Mae cofrestru gyda ni yn ofyniad statudol ar gyfer:
athrawon ysgol (angen SAC i gofrestru fel athro ysgol)
gweithwyr cymorth dysgu ysgol
athrawon ysgol annibynnol
gweithwyr cymorth dysgu ysgol annibynnol
athrawon addysg bellach (AB)
gweithwyr cymorth dysgu AB
athrawon sefydliad annibynnol arbennig ôl-16
gweithwyr cymorth dysgu sefydliad annibynnol arbennig ôl-16
ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith
gweithwyr ieuenctid (angen
cymhwyster gorfodol
, neu fod yn gweithio tuag at gymhwyster)
gweithwyr cymorth ieuenctid (angen
cymhwyster gorfodol
, neu fod yn gweithio tuag at gymhwyster)
Mae dyletswydd gyfreithiol ar gyflogwyr i wneud yn siŵr bod eu gweithwyr wedi cofrestru gyda ni cyn eu bod yn dechrau gweithio. Mae hyn yn berthnasol i weithwyr sy’n gweithio ar sail amser llawn, rhan-amser (gan gynnwys fesul awr), neu weithwyr cyflenwi.
Mae’n rhaid eich bod wedi cofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg (CGA) i weithio fel ymarferwr addysg yng Nghymru. Mae 11 categori cofrestru. Gall fod angen i chi gofrestru mewn mwy nag un categori, yn dibynnu ar y gwaith rydych chi’n ei wneud, neu’n bwriadu ei wneud. Dim ond un ffi fyddwch chi’n ei thalu, hyd yn oed os ydych wedi cofrestru mewn mwy nag un categori. Byddwch chi’n talu ffi uchaf y categorïau rydych chi wedi cofrestru ynddynt.
Pan fyddwch yn gwneud cais i gofrestru, gwnewch yn siŵr eich bod yn cynnwys yr holl wybodaeth a dogfennau perthnasol fel na fydd oedi wrth brosesu eich cais. Bydd angen i chi dalu ffi ymgeisio wrth wneud cais i gofrestru.
Ar ôl i ni gael eich cais
Byddwn yn asesu’r wybodaeth, yn dibynnu ar eich atebion, gallem gynnal asesiad addasrwydd. Gallem ofyn am ragor o wybodaeth hefyd.
Byddwn yn cadarnhau trwy’r e-bost p’un a allwch gael eich cofrestru. Gwnewch yn siŵr eich bod yn cadw llygad ar eich ffolder negeseuon sbam neu sothach.
Ein nod yw prosesu ceisiadau o fewn pum niwrnod gwaith. Gall hyn gymryd mwy o amser ar adegau penodol o’r flwyddyn pan fyddwn yn cael llawer o geisiadau.
Adnewyddu eich cofrestriad yn flynyddol
Mae’n rhaid adnewyddu eich cofrestriad gyda CGA ar 1 Ebrill bob blwyddyn.
Os oes gennych gontract gyda chyflogwr yng Nghymru, mae dyletswydd gyfreithiol arnynt i dynnu’r ffi adnewyddu flynyddol o’ch cyflog a’i hanfon at CGA.
Os nad oes gennych gontract cyflogaeth, ni fydd eich ffi’n cael ei thynnu o’ch cyflog. Bydd angen i chi ein talu ni’n uniongyrchol. Gallwch wneud hyn ar-lein rhwng dechrau Chwefror a diwedd Mawrth bob blwyddyn.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am gofrestru, This email address is being protected from spambots. You need JavaScript enabled to view it..
Rhyddhad treth
Mae eich ffi gofrestru yn gymwys am ryddhad treth ac nid yw’n effeithio ar eich gallu i hawlio rhyddhad treth ar danysgrifiadau presennol â chymdeithas neu undeb athrawon. Mae rhagor o wybodaeth am hawlio rhyddhad treth ar gael ar y dudalen hawlio rhyddhad treth ar dreuliau eich swydd ar gov.uk.
Cod Ymddygiad ac Ymarfer Proffesiynol
Mae’r Cod Ymddygiad ac Ymarfer Proffesiynol (y Cod) yn amlinellu’r safonau a ddisgwylir ohonoch a’i fwriad yw cefnogi ac arwain eich ymddygiadau a’ch crebwyll fel cofrestrai sy’n gweithio mewn rôl addysg a hyfforddiant yng Nghymru.
Canllawiau arfer da
Ysgrifennwyd ein cyfres o ganllawiau i ategu’r Cod a’u nod yw eich cynorthwyo i gydymffurfio â’r Cod. Mae pob un ohonynt yn canolbwyntio ar faes penodol, fel mynd i’r afael â hiliaeth, perthnasoedd gwaith cadarnhaol, a defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol yn gyfrifol. Cadwch lygad ar y dudalen gan fod canllawiau newydd yn cael eu cyhoeddi’n rheolaidd.
Pasbort Dysgu Proffesiynol (PDP)
Fel ymarferwyr addysg, mae myfyrdod parhaus, dysgu a datblygu yn hanfodol i’ch rôl. Mae eich PDP yn adnodd ar-lein hyblyg a luniwyd yn benodol i’ch helpu i gofnodi a myfyrio ar eich dysgu, a’i rannu, i gyd â’r nod o lywio eich datblygiad proffesiynol a’ch ymarfer parhaus.
EBSCO a Meddwl Mawr
Bonws ychwanegol yw bod eich PDP yn caniatáu i chi gael at EBSCO yn rhad ac am ddim. Dyma gronfa ddata ymchwil, testun llawn, fwyaf y byd ar gyfer gweithwyr addysg proffesiynol a’i nod yw eich helpu chi i ddarllen a gwneud ymchwil i ddatblygu eich ymarfer a’ch syniadau ymhellach. Cofrestrwch ar gyfer Meddwl Mawr, ein clwb llyfrau a chyfnodolion, i dderbyn argymhellion misol am gynnwys diddorol ar EBSCO.
Adnoddau a chanllawiau
Os yw ymgymryd â’ch ymchwil eich hun o ddiddordeb i chi, beth am gael cip ar ein canllawiau, sydd â’r nod o’ch helpu i gychwyn arni. Maent yn cwmpasu pynciau fel moeseg ymchwil, ymchwil weithredol, ysgrifennu adroddiadau a sefydlu clwb cyfnodolion.
Cyfres digwyddiadau am ddim
Rydym yn cynnal amrywiaeth o ddigwyddiadau trwy gydol y flwyddyn i’ch cefnogi chi a’ch datblygiad proffesiynol. Maent yn cynnwys ein darlith flynyddol, sef ‘Siarad yn Broffesiynol’, dosbarthiadau meistr, sesiynau brifio ar bolisi, a gweminarau. Gallwch wylio recordiadau o lawer o’n digwyddiadau blaenorol ar ein sianel YouTube.
‘Sgwrsio’ gyda phodlediad CGA
Mae ein podlediad yn dwyn cofrestreion ac arbenigwyr ynghyd o bob rhan o’r sector addysg ar gyfer sgyrsiau bywiog ar bynciau sy’n bwysig i chi. Beth am wrando’n ôl ar rifynnau blaenorol a thanysgrifio nawr. Os hoffech i ni ymdrin â phwnc ar Sgwrsio, This email address is being protected from spambots. You need JavaScript enabled to view it..
Blogiau
Mae ein blog yn rhannu cyfraniadau gan gofrestreion ac arbenigwyr ar yr ymchwil, y diweddariadau a’r arfer gorau diweddaraf o bob rhan o’r sector addysg. Os oes pwnc rydych chi’n angerddol amdano ac yr hoffech ei rannu â chydweithwyr ar draws Cymru, This email address is being protected from spambots. You need JavaScript enabled to view it..
Addysgwyr Cymru
Mae Addysgwyr Cymru yn cynnwys amrywiaeth o wasanaethau sy’n dwyn ynghyd gyfleoedd gyrfaol, hyfforddiant a gwaith o fewn sector addysg Cymru mewn un lleoliad hawdd cael ato. Ei borth swyddi, sy’n un o’r mwyaf yn benodol ar gyfer y sector addysg yng Nghymru, yw’r lle i droi er mwyn gweld y swyddi gwag diweddaraf.
Hefyd, mae’r tîm yn cynnig gwasanaeth recriwtio, eiriolaeth a gwybodaeth yn rhad ac am ddim i unigolion sy’n chwilio am gyfleoedd dilyniant fel addysgwyr. Mae hynny’n cynnwys cymorth cynhwysfawr, gan gynnwys ysgrifennu ceisiadau a CV a gweithdai sgiliau cyfweliad.
Cyflwyniadau
Rydym yn hapus i drefnu cyflwyniadau yn eich gweithle. Mae pynciau poblogaidd yn cynnwys y PDP, y Cod, data ar y gweithlu a’n gwaith priodoldeb i ymarfer.
Cael y newyddion diweddaraf
Fel un o gofrestreion CGA, byddwch yn cael ‘FyCGA’ yn awtomatig, sef ein cylchlythyr tymhorol sy’n cynnwys y diweddaraf gan CGA ac unrhyw newyddion pwysig yn gysylltiedig â’ch cofrestriad.
Hefyd, rydym ni ar y cyfryngau cymdeithasol, lle gallwch gael diweddariadau am ein gwaith o ddydd i ddydd. Dilynwch ni ar X, Facebook, a Linkedin.
Yma i helpu, bob amser
Mae ein tîm wrth law, petai eu hangen arnoch. Mae manylion am sut i gysylltu â phob tîm ar gael ar y dudalen cysylltu â ni.
Cofiwch…
Mae’n bwysig bod gennym y manylion personol cywir ar eich cyfer chi. Mae hyn yn cynnwys cymwysterau, manylion cyswllt, dewisiadau iaith a manylion cyflogaeth. Gallwch sicrhau bod eich manylion yn gywir ac yn gyfredol unrhyw bryd trwy fewngofnodi i’ch cyfrif FyCGA.
Mae’n rhaid i holl ymarferwyr y mae gofyn iddynt gofrestru gyda ni dalu ffi gofrestru blynyddol.
Ffioedd ar gyfer 2022-23
Pennir y ffioedd canlynol gan Lywodraeth Cymru ac maent yn ofynnol er mwyn cofrestru gyda ni.
Os ydych wedi'ch cofrestru mewn mwy nag un categori, er enghraifft, athro AB a gweithiwr cymorth dysgu AB, dim ond un ffi fydd yn rhaid i chi ei thalu. Fodd bynnag, byddwch yn talu'r ffi uwch o'r ddau gategori. Mae'r ffi yr un peth os ydych yn gweithio'n rhan neu'n llawn amser.
Sut i Dalu
Bydd eich cyflogwr yn didynnu'ch ffi o'ch cyflog ar ddiwedd mis Mawrth bob blwyddyn. Os nad ydych chi wedi eich cyflogi dan gytundeb ac na thelir eich ffi gan eich cyflogwr, yna bydd angen i chi ein talu ni'n uniongyrchol. Gallwch wneud hyn ar-lein rhwng dechrau Chwefror a diwedd Mawrth bob blwyddyn.
Os ydych yn cyflwyno cais newydd, mae’r dudalen talu ar ddiwedd y ffurflen gais.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y ffi gofrestru, mae croeso i chi This email address is being protected from spambots. You need JavaScript enabled to view it..
Rhyddhad Treth
Me eich ffi gofrestru yn gymwys am ryddhad treth a nid yw’n effeithio ar eich gallu i hawlio rhyddhad treth ar danysgrifiadau cymdeithasau athrawon neu undebau. I hawlio rhyddhad treth, cysylltwch â’ch Swyddfa Dreth lleol.
Os gwnaethoch chi hyfforddi fel athro ysgol y tu allan i Gymru, gallwch wneud cais i gael eich cydnabod yn athro ysgol sy’n gymwys i ymarfer yng Nghymru.
Os bydd eich cais yn llwyddiannus, byddwn yn cadarnhau eich bod wedi’ch cydnabod yn athro ysgol cymwysedig. Yna, byddwch yn gallu gwneud cais i gofrestru gyda ni yn y categori athro ysgol.
Mae angen i chi gael eich cydnabod yn athro ysgol cymwysedig a’ch bod wedi cofrestru gyda ni i weithio fel athro ysgol yng Nghymru.
Athrawon cymwysedig a enillodd SAC yn Lloegr
Mae eich statws athro cymwysedig (SAC) a ddyfarnwyd yn Lloegr yn cael ei gydnabod yn awtomatig yng Nghymru:
• os cwblhaoch eich hyfforddiant cychwynnol athrawon yn Lloegr mewn sefydliad achrededig • os ydych wedi cael eich asesu gan sefydliad achrededig yn Lloegr • os ydych wedi dilyn cynllun hyfforddiant athrawon seiliedig ar gyflogaeth yn Lloegr
Athrawon AB cymwysedig sy’n cael eu cydnabod yn athrawon ysgol cymwysedig yn Lloegr
Os ydych chi’n athro AB cymwysedig sy’n cael ei gydnabod yn athro ysgol cymwysedig gan yr Asiantaeth Rheoleiddio Athrawon yn Lloegr, nid ydych yn cael eich cydnabod yn athro ysgol cymwysedig yng Nghymru. Mae hyn yn golygu nad allwch wneud cais i gael eich cydnabod na’ch cofrestru fel athro ysgol. Mae hyn yn cynnwys os ydych yn athro AB cymwysedig Dysgu a Sgiliau Athro Cymwysedig (QTLS).
Ar ôl i ni asesu eich cais, byddwn yn e-bostio’r canlyniad atoch gan ddefnyddio’r cyfeiriad e-bost a ddefnyddioch i gyflwyno’ch cais, oni bai eich bod wedi dweud fel arall wrthym.
Ry’n ni wedi ail-ddylunio ein gwefan i wella’r gwasanaeth a’r profiad ry’ch chi’n ei gael. I roi adborth ar y wefan newydd, cysylltwch â This email address is being protected from spambots. You need JavaScript enabled to view it.