CGA / EWC

Fitness to practise banner
Canllaw ymarfer da: Cefnogi iechyd meddwl a lles dysgwyr a phobl ifanc
Canllaw ymarfer da: Cefnogi iechyd meddwl a lles dysgwyr a phobl ifanc

Cyflwyniad

Mae gweithwyr proffesiynol addysg yn chwarae rôl hollbwysig o ran meithrin iechyd meddwl a lles dysgwyr a phobl ifanc, yn ogystal â chefnogi eu twf deallusol.

Mae’r canllaw ymarfer da hwn, a luniwyd ar y cyd â Chomisiynydd Plant Cymru, yn cynnig cyngor ymarferol ar sut gallwch chi gefnogi dysgwyr a phobl ifanc â’u hiechyd meddwl a lles, gan eich helpu i gydymffurfio â Chod Ymddygiad ac Ymarfer Proffesiynol CGA (y Cod). Mae hyn yn ategu ein canllaw ar wahân i gefnogi eich iechyd meddwl a lles eich hun a’ch cydweithwyr.

Y Cod Ymddygiad ac Ymarfer Proffesiynol

A chithau’n un o gofrestreion Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA), rydych wedi ymrwymo i gynnal chwe egwyddor allweddol y Cod:

  • Cyfrifoldeb personol a phroffesiynol
  • Unplygrwydd proffesiynol
  • Cydweithio
  • Arweinyddiaeth
  • Gwybodaeth a dealltwriaeth broffesiynol
  • Dysgu proffesiynol

Dan yr egwyddor allweddol gyntaf (cyfrifoldeb personol a phroffesiynol), mae gan gofrestreion ddyletswydd gofal dros ddiogelwch a lles corfforol, cymdeithasol, moesol ac addysgol dysgwyr a phobl ifanc. Mae hyn yn cynnwys gweithredu ar unrhyw beth a all beryglu diogelwch neu les dysgwr neu unigolyn ifanc, a rhoi gwybod am unrhyw fater diogelu, neu unrhyw fater arall, a all niweidio diogelwch neu lesiant dysgwr neu unigolyn ifanc o bosibl. Yn ogystal, dan yr ail egwyddor allweddol (unplygrwydd proffesiynol), mae’n ofynnol i gofrestreion ymdrin â gwybodaeth a data mewn modd priodol, gan gymhwyso’r protocolau angenrheidiol yn ymwneud â chyfrinachedd, sensitifrwydd a datgelu.

Mae’r canllaw hwn yn canolbwyntio ar gynnig cyngor ymarferol i’ch helpu i nodi pryd y gallai fod angen cymorth ar unigolion a deall sut i ymateb i’w hanghenion. Mae’n ategu polisïau lles penodol a fydd y berthnasol yn eich gweithle, y dylech hefyd fod yn gyfarwydd â nhw a glynu wrthynt.

Y darlun cyfredol

Nododd ‘Big Mental Health Report’ 2024 Mind gynnydd o 34% yn nifer y plant a phobl ifanc yng Nghymru a gafodd eu hatgyfeirio oherwydd gorbryder rhwng 2015/16 a 2022/23. Yn gysylltiedig â hyn, roedd 29% o blant yng Nghymru yn cyrraedd y trothwy ar gyfer absenoldebau cyson yn ystod blwyddyn ysgol 2023/24.

Gall heriau iechyd meddwl a lles effeithio’n sylweddol ar ddysgwyr a phobl ifanc, gan arwain at broblemau â’r canlynol:

  • perfformiad academaidd
  • ymddygiad
  • meithrin a chynnal perthnasoedd
  • iechyd corfforol
  • hunan-barch a hyder
  • mwy o berygl o ymddygiad risg uchel
  • absenoliaeth

Ffactorau risg o ran iechyd meddwl

Mae llawer o ffactorau gwahanol sy’n cyfrannu at heriau iechyd meddwl a lles ymhlith dysgwyr a phobl ifanc. Yn ôl elusen Mentally Healthy Schools Anna Freud, mae’r prif risgiau’n cynnwys:

Ffactorau yn seiliedig ar addysg

Straen academaidd ac arholiadau, bwlio, pryderon am adael addysg a chynlluniau ar gyfer y dyfodol, pwysau gan gyfoedion, perthnasoedd a pherthyn, absenoliaeth/gwaharddiadau, pontio.

Ffactorau o ran ffordd o fyw

Delwedd y corff, cyffuriau ac alcohol, defnydd o’r rhyngrwyd a chyfryngau cymdeithasol, y glasoed, problemau cysgu.

Ffactorau yn y cartref

Amgylchedd y cartref, statws iechyd meddwl rhieni, tlodi a diweithdra, profedigaeth, trais domestig, cam-drin ac esgeuluso plant, camddefnyddio sylweddol yn y cartref, cyfrifoldebau gofalwyr ifanc.

Plant sy’n agored i niwed

Awtistiaeth, anghenion dysgu ychwanegol, niwroamrywiaeth, anabledd a salwch, LHDTC+, hunaniaeth rhywedd, hil a hiliaeth, plant ffoaduriaid a cheiswyr lloches, plant sy’n derbyn gofal, cam-fanteisio’n droseddol ar blant.

Mae rhai ffactorau risg yn arbennig o berthnasol yng Nghymru, gan gynnwys lefelau uwch o anghydraddoldeb economaidd nag mewn rhannau eraill o’r DU, a chyfran uwch o’r boblogaeth yn byw mewn ardaloedd gwledig (sy’n wynebu heriau yn ymwneud ag unigedd a manteisio ar wasanaethau). Mae Sefydliad Joseph Rowntree hefyd wedi tynnu sylw at y gyfran arbennig o uchel o oedolion yng Nghymru (47%) sydd wedi dioddef o leiaf un profiad niweidiol yn ystod plentyndod.

Cyfryngau cymdeithasol

Mae dysgwyr a phobl ifanc yn defnyddio cyfryngau cymdeithasol mewn ystod o wahanol ffyrdd a gall eu helpu i fanteisio ar gymorth, cael sicrwydd, teimlo’n gysylltiedig a rheoli pryder cymdeithasol. Fodd bynnag, gall defnyddio cyfryngau cymdeithasol ddod yn orfodaethol hefyd, gan arwain at gymariaethau cymdeithasol nad ydynt yn iach â phobl eraill, a bytholi teimladau o unigedd. Gall hefyd wneud dysgwyr a phobl ifanc yn agored i fwlio ac aflonyddu, sy’n gallu teimlo’n ddi-baid o ystyried bod y platfformau ar gael drwy’r dydd a’r nos. Felly, mae addysg effeithiol mewn llythrennedd digidol yn hollbwysig er mwyn sicrhau bod dysgwyr a phobl ifanc yn deall sut i ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol a’r rhyngrwyd mewn modd iach a chyfrifol.

Eich rôl chi fel gweithiwr proffesiynol cofrestredig

Er mwyn meithrin amgylchedd dysgu cadarnhaol, lle caiff iechyd meddwl a lles dysgwyr a phobl ifanc eu cefnogi’n briodol, dylech sicrhau eich bod yn gyfarwydd â pholisïau a gweithdrefnau allweddol sy’n berthnasol i’ch gweithlu, a glynu wrthynt. Gallai’r rhain gynnwys:

Cydnabod dysgwr neu unigolyn ifanc sydd angen cymorth

Mae angen i weithwyr proffesiynol addysg allu nodi’r arwyddion bod dysgwr neu unigolyn ifanc yn cael trafferth a deall y gall fod yn anodd iddynt ofyn am gymorth. Mae NSPCC wedi amlygu’r rhybuddion cyffredin canlynol o broblemau iechyd meddwl a lles:

  • newidiadau sydyn mewn hwyliau ac ymddygiad
  • tynnu yn ôl o weithgareddau neu berthnasoedd
  • ymddygiad neu berfformiad academaidd gwael sydyn
  • newidiadau i arferion cymdeithasol, fel tynnu yn ôl neu osgoi ffrindiau a theulu
  • cynnydd mewn absenoldebau
  • newidiadau i batrymau cysgu neu arferion bwyta
  • newidiadau corfforol heb esboniad, fel colli neu fagu pwysau
  • ymddygiad hunan-niweidiol

 Ymateb i ddysgwyr neu unigolyn ifanc sydd angen cymorth

Os ydych chi’n poeni bod rhywun yn cael trafferth, dylech geisio siarad â nhw. Gall fod yn anodd dechrau’r sgyrsiau hyn, ond mae NSPCC yn cynghori y gall y canlynol helpu.

Defnyddio iaith briodol

Defnyddiwch iaith sy’n briodol i’w hoedran. Osgowch iaith dechnegol a all fod yn anghyfarwydd neu’n ddryslyd i’r dysgwyr neu’r unigolyn ifanc. Adlewyrchwch eu geirfa nhw yn eich geirfa eich hun er mwyn helpu i sicrhau ei bod yn teimlo bod rhywun yn gwrando arnynt, yn eu dilysu a’u bod yn cael eu clywed.

Creu amgylchedd agored

Mae’n bwysig creu amgylchedd agored a diogel lle mae dysgwyr a phobl ifanc yn teimlo’n gyfforddus yn siarad am eu hiechyd meddwl. Sicrhewch eu bod yn gwybod pwy y gallant siarad â nhw a cheisiwch sicrhau bod y gronfa hon o bobl mor eang â phosibl.

Cynnal deialog agored

Gall iechyd meddwl newid yn gyflym neu’n raddol. Mae sgyrsiau parhaus yn helpu i gynnal ymddiriedaeth ac yn sicrhau cefnogaeth gyson.

Yn unol ag Erthygl 12 Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (UNCRC), dylai dysgwyr gymryd rhan yn weithredol mewn penderfyniadau am eu gofal, gan ystyried eu safbwyntiau ar sail eu hoedran a’u haeddfedrwydd.

Nodi cymorth priodol

Os bydd dysgwr neu unigolyn ifanc yn ymddiried ynoch am eu hiechyd meddwl, efallai y byddant yn gofyn i chi gadw’r hyn y maent wedi’i ddweud yn gyfrinachol. Fodd bynnag, mae gennych ddyletswydd gofal a gall peidio â rhannu gwybodaeth berthnasol eu rhoi nhw, a chi’ch hun, mewn perygl. Er ei bod hi’n bwysig gwrando ag empathi, ni ddylech fyth addo cadw datgeliadau’n gyfrinachol. Yn hytrach, rhowch sicrwydd iddynt y byddwch yn ymdrin â’u pryderon mewn modd sensitif ac yn cynnwys y gefnogaeth briodol er mwyn sicrhau eu diogelwch a’u lles.

Dywed Cod Ymddygiad ac Ymarfer Proffesiynol CGA fod rhaid i gofrestreion ‘ymdrin â gwybodaeth a data mewn modd priodol, gan gymhwyso’r protocolau angenrheidiol yn ymwneud â chyfrinachedd, sensitifrwydd a datgelu’. Os ydych chi’n poeni am ddiogelwch neu les dysgwr neu unigolyn ifanc, mae gennych ddyletswydd i rannu’r wybodaeth hon â gweithwyr proffesiynol perthnasol.

Dylech gael eich arwain gan bolisïau eich sefydliad wrth nodi’r ffordd fwyaf briodol i gefnogi’r dysgwr neu’r unigolyn ifanc ar ôl i chi siarad â nhw. Efallai yr hoffech drafod hyn â’ch cydweithwyr neu swyddog/arweinydd lles/bugeiliol/diogelu dynodedig a fydd yn gallu eich cynorthwyo.

Mae pwysigrwydd sicrhau y gellir manteisio ar gymorth priodol wedi’i ategu ymhellach gan Erthygl 24 UNCRC, sy’n cydnabod hawl pob plentyn i fwynhau’r safon iechyd gorau posibl a manteisio ar gyfleusterau i drin salwch ac adfer iechyd. Mae hyn yn cynnwys cymorth ar gyfer iechyd meddwl, yn hytrach nag iechyd corfforol yn unig. A chithau’n weithwyr proffesiynol addysg, mae helpu i nodi a hwyluso’r gallu i fanteisio ar gymorth iechyd meddwl priodol yn rhan hanfodol o gynnal yr hawl hon.

Mae amryw fathau o gymorth ar gael i bobl sy’n cael problemau iechyd meddwl a lles. Mae’r rhain yn cynnwys, ond nid ydynt wedi’u cyfyngu i:

  • ddatblygu cynllun lles personol ar y cyd â’r dysgwr/unigolyn ifanc a phobl eraill, os yw’n briodol (fel rhieni, gwarcheidwaid neu swyddogion lles sefydliadol)
  • gwneud addasiadau rhesymol i gefnogi’r dysgwr/unigolyn ifanc
  • defnyddio adnoddau ac offerynnau lles i helpu’r dysgwr/unigolyn ifanc i fynegi ei hun
  • atgyfeirio i asiantaethau allanol neu gysylltu â nhw
  • archwilio cyfleoedd am gymorth yn y gymuned, gan gynnwys prosiectau gwaith ieuenctid neu waith chwarae, grwpiau cymunedol ac elusennau, a chyfleoedd chwaraeon a hamdden

Os oes angen cymorth arbenigol, mae ystod o wasanaethau ar gael i helpu dysgwyr a phobl ifanc â’u hiechyd meddwl a lles. Mae’r rhain yn cynnwys gwasanaethau cwnsela, llinellau cymorth, sesiynau cwnsela un-i-un a therapi ymddygiad gwybyddol (CBT). Mae awdurdodau lleol ledled Cymru yn darparu gwasanaethau cwnsela mewn ysgolion ac yn y gymuned i bobl ifanc o flwyddyn 6 i 18 oed, y gall pobl ifanc fanteisio arnynt yn uniongyrchol trwy hunangyfeirio, yn ogystal â thrwy athrawon neu oedolion dibynadwy eraill. Mae Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a’r Glasoed (CAMHS) yn chwarae rôl hollbwysig wrth gefnogi pobl ifanc ag anawsterau iechyd meddwl. Ar ben hynny, gallai dysgwyr a phobl ifanc ddewis siarad â’u meddyg teulu, sy’n gallu asesu eu hiechyd meddwl, rhoi arweiniad ar y camau nesaf, eu hatgyfeirio ar gyfer cwnsela a rhoi presgripsiwn ar gyfer meddyginiaeth, os yw’n briodol.

Dolenni ac adnoddau defnyddiol:

Pecyn cymorth lles yn yr ystafell ddosbarth Anna Freud

Anxiety UK

Childline

Comisiynydd Plant Cymru

EYST

Pecyn cymorth iechyd meddwl pobl ifanc Hwb

Llinell gymorth LHDT+ Cymru

Mind Cymru

Samaritans

Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn (UNCRC)

Fframwaith ar gyfer sefydlu dull ysgol gyfan ar gyfer llesiant emosiynol a meddyliol Llywodraeth Cymru

[1] Mae’r fframwaith hwn yn offeryn cynllunio ar gyfer Llywodraeth Cymru, Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol, awdurdodau lleol, byrddau iechyd a’r sector gwirfoddol. Ei nod yw darparu dull ‘system gyfan’ i ddatblygu gwasanaethau iechyd meddwl, llesiant a chymorth i fabanod, plant, pobl ifanc, rhieni, gofalwyr a theuluoedd ehangach.