Yr haf hwn, bydd Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA) yn mynychu cyfres o ddigwyddiadau cenedlaethol blaenllaw ar hyd a lled Cymru i siarad â’i gynulleidfaoedd.
Caiff cofrestreion, rhieni/gwarcheidwaid, dysgwyr a phobl ifanc eu gwahodd i stondin CGA, lle y bydd amrywiaeth o weithgareddau i bobl o bob oed a phob grŵp, ynghyd â chyfle i drafod gwaith CGA wyneb yn wyneb.
Bydd y tîm yn mynd i’r digwyddiadau canlynol:
- Eisteddfod yr Urdd – Parc Margam, 26 Mai – 31 Mai 2025
- Tafwyl – Caerdydd, 14-15 Mehefin 2025
- MELA Caerdydd – Caerdydd, 15 Mehefin 2025
- Pride Cymru – Caerdydd, 21–22 Mehefin 2025
- Sioe Frenhinol Cymru – Llanelwedd, 21–24 Gorffennaf 2025
- Eisteddfod Genedlaethol Cymru – Wrecsam, 2–9 Awst 2025
Bydd mynychwyr yn gallu sgwrsio â’r tîm am gyfrifoldebau rheoleiddio CGA, yr amrywiol adnoddau sydd ar gael i gefnogi cofrestreion a’r cyhoedd yn ehangach, gyrfaoedd mewn addysg, datblygiad proffesiynol, a llawer mwy.
Meddai Lisa Winstone, Cyfarwyddwr Cyllid a Gwasanaethau Corfforaethol, a Dirprwy Brif Weithredwr CGA “Mae digwyddiadau’r haf yn ffordd wych i ni sgwrsio’n uniongyrchol â’n cofrestreion ac aelodau’r cyhoedd. Maen nhw’n rhoi cyfle gwerthfawr nid yn unig i ni rannu gwybodaeth am ein rôl yn rheoleiddio’r gweithlu addysg yng Nghymru, ond i glywed adborth yn uniongyrchol gan gofrestreion, a’r cyhoedd, yr ydym yn gweithio er eu budd nhw.
“Edrychwn ymlaen at gwrdd â phawb ac ateb unrhyw gwestiynau sydd ganddynt am ein gwaith, felly da chi, galwch heibio i’r stondin os byddwch chi’n mynd i’r digwyddiadau hyn.”
Bydd diweddariadau o bob digwyddiad, gan gynnwys ble yn union y mae stondin CGA, ar gael trwy sianeli CGA ar y cyfryngau cymdeithasol, Facebook a LinkedIn.