Lois Bennett – 7 Mai 2025
Dyddiad cyhoeddi: 14 Mai 2025
Mae Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA), oedd yn eistedd yn rhithiol ar 6 a 7 Mai 2025, wedi canfod bod honiadau o ymddygiad proffesiynol annerbyniol wedi eu profi yn erbyn gweithiwr cymorth dysgu, Lois Bennett.
Canfu'r Pwyllgor bod yr honiadau canlynol wedi eu profi, tra ei bod wedi ei chyflogi fel Gweithiwr Cymorth Dysgu yn Ysgol Gynradd Gymunedol y Graig, fe wnaeth Miss Bennett:
- ar neu o gwmpas 23 Hydref 2023, mewn perthynas â disgybl A:
- wedi hisio yn a/neu wrth ymyl eu hwyneb
- wedi gwneud ystum gyda'i llaw yn a/neu yn agos i'w hwyneb
- o ran ei hymddygiad ym mharagraff 1, fe wnaeth recordio'r digwyddiad ar ei ffôn symudol
- o ran ei hymddygiad ym mharagraff 2, fe rannodd y recordiad a/neu fideo o ddisgybl A gydag o leiaf un person nad oedd wedi eu cyflogi gan yr ysgol.
- o ran eu hymddygiad ym mharagraff 2 a 3:
- rhannwyd y fideo ar gyfryngau cymdeithasol
- roedd hi'n gwybod, neu dylai fod wedi gwybod bod risg y gallai'r fideo fod wedi ei rannu ar gyfryngau cymdeithasol
- wedi torri polisi cyfryngau cymdeithasol yr ysgol
Rhoddodd y Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer Orchymyn Atal (gydag amodau) ar gofrestriad Miss Bennett fel gweithiwr cymorth dysgu am gyfnod o 12 mis (o 7 Mai 2025 hyd 7 Mai 2026), cyn belled â'i bod yn bodloni'r amodau a nodir o fewn y terfyn amser.
O'r herwydd ni fydd Miss Bennett yn gallu gweithio fel gweithiwr cymorth dysgu ysgol mewn ysgol a gynhelir, neu ysgol arbennig na chynhelir yng Nghymru am gyfnod y gorchymyn.
Mae gan Miss Bennett yr hawl i apelio i'r Uchel Lys o fewn 28 diwrnod.