Mae gan y Cyngor 14 o aelodau, gan gynnwys y Cadeirydd. Mae'r aelodau'n cynrychioli ystod o ddiddordebau ar draws y gweithlu addysg yng Nghymru.
Penodir saith aelod yn uniongyrchol drwy broses penodiadau cyhoeddus Llywodraeth Cymru, a phenodir saith aelod yn dilyn enwebiadau a wnaed gan sefydliadau a enwir yn Atodlen 2 o Reoliadau Cyngor y Gweithlu Addysg (Aelodaeth a Phenodi) (Cymru) 2014.
Cychwynnodd y Cyngor presennol ar eu swyddi ar 1 Ebrill 2023.
Eithne Hughes - Cadeirydd
Roedd Eithne yn Bennaeth Ysgol Bryn Elian ers 11 mlynedd. Ennillodd Wobr Dysgu am Arweinyddiaeth yng Nghymru yn 2004. Cafodd OBE am wasanaethau i Addysg Uwchradd yng Nghymru ar Restr Anrhydeddau’r Flwyddyn Newydd yn 2013. Yn fwy diweddar yn 2017, enillodd Wobr Addysgu Proffesiynol Cymru am hybu cydweithio mewn ysgol. Derbyniodd wobr Pearson am Arweinyddiaeth yn 2004, ac yn agos at y brig yn y DU am wobr Arweinyddiaeth Buddsoddwyr mewn Pobl.
Mae Eithne wedi bod yn llywydd Cymdeithas Arweinwyr Ysgolion a Cholegau yn y gorffennol, ac ar y grŵp Gweithredol ar hyn o bryd. Hi oedd un o awduron Glasbrint ar gyfer Cymru sy’n disgrifio cynllun i sicrhau gwelliannau strategol a gweithredol ar gyfer Cymru ar sail system hunanwella i ysgolion. Mae hi’n aelod o Gyngor Ymchwil Sefydliad Arweinyddiaeth ym maes Addysg y DU, ac yn cynrychioli llais Cymru ar y fforwm hwn. Mae Eithne yn aelod gwahoddedig o Grŵp All Souls Rhydychen. Yn ddiweddar, derbyniodd Gadair Athro Anrhydeddus gyda Phrifysgol Bangor. Mae hefyd yn gyn-aelod o’r Bwrdd Cynghori Recriwtio a Chadw Athrawon. Mae bellach yn gweithio fel y Cyfarwyddwr ASCL Cymru
Kelly Edwards
Mae Kelly wedi gweithio ym maes addysg, ar draws amrywiol sectorau, ers ugain mlynedd. Buodd yn athrawes Saesneg yn y sector uwchradd, cyn cymhwyso i fod yn gynghorydd gyrfaoedd. Gorffenodd ei MA mewn Addysg a Hyfforddiant Ôl-orfodol ym Mhrifysgol Cymru Casnewydd yn 2011.
Treuliodd naw mlynedd mewn amrywiol swyddogaethau ym maes addysg uwch yn hen Brifysgol Cymru, Casnewydd a Phrifysgol Morgannwg a Phrifysgol De Cymru, fel rheolwr prosiect, arweinydd rhaglenni ac uwch ddarlithydd ym maes dysgu seiliedig ar waith. Wedyn, symudodd i'r sector dysgu oedolion yn y gymuned i fod yn uwch ymchwilydd a swyddog polisi yn yr hen WEA YMCA CC Cymru.
Ymunodd Kelly â Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru i fod yn Bennaeth Ansawdd Dysgu Seiliedig ar Waith yn 2016, gyda chyfrifoldeb strategol dros arwain y gwaith o wella ansawdd ar draws y sector dysgu seiliedig ar waith yng Nghymru. Ar hyn o bryd mae’n Gyfarwyddwr Datblygiad Colegau Cymru, yn gyfrifol am arwain y datblygiad o brosiectau sy’n cefnogi codiad a chyfoethogiad cyfarpar AB.
Theresa Evans-Rickards
Dechreuodd Theresa weithio ym maes addysg trwy waith gwirfoddol yn y trydydd sector gyda’r Geidiau, yna trwy weithio mewn Canolfannau Ieuenctid cyn dechrau ar ei gyrfa fel athrawes. Ar ôl cwblhau TAR mewn Addysg Fusnes, bu’n athrawes Astudiaethau Busnes, TGCh a Chyfrifiadura mewn nifer o ysgolion uwchradd yng Nghymru a Lloegr, gan ddod yn bennaeth cyfadran ac yn uwch arweinydd.
Yn 2010, daeth Theresa yn ymgynghorydd TGCh a Chyfrifiadura ar draws Torfaen a Sir Fynwy, yna dwy flynedd yn y Consortiwm Rhanbarthol. Yn 2014, symudodd i’r sector ADY gan ddod yn Ddirprwy Bennaeth Ysgol Arbennig 3-19 oed. Ochr yn ochr â hyn, datblygodd a rheolodd Teresa Wasanaeth Ymarfer Cynhwysol Awdurdod Lleol, gan gefnogi ysgolion prif ffrwd, ac enillodd TAR ychwanegol ac MA mewn Arweinyddiaeth a Rheolaeth Addysg.
Yn 2016, daeth Theresa yn Gadeirydd Cymdeithas Dirprwy Benaethiaid Ysgolion Arbennig De Cymru, rôl y bu’n ei chyflawni am chwe blynedd, a roddodd gyfleoedd i ddatblygu cydweithredu ym maes arweinyddiaeth ar draws y sector. Yn 2022, daeth yn Bennaeth Dros Dro Ysgol Arbennig 3-16 oed. O ganlyniad i’w gwaith dros y degawd diwethaf, mae Theresa wedi dod yn lladmerydd ADY a’r athrawon a’r staff cymorth sy’n gweithio yn y sector hwnnw.
Jane Jenkins
Bu Jane Jenkins yn gweithio fel athrawes, pennaeth ac ymgynghorydd gwella ysgolion yng Nghaerdydd ers dros 30 mlynedd. Ymddeolodd yn ddiweddar o’i swydd fel pennaeth Ysgol Gynradd Moorland, Sblot, ac mae wedi bod yn gwneud gwaith ymgynghori a chyflenwi ers hynny.
Mae Jane wedi treulio ei gyrfa’n gweithio mewn ysgolion dinesig ac mae bob amser wedi cydnabod pwysigrwydd cefnogi lles cymuned gyfan yr ysgol er mwyn sicrhau’r deilliannau gorau i blant. Canolbwyntiodd ei gwaith gyda’r gwasanaeth ymgynghori ar ddatblygu a gweithredu cwricwlwm y Cyfnod Sylfaen, a bu’n lladmerydd cryf erioed dros ddysgu seiliedig ar chwarae a dysgu dilys.
Ers ymddeol, mae Jane wedi bod yn awyddus i fanteisio ar fwy o gyfleoedd i deithio ac mae’n gobeithio defnyddio ei chymhwyster TEFL diweddar i addysgu Saesneg dramor yn y dyfodol
Rosemary Jones
Mae Rosemary yn ymgynghorydd addysg ac yn ymgynghorydd gwella ysgolion rhan-amser i GwE. Mae ganddi brofiad helaeth ym maes arweinyddiaeth ysgolion, gan gynnwys ysgolion cyfrwng Cymraeg a dwyieithog. Bu’n bennaeth ysgol uwchradd yn Sir y Fflint.
Mae Rosemary yn angerddol am ddysgu a chreu profiadau cadarnhaol i gynyddu hyder dysgwyr a chodi eu dyheadau. Mae’n ymddiriedolwr yr elusen symudedd cymdeithasol, Brightside.
Mae Rosemary yn aelod o Gyngor Partneriaeth y Gymraeg. Dyfarnwyd OBE iddi am ei gwasanaethau i addysg yn 2017.
Kathryn Robson
Kathryn Robson yw Prif Weithredwr Addysg Oedolion Cymru. Mae Kathryn wedi gweithio yn y sector addysg ôl-16 ers dros 20 mlynedd ac mae wedi datblygu llawer o bartneriaethau i helpu ehangu addysg bellach a dysgu oedolion yn y gymuned.
A chanddi gefndir mewn Rheoli Adnoddau Dynol, mae Kathryn yn Aelod Siartredig o’r CIPD ac mae ganddi gymhwyster Rheoli AD ôl-raddedig o Athrofa Addysg Uwch Abertawe. Mae’n aelod o Fforwm Penaethiaid Colegau Cymru ynghyd â’u Pwyllgor Archwilio, ac mae hefyd yn aelod o Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (CGGC). Mae Kathryn yn ymwneud yn weithgar â datblygu mentrau cydraddoldeb hiliol ac mae’n Aelod Bwrdd o Gyngor Hil Cymru.
Mae gan Kathryn ddiddordeb brwd yn y buddion iechyd a lles sy’n gysylltiedig ag addysg oedolion, ac mae’n gweithio’n weithgar gyda’r Rhwydweithiau Rhagnodi Cymdeithasol ar draws pob rhanbarth. Mae’n lladmerydd dysgu gydol oes i bobl o bob oedran, ac mae wedi ymgymryd â rôl llywodraethwr ysgol ar draws addysg gynradd ac uwchradd trwy gydol ei gyrfa.
Nicola Stubbins
Mae Nicola wedi gweithio mewn gwasanaeth cyhoeddus ers 1995. Dechreuodd ar ei gyrfa mewn gofal cymdeithasol fel Gweithiwr Cymorth Iechyd Meddwl, ac mae ganddi ystod eang o brofiad ar draws Gofal Cymdeithasol Plant ac Oedolion yn ogystal ag Addysg a Thai.
Mae Nicola wedi dal swyddi arwain uwch mewn llywodraeth leol am 14 mlynedd ac ar hyn o bryd mae'n Gyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedau ar gyfer Cyngor Sir Ddinbych, lle mae hi hefyd yn Cyfarwyddwr Corfforaethol: Gwasanaethau Cymdeithasol ac Addysg.
Yn ystod 2020 i 2021, hi oedd Llywydd Cymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru ar ôl bod yn Is-lywydd am y ddwy flynedd flaenorol. Mae hi hefyd yn Aelod o Fwrdd RYA Cymru Wales.
Gwawr Taylor
Gwawr Taylor yw Ysgrifennydd y Brifysgol ar gyfer Prifysgol Aberywtsyth, be mae hi’n arwain ar lwyodraethiand y brifysgol, a rheoli gwaith y Cyngor a’i bwyllgorau. Mae hi hefyd yn cefnogi cydymffurfiaeth sefydliadol gyda dyletswyddau cyfreithiol a statudol, yn arbennig o ran rheoli gwybodaeth a iechyd, diogelwch a’r amgylchedd.
Roedd Gwawr yn Is-Ysgrifennydd y Brifysgol a Phennaeth y Gymraeg ym Mhrifysgol De Cymru, yn gyfrifol am ddatblygu darpariaeth drwy gyfrwng y Gymraeg a sicrhau bod pob rhan o’r Brifysgol yn cydymffurfio o ran y Gymraeg, yn ogystal â rheoli prosesau llywodraethu ar draws Grŵp Prifysgol De Cymru.
Mae Gwawr yn lywodraethwr awdurdod lleol yn Ysgol Gynradd Dyffryn Cledlyn yng Ngheredigion. Mae hi wedi gweithio a chydweithio gyda disgyblion ysgolion, myfyrwyr addysg bellach ac addysg uwch ers sawl blwyddyn.
Bethan Thomas
Graddiodd Bethan Thomas o Brifysgol Abertawe ac Ysgol y Gyfraith BPP. Mae hi’n arweinydd Cydraddoldeb a Hawliau Dynol â thros 12 mlynedd o brofiad llwyddiannus mewn sectorau Undebau Llafur ac Elusennau yng Nghymru.
Ymgymerodd Bethan â rolau gwirfoddol ar fyrddau Elusennau Cymorth i Fenywod yn lleol a Chymorth i Fenywod Cymru cyn dod yn Swyddog Undeb Llafur i Undeb y Prifysgolion a Cholegau. Ar hyn o bryd, mae’n Rheolwr Rhanbarthol ar gyfer UNISON Cymru, gan arwain ar Bartneriaeth Gymdeithasol, Polisi a Chydraddoldeb. A hithau’n siarad Cymraeg, mae gan Bethan ddau blentyn mewn ysgol gynradd sy’n derbyn eu haddysg trwy gyfrwng y Gymraeg.
Sue Walker
Dechreuodd Sue ei gyrfa addysgu yn Llundain yn gweithio i'r ILEA. Ar ôl symud yn ôl i Gymru, bu’n gweithio mewn ysgolion yn ardal Pen-y-bont ar Ogwr cyn cael prifathrawiaeth yn Abertawe. Roedd hi hefyd rhan o un o'r carfanau cyntaf i fynd am gymhwyster Cymhwyster Proffesiynol Cenedlaethol ar gyfer Prifathrawiaeth (CPCP). Wrth symud i'r gwasanaeth cynghori, aeth Sue yn ôl i hen ardalm Morgannwg Ganol ac yno arhososdd nes symud i gyngor Rhondda Cynon Taf fel swyddog gwella ysgolion yn 2011. Yn 2017 dechreuodd ei rôl bresennol fel Cyfarwyddwr Addysg Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful.
David Williams
Mae David Williams wedi bod yn ymwneud â gwaith ieuenctid ers ei fod yn 17 oed, fel gwirfoddolwr, ac ar hyn o bryd mae’n rheoli Gwasanaeth Ieuenctid Torfaen. Mae’n gyfrifol am oruchwylio’r tîm arweinyddiaeth sy’n rheoli’r gwasanaeth o ddydd i ddydd, a gosod y cyfeiriad strategol. Mae David yn aelod o’r Bwrdd Gweithredu Strategaeth Gwaith Ieuenctid, sy’n gweithio i weithredu’r Strategaeth gwaith ieuenctid i Gymru. Mae David yn ymddiriedolwr dwy elusen, Life Trust Cardyff, a Bridge the gap, ar gyfer cymunedau Du, Asiaidd, a Lleiafrifoedd Ethnig, sy’n rhan weithredol o ddarparu ystod eang o wasanaethau cymorth yn y gymuned leol.
Geraint Williams
Ganed Geraint Williams ym Merthyr Tudful, sydd hefyd yn gartref iddo, ac mae’n arweinydd ac athro gwyddoniaeth yng Ngholeg Catholig Dewi Sant, Caerdydd. Ef sy’n gyfrifol am ddysgu proffesiynol a rheolaeth ar dîm bugeiliol y coleg. Mae wedi gweithio mewn lleoliadau uwchradd ac addysg bellach dros y 12 mlynedd diwethaf. Ar ôl graddio mewn cemeg o Brifysgol Caerdydd, aeth Geraint ymlaen i gwblhau cymhwyster TAR ac, yna, MA mewn Addysg ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd. Ar hyn o bryd, mae’n gyd-gadeirydd Citizens Cymru Wales ac yn swyddog lleyg i’r Undeb Addysg Cenedlaethol.