CGA / EWC

About us banner
Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon ar gyfer y flwyddyn yn diweddu 31 Mawrth 2024
Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon ar gyfer y flwyddyn yn diweddu 31 Mawrth 2024

 

Amcan 2: Cefnogi dysgu a phroffesiynoldeb o fewn y gweithlu addysg

Cefnogi ymarfer proffesiynol cofrestreion

Sefydlu

Rydym yn gweinyddu trefniadau cyllido, cofnodi, ac olrhain ar gyfer sefydlu statudol athrawon ysgol ar ran Llywodraeth Cymru. Mae hyn yn golygu gweithio’n agos gydag awdurdodau lleol, y consortia rhanbarthol, mentoriaid, athrawon newydd gymhwyso (ANG), a Llywodraeth Cymru. Yn 2023-24, roedd y gwaith hwn yn cynnwys:

  • cynorthwyo 2,846 o athrawon newydd, 1,035 o fentoriaid sefydlu, 479 o wirwyr allanol a dros 850 o ysgolion yn rhan o’r rhaglen sefydlu
  • dosbarthu dros £4.21 miliwn o gyllid ar gyfer sefydlu i ysgolion, sy’n cyfateb i 3,828 o daliadau
  • rhyddhau dros £2.63 miliwn i’r consortia rhanbarthol i gefnogi gwirwyr allanol
  • darparu cymorth gweinyddol wedi’i deilwra i gefnogi pob un o’r consortia rhanbarthol
  • darparu gwasanaethau ar-lein, cyfleusterau desg gymorth, ac arddangosiadau i bob ymarferydd cofrestredig sy’n cael at ei broffil sefydlu, gwirwyr allanol, y consortia rhanbarthol, awdurdodau lleol, ac ysgolion

E-bortffolio cenedlaethol – Pasbort Dysgu Proffesiynol (PDP)

Parhaom i ddatblygu a chynnal e-bortffolio cenedlaethol ar gyfer ein cofrestreion i’w cynorthwyo i gynllunio, cofnodi, a myfyrio ar eu profiadau a’u dysgu proffesiynol, a rhyngweithio â’u safonau proffesiynol. Ers iddo gael ei lansio ym mis Medi 2016, mae dros 42,000 o ymarferwyr wedi creu eu PDP, gyda bron 5,800 o gyfrifon ers 1 Ebrill 2023.

Rydym wedi darparu hyfforddiant a chymorth ar-lein drwy gydol y flwyddyn i helpu cofrestreion i ddefnyddio’r PDP, gweithio gyda phartneriaid i ddatblygu llawlyfrau pwrpasol yn y PDP, a datblygu animeiddiad byr (a gyhoeddwyd ar ein gwefan) sy’n hyrwyddo buddion y PDP.

Digwyddiadau i gefnogi ymarfer proffesiynol cofrestreion

Rydym yn cynnal ystod o ddigwyddiadau i gofrestreion sy’n canolbwyntio ar eu cefnogi mewn meysydd ymarfer allweddol a’u helpu i gydymffurfio â’r Cod Ymddygiad ac Ymarfer Proffesiynol. Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, rydym wedi parhau i ddefnyddio ein digwyddiadau i arddangos syniadau arloesol a siaradwyr o’r radd flaenaf ar draws amrywiaeth o bynciau.

Ym mis Ionawr 2024, roeddem yn falch o groesawu’r Athro Shaaron Ainsworth i gyflwyno ein darlith flynyddol, Siarad yn Broffesiynol. Mynychwyd y digwyddiad gan fwy na 240 o bobl a glywodd Shaaron yn siarad ar bwnc ‘Datgloi dirgelion dysgu’, gan daflu goleuni ar fyd gwyddor wybyddol ac addysg.

Astudiaeth achos: Dosbarth Meistr CGA 2023 – deall a mynd i’r afael ag aflonyddu rhywiol mewn lleoliadau addysgol

Ym mis Mai 2023, fe wnaethom gynnal Dosbarth Meistr (a fynychwyd gan fwy na 175 o bobl) ar ddeall a mynd i’r afael ag aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion, a chreu ymagweddau ataliol a rhagweithiol ar draws y sefydliad cyfan i fynd i’r afael â’r mater. Prif siaradwr y digwyddiad oedd EJ Renold, Athro Astudiaethau Plentyndod ym Mhrifysgol Caerdydd. Ymunwyd â nhw gan siaradwyr o NEU Cymru, yr NSPCC, Brook, Barnardo’s Cymru, Cymorth i Ferched Cymru, ac Estyn.

Yn dilyn y digwyddiad, recordiwyd rhifyn arbennig o’n podlediad, ‘Sgwrsio gyda CGA’, yn canolbwyntio ar aflonyddu rhwng cyfoedion. Fe wnaethom hefyd gyhoeddi canllaw arfer da yn rhoi gwybodaeth i gofrestreion ar sut i atal, adnabod, ac ymateb i ddigwyddiadau aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion a mathau eraill o ymddygiad rhywiol niweidiol (a gefnogwyd gan Brook, yr NSPCC, a Barnardo’s Cymru).

Cefnogi ymchwil gan ymarferwyr

Yn unol â’n strategaeth ymchwil, rydym wedi parhau i hyrwyddo a chefnogi ymgysylltu ag ymchwil ar draws ein grwpiau o gofrestreion. Llinyn arall o’n gwaith i helpu ein cofrestreion i gydymffurfio ag agweddau penodol ar ein Cod Ymddygiad ac Ymarfer Proffesiynol.

Rydym yn cynnig ystod o adnoddau ar-lein i gofrestreion er mwyn annog ymchwil agos i ymarfer, gan gynnwys darparu mynediad am ddim at becyn EBSCO o gyfnodolion ac e-lyfrau academaidd. Rydym yn defnyddio Meddwl Mawr, ein clwb llyfrau a chyfnodolion, i godi ymwybyddiaeth o EBSCO, ac yn annog cofrestreion i droi at yr adnodd rhad ac am ddim hwn. Yn ystod 2023-24, gwnaethom argymell 18 o lyfrau yn ymdrin â phynciau fel ymwybyddiaeth ofalgar, cefnogi dysgwyr â dyslecsia, cynllunio gwersi, ac addysg deg.

Cyfathrebu ac ymgysylltu

Rydym wedi parhau i gryfhau ein gweithgarwch cyfathrebu ac ymgysylltu yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.

Ym mis Ebrill 2024, gwnaethom lansio ymgyrch i godi ein proffil ymhellach ymhlith cofrestreion, rhieni/gwarcheidwaid, y cyhoedd, a’n rhanddeiliaid. Yn rhan o’r ymgyrch, fe wnaethom gynnal adolygiad llawn o’n llenyddiaeth gorfforaethol, mynychu pum digwyddiad cenedlaethol, lansio cyfres o bodlediadau ‘Sgwrsio gyda CGA’, a chynnal tri digwyddiad CGA. Bydd y gwaith hwn yn cael ei adolygu a bydd yn parhau yn y flwyddyn ariannol nesaf.

Mae ein hyfforddiant, sesiynau cymorth, a chyflwyniadau ar-lein wedi cael eu hategu ymhellach trwy ychwanegu fideos hyfforddi ar gais, a dau animeiddiad corfforaethol sy’n rhoi trosolwg o’r Cod Ymddygiad ac Ymarfer Proffesiynol a’r Pasbort Dysgu Proffesiynol. Mae hyn wedi ein helpu i ddenu 852,841 o edrychiadau ar dudalennau ein gwefan.

Ailddyluniwyd ac ail-lansiwyd y wefan ei hun ym mis Mai 2023, gan ymgorffori gwelliannau i hygyrchedd, taith y defnyddiwr, brandio, llywio, a gosodiad. Ceisiwyd adborth parhaus gan ddefnyddwyr ers i ni fynd yn fyw a gweithredwyd arno, lle y bo’n briodol.

Cawsom sylw helaeth yn y cyfryngau eleni, gyda diddordeb arbennig yn ein gwaith priodoldeb i ymarfer. Fodd bynnag, roedd gan y wasg ddiddordeb mewn pynciau eraill hefyd fel y Marc Ansawdd, canlyniadau ein harolwg 2023 o’r Gweithlu Addysg Bellach a Dysgu Seiliedig Ar Waith, a’n cydweithrediad â sefydliadau eraill i wella amrywiaeth y gweithlu addysg.

  • 16,182 o alwadau ffôn wedi’u derbyn
  • 260+ o gyflwyniadau a sesiynau cymorth wedi’u darparu
  • 852,841 o edrychiadau ar dudalennau ar ein gwefan
  • 9,657 o ddilynwyr ar gyfryngau cymdeithasol
  • 7 blog gwadd wedi’u cyhoeddi gan unigolion amlwg ym myd addysg
  • 8 cylchlythyr wedi’u cyhoeddi

Astudiaeth achos: podlediad Sgwrsio gyda CGA

Ym mis Mehefin 2023, lansiwyd ein podlediad newydd ‘Sgwrsio gyda CGA’ ac rydym wedi rhyddhau pedair pennod yn y gyfres hyd yma. Nod y podlediad yw ymdrin ag ystod o faterion sydd o ddiddordeb i’n cofrestreion, gan rannu profiadau, syniadau, safbwyntiau, a rhoi mewnwelediadau sy’n procio’r meddwl i’w helpu â’u hymarfer o ddydd i ddydd. Rydym eisoes wedi ymdrin ag ystod o bynciau, gan gynnwys:

  • y Marc Ansawdd ar gyfer Gwaith Ieuenctid yng Nghymru
  • aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion
  • amrywiaethu gweithlu addysg Cymru
  • y Gymraeg yn y gweithle

Cyfrannodd nifer o westeion amlwg at benodau ein podlediad i rannu eu harbenigedd a’u profiadau bywyd, gan gynnwys Comisiynydd y Gymraeg, cynrychiolwyr o DARPL, Brook, Barnardo’s Cymru, yr NSPCC, ac Ymddiriedolaeth y Tywysog.

Yn 2024-25, edrychwn ymlaen at ymdrin â phynciau fel lles a thechnoleg addysg.