Croeso i Meddwl Mawr, sef clwb llyfrau a chyfnodolion newydd Cyngor y Gweithlu Addysg
Gall ymddiddori mewn ymchwil chwarae rhan bwysig wrth eich helpu i ddatblygu eich syniadau a’ch ymarfer eich hun fel gweithiwr addysg proffesiynol. Dyna pam rydym ni wedi dechrau ‘Meddwl Mawr’, sef clwb llyfrau a chyfnodolion newydd sydd â’r nod o’ch cefnogi chi ar eich taith dysgu proffesiynol.
Bydd y clwb llyfrau a chyfnodolion yn eich helpu i wneud y mwyaf o dros 4,500 o gyfnodolion, papurau ac e-lyfrau addysg sydd ar gael yn rhad ac am ddim i chi ar EBSCO, sef llyfrgell ymchwil addysg fwyaf y byd.
Byddwn yn cyhoeddi argymhellion rheolaidd ar y dudalen hon, yn cwmpasu amrywiaeth o bynciau diddorol, gan eich cyfeirio at rywfaint o’r cynnwys gwych sydd ar gael yn eich llyfrgell ar-lein rhad ac am ddim.
Diolch i’ch cofrestriad gyda CGA, gallwch fynd yn rhad ac am ddim at EBSCO trwy eich Pasbort Dysgu Proffesiynol (PDP).
Cadwch lygad ar y dudalen hon i weld yr argymhellion diweddaraf. I glywed amdanynt cyn gynted ag y byddant wedi’u cyhoeddi, gwnewch yn siŵr eich bod yn tanysgrifio i'n rhestr bostio.
Sut i fynd at EBSCO
Dau gam syml y mae angen eu dilyn i fynd at EBSCO.
- Mewngofnodwch i’ch PDP. Heb osod eich PDP eto? Gallwch gofrestru try FyCGA.
- Cliciwch ar yr opsiwn ‘help ac adnoddau’ ar ddangosfwrdd y PDP.
I ddysgu sut i ddefnyddio EBSCO, darllenwch ein canllaw.
Eich argymhellion
Rydym yn awyddus i glywed am unrhyw lyfrau neu erthyglau mewn cyfnodolion ar EBSCO a oedd yn ddiddorol, yn cynnig mwynhad neu’n ddefnyddiol yn eich barn chi. Os hoffech rannu argymhelliad Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld..
Mai 2022
Measuring Up: What educational testing really tells us – Daniel Koretz
Mae’r llyfr hawdd ei ddarllen hwn sy’n llawn gwybodaeth graff ac enghreifftiau diddorol, yn trafod rhai o’r materion mwyaf sylfaenol sy’n codi ym maes profi addysgol.
Mae Measuring Up, sy’n rhoi cyngor clir a rhesymegol, yn ceisio chwalu’r mythau sy’n ymwneud â phrofi addysgol. Gan ddefnyddio enghreifftiau o fywyd pob dydd, mae Koretz yn tywys y darllenydd trwy egwyddorion profi a dylunio profion. Mae’r llyfr yn trafod beth mae profion yn gallu ei wneud yn dda, yn ogystal â’u terfynau, ac yn edrych ar ba mor rhwydd y gall profion a sgorau gael eu camddeall.
Un o’r llyfrau mwyaf darllenadwy am brofi y byddwch yn dod ar ei draws.
Assessment for Learning: Putting it into practice - Paul Black, Chris Harrison, Clara Lee, Bethan Marshall a Dylan Wiliam
Mae’r llyfr hwn, sy’n cynnig gwybodaeth werthfawr am asesu ar gyfer dysgu, yn rhoi cyngor ac arweiniad ymarferol ar weithredu dulliau newydd ac arloesol i wella addysgu a dysgu.
Mae Assessment for Learning – Putting it into practice wedi’i seilio ar brosiect dwy flynedd yn cynnwys tri deg chwech o athrawon mewn ysgolion ym Medway a Swydd Rydychen. Mae’r ymchwil yn canolbwyntio ar bedwar maes allweddol o asesu ffurfiannol: holi, dulliau adborth, asesu gan gymheiriaid a hunanasesu, a defnydd ffurfiannol o brofion crynodol.
Mae’r llyfr hwn yn dangos yn glir pŵer asesu ar gyfer dysgu a’i effaith ar ddysgu a chyflawniad myfyrwyr.
Ebrill 2022
Y mis hwn, rydym wrth ein bodd i rannu dau argymhelliad gwadd gan yr Athro John Furlong OBE.
Mae’r Athro Furlong yn Gymrawd Emeritws Coleg Green Temple ac yn Athro Emeritws Addysg ym Mhrifysgol Rhydychen.
Ef yw awdur adroddiad ‘Addysgu Athrawon Yfory’ (2015), a helpodd i lunio’r weledigaeth ar gyfer dyfodol addysg gychwynnol athrawon (AGA) yng Nghymru. Ef hefyd oedd Cadeirydd cyntaf Bwrdd Achredu AGA CGA.
Rwy’n argymell dwy erthygl rwy’n credu y dylai ein holl gydweithwyr yng Nghymru sydd â diddordeb mewn addysg gychwynnol athrawon (AGA) eu darllen. Cawsant eu cyhoeddi yn y lle cyntaf gan Ymchwiliad BERA-RSA i Ymchwil ac Addysg Athrawon, a daethant yn ganolog i’r meddwl sy’n sail i’r model AGA newydd sydd bellach wedi’i fabwysiadau yng Nghymru.
Mae’r papur cyntaf, gan Winch, Oancea ac Orchard, yn edrych ar wahanol gysyniadaeth o’r hyn mae bod yn athro effeithiol yn ei olygu: yr athro fel ‘crefftwr’, arbenigwr mewn gwybodaeth wedi’i lleoli; yr athro fel ‘technegydd gweithredol’, arbenigwr mewn gwybodaeth dechnegol. Maent yn dadlau, er bod pob un o’r dimensiynau hyn yn bwysig, bod proffesiynoldeb go iawn yn galw am rywbeth ychwanegol; sef y gallu i lunio barnau beirniadol o wybodaeth sydd eisoes yn bodoli, a’i pherthnasedd i sefyllfaoedd penodol.
Wedyn mae’r papur adnabyddus gan Burn a Mutton yn mynd ymlaen i edrych ar y ffyrdd mae rhaglenni AGA arloesol o gwmpas y byd wedi ceisio darparu cyfleoedd i athrawon sy’n dechrau wneud hynny’n union - dod â ffurfiau gwahanol ar wybodaeth broffesiynol ynghyd wrth ddatblygu eu hymarfer eu hunain. Mae’r papur hefyd yn edrych ar y dystiolaeth bod yr hyn maent yn eu galw’n ‘arferion clinigol seiliedig ar ymchwil’ yn gwella dysgu proffesiynol athrawon a deilliannau disgyblion.
- Christopher Winch, Alis Oancea a Janet Orchard (2015) The contribution of educational research to teachers’ professional learning: philosophical understandings, Oxford Review of Education
- Katharine Burn a Trevor Mutton (2015) A review of ‘research-informed clinical practice’ in Initial Teacher Education, Oxford Review of Education
Mawrth 2022
Creating Learning without Limits - Mandy Swann, Alison Peacock, Susan Hart a Mary Jane Drummond
Mae'r llyfr diddorol ac ysbrydoledig hwn yn adrodd hanes sut y creodd ysgol gynradd, a oedd ar un adeg ag angen mesurau arbennig, amgylchedd dysgu sy'n 'gynhwysol, yn drugarog ac yn galluogi pawb'.
Mae Creating Learning without Limits yn adeiladu ar ymchwil flaenorol ar arfer yn yr ystafell ddosbarth gan yr awduron, ac yn archwilio sut y gellir gwella gallu dysgu pob plentyn drwy greu amgylchedd ystafell ddosbarth sy'n gynhwysol ac yn rhydd o labeli 'gallu'.
Mae hwn yn llyfr y dylai unrhyw addysgwr sy'n credu ym photensial di-derfyn pob dysgwr a pherson ifanc ei ddarllen.
Motivation to Learn: Transforming classroom culture to support student achievement - Michael Middleton a Kevin Perks
P'un a ydych yn athro newydd gymhwyso, neu'n ymarferydd profiadol, un o'r heriau mwyaf ar gyfer unrhyw addysgwr yw sut i ysgogi dysgwyr.
Mae ‘Motivation to Learn: Transforming Classroom Culture to Support Student Achievement’ yn darparu strategaethau pendant i helpu addysgwyr greu amgylchedd dysgu sy’n cynyddu ymgysylltiad myfyrwyr i'r eithaf.
Yn ogystal ag adolygu'r seicoleg y tu ôl i gymhelliant, mae'r llyfr hwn yn darparu cyfleoedd ar gyfer hunanfyfyrio, astudiaethau achos bywyd go iawn a syniadau ymarferol y gellir eu gweithredu ar unwaith yn yr ystafell ddosbarth.
Chwefror 2022
Leading Futures: Global Perspectives on Educational Leadership – Golygwyd gan Alma Harris a Michelle S. Jones
Mae arweinwyr wedi chwarae rôl sylweddol mewn llwyddiant addysgol erioed, ond wrth i bwysau newydd a chynyddol gael eu rhoi ar ddarparwyr addysg, mae pwysigrwydd arweinyddiaeth dda wedi tyfu hyd yn oed ymhellach.
Gan dynnu ar astudiaeth ryngwladol uchelgeisiol, mae Leading Futures yn cynnig amrywiol safbwyntiau ar arweinyddiaeth addysgol o gyfeiriadau lliaws.
Gan dynnu ynghyd academyddion, llunwyr polisi ac ymarferwyr o bob cwr o’r byd, mae Leading Futures yn cyflwyno syniadau a mewnwelediadau newydd a fydd yn berthnasol ac o gymorth i bob arweinydd ym myd addysg.
Coherent School Leadership: Forging clarity from complexity - Michael Fullan a Lyle Kirtman
Mae Coherent School Leadership yn egluro camau’r llwybr i arweinyddiaeth lwyddiannus drwy ddarparu strategaethau ymarferol a defnyddiol i gefnogi unigolion i gael y gorau allan ohonyn nhw eu hunain, ac o’r rhai y maent yn eu harwain.
Drwy gyfuno fframweithiau profedig fel Fframwaith Cydlyniaeth Fullan, y Coherence Framework a chymwyseddau Kirtman, y 7 Competencies for Highly Effective Leaders, mae’r llyfr hwn yn cefnogi’r darllenydd i newid y diwylliant mewn ysgolion o adweithiol i ragweithiol.
Llyfr hanfodol i arweinwyr ar bob lefel.
Ionawr 2022
Teaching Students to Become Self-Determined Learners – Michael Wehmeyer a Yong Zhao

Mae Teaching Students to Become Self-Determined Learners yn edrych ar y dulliau a’r rhesymau am ddysgu hunanbenderfynol ac yn rhoi cyngor ymarferol i gynorthwyo addysgwyr wrth ysgogi eu myfyrwyr i ddod yn ddysgwyr hunanbenderfynol.
Pan fydd oedolion yn dysgu pethau newydd, mae fel arfer oherwydd eu bod yn dymuno gwneud (hynny), neu oherwydd bod y pwnc yn bwysig iddynt. Yn aml ni roddir yr opsiwn hwnnw i blant. Drwy gydol y llyfr hwn, mae Wehmeyer a Zhao yn ymchwilio i bwysigrwydd ymreolaeth a dewis mewn dysgu, gan drafod sut y gall cysyniad dysgu hunanbenderfynol gyrraedd cynulleidfa ehangach o ddysgwyr.
Mae’r llyfr hwn, sydd wedi’i fwriadu i gynorthwyo addysgwyr i roi i fyfyrwyr yr annibyniaeth i lywio eu dysgu eu hunain, yn cynnig strategaethau a thechnegau ynghylch sut y gellir rhoi’r dull ar waith.
Efallai y bydd gennych ddiddordeb hefyd yn…
Ein darlith flynyddol: Siarad yn Broffesiynol 2022 gyda’r Athro Yong Zhao – Myfyrwyr fel perchnogion dysgu a phartneriaid newid addysgol
Yn ein darlith yn 2022, canolbwyntiodd yr arweinydd meddwl rhyngwladol, addysgwr, ac awdur enwog, Yr Athro Yong Zhao, sydd wedi cael clod gan yr adolygwyr, ar ddod â’r dysgwr yn ôl i ganol ymarfer, gan drafod arwyddocâd amrywiaeth dysgwyr, bwriad dysgwyr, ac ymgysylltiad dysgwyr â newidiadau addysgol, yn enwedig ar ôl y pandemig COVD-19.
Darganfod mwy.
Rhagfyr 2021
A Teacher’s Guide to Classroom Research – David Hopkins
Yn yr argraffiad diweddaraf o’r llyfr hygyrch ac atyniadol hwn, mae David Hopkins, cyn-athro ysgol uwchradd sy’n Gadeirydd Arweinyddiaeth Addysgol ym Mhrifysgol Bolton ar hyn o bryd (ac yn gyn-Brif Gynghorydd ar safonau ysgolion i dri Ysgrifennydd Gwladol) yn darparu canllaw cynhwysfawr i unrhyw un sydd â diddordeb mewn gwella ansawdd dysgu ac addysgu.
Mae’r llyfr yn disgrifio sut i gychwyn ar ymchwil ystafell ddosbarth ac yn nodi egwyddorion a dulliau allweddol (gan gynnwys cyngor ar ddehongli a dadansoddi data). Mae Hopkins hefyd yn cynghori ar sut i adrodd ar ganfyddiadau prosiectau ymchwil ystafell ddosbarth ac yn esbonio sut y gellir cymhwyso canfyddiadau ymchwil i ddysgu ac addysgu.
Mae A Teacher’s Guide to Classroom Research, sy’n cynnwys nifer o astudiaethau achos craff, yn cynnig cyngor cyfeillgar ac ymarferol ac ar yr un pryd yn darparu fframwaith eglur ar gyfer cyflawni ymchwil ystafell ddosbarth effeithiol.
A Toolkit for Action Research– Sandra M. Alber
Llawlyfr cynhwysfawr ac ymarferol yw A Toolkit for Action Research. Mae’r llyfr hygyrch hwn, sy’n addas i’w ddefnyddio ar ei ben ei hun, neu ochr yn ochr â thestunau ymchwil weithredu eraill mwy traddodiadol, yn darparu cannoedd o fframiau, offer a thempledi hawdd i’w dilyn i gynorthwyo ymchwilwyr.
Mae ymagwedd Alber yn debygol o fod yn arbennig o ddefnyddiol i ymchwilwyr llai profiadol, gan helpu i bontio’r bwlch rhwng damcaniaeth a sefyllfaoedd yn y byd go iawn, gan lywio’r darllenydd trwy holl gamau ei brosiect ymchwil – o ddewis pwnc i’w astudio i gwblhau adroddiadau terfynol.
Tachwedd 2021
Resisting racism: Race, inequality, and the Black supplementary school movement - Kehinde Andrews
Yn y llyfr ysbrydoledig hwn, mae'r Athro Kehinde Andrews yn ystyried sut y datblygodd y mudiad ysgolion atodol Du yn y DU dros gyfnod o 50 mlynedd. Mae'n amlinellu natur ddeinamig y mudiad a'r rôl y chwaraeodd gwirfoddolwyr, athrawon, rhieni, eglwysi a grwpiau cymunedol wrth ei ddatblygu.
Mae'r llyfr yn archwilio hanes ysgolion atodol a phrofiadau'r rhai sydd wedi bod yn gysylltiedig â nhw. Mae'n dadlau bod y mudiad wedi chwarae rôl allweddol wrth wrthsefyll anghydraddoldeb addysgol a gwella gobeithion bywyd plant Du mewn ysgolion prif ffrwd.
It's Not Just About Black and White, Miss: Children's Awareness of Race – Sally Elton-Chalcraft
Mae 'It's Not Just About Black and White, Miss' yn canolbwyntio ar agweddau plant cynradd tuag at hil ac amrywiaeth ddiwylliannol yn y DU. Yn y llyfr, mae Sally Elton-Chalcraft yn cyfweld â phlant naw a deg oed o ddwy ysgol sy'n wyn yn bennaf, a dwy ysgol sy'n amrywiol eu hethnigrwydd. Wrth recordio'u safbwyntiau am hil a diwylliant, canfu eu bod wedi 'mewnoli'r meddylfryd gorllewinol trechaf - ni waeth beth oedd eu hethnigrwydd nhw eu hunain’.
Mae'r awdur yn rhoi safbwyntiau'r plant yn eu cyd-destun, gan ddefnyddio'i harsylwadau hi o fywyd ysgol a safbwyntiau ac arferion athrawon fel ei gilydd. Mae'r llyfr yn oleuedig ac yn braf ei ddarllen, ac er ei fod yn debygol o fod o ddiddordeb i athrawon a hyfforddeion cynradd, mae hefyd yn rhywbeth i uwch arweinwyr gnoi cil arno.
Hydref 2021
Rydym ni wedi dewis dau lyfr i ddechrau ein hargymhellion ar Meddwl Mawr, ill dau’n bwrw golwg ar agweddau gwahanol ar addysgeg. Maent ar gael yn rhad ac am ddim ar EBSCO.
Make it Stick - Peter C. Brown, Mark A. McDaniel and Henry L Roediger
Mae’r llyfr difyr hwn ar wyddor dysgu yn cynnig cyngor defnyddiol i athrawon, hyfforddwyr, myfyrwyr ac eraill sydd â diddordeb mewn dysgu gydol oes a hunanwella, gan ddadlau bod "dysgu’n ddwysach ac yn gryfach pan fydd yn mynnu ymdrech. Mae dysgu sy’n hawdd fel ysgrifennu mewn tywod, yn diflannu gyda’r llanw".
Trwy fanteisio ar seicoleg wybyddol a meysydd eraill, mae Make it Stick yn awgrymu technegau ar gyfer dod yn ddysgwyr mwy cynhyrchiol ac mae’n dadlau bod y rhain yn aml yn groes i reddf. Hefyd, mae Brown, McDaniel a Roediger yn dadlau bod agwedd gadarnhaol tuag at eich galluoedd eich hun a pharodrwydd i ‘fynd i’r afael â’r pethau anodd’ yn gallu chwarae rhan hanfodol wrth alluogi unigolyn i gyflawni ei nodau.
The Expert Learner: challenging the myth of ability - Gordon Stobart
Beth sydd gan Amadeus Mozart a David Beckham yn gyffredin? Dyna’r cwestiwn y mae Gordon Stobart yn ei ofyn ar ddechrau The Expert Learner. Ac yntau’n ymosod ar ‘fyth gallu’, mae Stobart yn dadlau bod Mozart a Beckham, fel llawer o bobl eraill sy’n rhagori yn eu maes, wedi gwneud hynny o ganlyniad i ymarfer a dycnwch i raddau helaeth, yn hytrach na gallu cynhenid neu ffawd enynnol.
Mae The Expert Learner yn amlygu pwysigrwydd ymarfer addysgu da wrth ddatblygu gallu. Trwy ddefnyddio enghreifftiau difyr o feysydd chwaraeon, y gwyddorau, meddygaeth a cherddoriaeth, mae Stobart yn archwilio’r ffyrdd mwyaf effeithiol o gefnogi a datblygu sgiliau. Yn ogystal, mae’n mynd i’r afael â ffyrdd y gall athrawon (ac arweinwyr) symbylu myfyrwyr heb gymhelliad ac ymestyn eu myfyrwyr uchel eu cyflawniad.
Beth yw eich ymateb?
Beth oedd eich barn chi am argymhellion y mis hwn? Sut gwnaethant helpu i ddatblygu’ch ymarfer? Trydarwch eich ymateb gan ddefnyddio #MeddwlMawr
Beth am ddefnyddio’r offerynnau sydd o fewn y PDP i fyfyrio ar y syniadau a amlygwyd gan argymhellion y mis hwn, a sut gallwch eu cymhwyso i’ch ymarfer eich hun?
A yw ein hargymhellion wedi’ch ysbrydoli ac rydych felly am rannu’r hyn a ddysgoch gyda’ch cydweithwyr? Beth am ddarllen ein canllaw ar sefydlu clwb cyfnodolion.
A Teacher’s Guide to Classroom Research – David Hopkins