaf.

Datblygwyd y cynlluniau mewn ymgynghoriad â chofrestreion, rhanddeiliaid ar draws y sector addysg ehangach, y cyhoedd, ac aelodau Cyngor y CGA a staff.

Gallwch ddarllen y  Cynllun Strategol 2023-26  ar wefan CGA ynghyd â'r gyfres gyfan o ddogfennau corfforaethol.