O dan Reoliadau Addysg (Cymru) 2014 daeth yn ofynnol i ni sefydlu a chynnal Cofrestr Ymarferwyr Addysg yng Nghymru. O dan Reoliadau Cyngor y Gweithlu Addysg (Prif Swyddogaethau) (Cymru) 2015, mae cofrestru'n ofyniad statudol ar gyfer:
Athrawon ysgol cofrestredig
os ydynt yn gweithio neu'n bwriadu gweithio fel athro ysgol cymwysedig (gyda Safon Athro Cymwysedig (SAC)) mewn ysgol a gynhelir yng Nghymru, mae'n rhaid iddynt gofrestru yn y categori 'athro ysgol'.
Noder: Rhoddir statws cofrestru 'dros dro' i athrawon sy'n gorfod cwblhau'r cyfnod Sefydlu statudol yng Nghymru ond sydd heb wneud eto (yn amodol ar ddiwallu'r gofynion addasrwydd)
Canllawiau ar gofrestru athrawon ysgol a gweithwyr cymorth dysgu ysgol
Athrawon addysg bellach cofrestredig
os ydynt yn gweithio neu'n bwriadu gweithio fel athro addysg bellach mewn sefydliad addysg bellach yng Nghymru, mae'n rhaid iddynt gofrestru yn y categori 'athro addysg bellach'.
Canllawiau ar gofrestru darlithwyr AB a gweithwyr cymorth dysgu AB
Gweithwyr cymorth dysgu ysgolion
os ydynt yn gweithio neu'n bwriadu gweithio fel gweithiwr cymorth dysgu ysgolion mewn ysgol a gynhelir yng Nghymru. Mae'n rhaid iddynt gofrestru yng nghategori 'gweithiwr cymorth dysgu ysgolion.'
Canllawiau ar gofrestru athrawon ysgol a gweithwyr cymorth dysgu ysgol
Gweithwyr cymorth dysgu addysg bellach
os ydynt yn gweithio neu'n bwriadu gweithio fel gweithiwr cymorth dysgu addysg bellach mewn sefydliad addysg bellach yng Nghymru, mae'n rhaid iddynt gofrestru yng nghategori 'gweithiwr cymorth dysgu addysg bellach.'
Canllawiau ar gofrestru darlithwyr AB a gweithwyr cymorth dysgu AB
Ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith
os ydynt yn gweithio neu'n bwriadu gweithio fel ymarferydd dysgu seiliedig ar waith (e.e hyfforddwr, aseswr, cyflwynydd dysgu, hyfforddwr neu'n fentor) ar gyfer neu ar ran darparwr dysgu seiliedig ar waith. Mae hyn hefyd yn cynnwys yr ymarferwyr hynny sy'n cydlynu cyflwyno dysgu seiliedig ar waith megis y rhai sy'n ymwneud â rolau rheoli / arweinyddiaeth; sicrwydd ansawdd staff.
Gweithwyr ieuenctid
os ydynt yn gweithio neu'n bwriadu gweithio fel person sy’n darparu gwasanaethau datblygu ieuenctid dros, neu ar ran, awdurdod lleol, ysgol, sefydliad AB neu sefydliad gwirfoddol yng Nghymru. Mae’r categori cofrestru hwn yn ddarostyngedig i ofynion cymhwyster gorfodol .
Canllawiau ar gofrestru gweithwyr ieuenctid a gweithwyr cymorth ieuenctid
Gweithwyr cymorth ieuenctid
os ydynt yn gweithio neu'n bwriadu gweithio fel person sy'n darparu gwasanaethau datblygu ieuenctid dros, neu ar ran, awdurdod, ysgol, sefydliad AB lleol neu sefydliad gwirfoddol yng Nghymru. Mae'r categori cofrestru hwn yn ddarostyngedig i ofynion cymhwyster gorfodol .
Canllawiau ar gofrestru gweithwyr ieuenctid a gweithwyr cymorth ieuenctid
Yn unol â'r rheoliadau hyn, mae rhwymedigaeth gyfreithiol ar gyflogwyr i sicrhau bod eu cyflogeion wedi'u cofrestru gyda'r Cyngor cyn dechrau gwaith. Mae'r gofyniad hwn yn berthnasol i gyflogwyr sy'n gweithio ar sail amser llawn, rhan-amser (gan gynnwys am dâl yr awr) neu fel athrawon cyflenwi.