CGA / EWC

Fitness to practise banner
Gwrandawiadau i ddod
Gwrandawiadau i ddod

Mae’r rhan fwyaf o wrandawiadau Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer CGA yn cael eu cynnal yn rhithwir (ar-lein, ar Zoom). Gall rhai gael eu cynnal wyneb yn wyneb gerbron CGA pan fo’r ymgeisydd neu ei gynrychiolydd yn gwneud cais am hynny.

Bydd manylion gwrandawiad sydd ar ddod yn ymddangos yma 5 niwrnod gwaith cyn y bydd yn cael ei gynnal.



Cadw lle

Os ydych am wylio gwrandawiad fel aelod o’r cyhoedd neu’r wasg, anfonwch e-bost at This email address is being protected from spambots. You need JavaScript enabled to view it. i gadw lle.

Bydd angen i chi ddarparu’r wybodaeth ganlynol wrth gadw lle:

  • eich enw llawn
  • dyddiad y gwrandawiad
  • cyfeiriad e-bost i anfon y ddolen Zoom ato os gwrandawiad rhithwir ydyw
  • rhif ffôn cyswllt er mwyn i ni gysylltu â chi os bydd angen i ni wneud
  • y rheswm dros fod eisiau gwylio (y wasg, er enghraifft)

Os gwrandawiad rhithiwr ydyw, byddwn yn anfon dolen Zoom atoch i ymuno â’r gwrandawiad 24 awr cyn y bydd yn dechrau. Peidiwch â rhannu’r ddolen hon gydag unrhyw un arall. Os gwrandawiad wyneb yn wyneb ydyw, cewch y trefniadau mynychu.

Mae disgwyl bod ein gwrandawiadau’n cael eu cynnal yn gyhoeddus. Fodd bynnag, gall rhan o wrandawiad, neu’r cyfan ohono, gael ei gynnal yn breifat, weithiau, oherwydd natur gyfrinachol y wybodaeth sydd ynghlwm, fel problemau iechyd. Gall y Pwyllgor eithrio’r cyhoedd a’r wasg tra bydd yn gwrando yn breifat.

O dan yr amgylchiadau hyn, gofynnir i chi adael y gwrandawiad a bydd swyddog achos y gwrandawiad yn rhoi gwybod i chi os gallwch ailymuno, a phryd.

Rydym yn recordio ein gwrandawiadau. Fodd bynnag, ni chaniateir i unrhyw berson arall recordio, gwneud ciplun, tynnu ffotograffau, copïo na rhannu trafodaethau ein gwrandawiadau mewn unrhyw fodd.

Gall gwrandawiadau gael eu canslo neu eu gohirio ar fyr rybudd.