CGA / EWC

About us banner
Ein hymrwymiad i'r Gymraeg
Ein hymrwymiad i'r Gymraeg

Sefydlodd Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 fframwaith cyfreithiol i osod dyletswydd statudol ar gyrff cyhoeddus yng Nghymru i gydymffurfio â safonau newydd y Gymraeg. 

Mae’r safonau hyn yn gosod disgwyliadau clir arnom i ddarparu gwasanaethau yn Gymraeg i’n cofrestreion, ein rhanddeiliaid a’r cyhoedd, a hyrwyddo’r defnydd ar y Gymraeg trwy ein holl wasanaethau.

Mae’n ofynnol i ni gydymffurfio â 148 o safonau sy’n cwmpasu cyflenwi gwasanaethau, materion gweithredol, llunio polisïau a chadw cofnodion.

Darllenwch Safonau’r Gymraeg y mae’n ofynnol i ni gydymffurfio â nhw .

Sut rydym ni’n cydymffurfio â’r safonau

Sut rydym yn hyrwyddo ein gwasanaethau Cymraeg

Rydym yn sefydliad cwbl ddwyieithog ac rydym yn annog ein cofrestreion a’n rhanddeiliaid eraill i ddefnyddio’r Gymraeg wrth ymwneud â ni, naill ai ar lafar neu yn ysgrifenedig. Mae sawl ffordd rydym yn gwneud hyn:

  • rydym yn cymryd rhan yn Niwrnod Hawliau’r Gymraeg Comisiynydd y Gymraeg bob blwyddyn, gan hyrwyddo’n gwasanaethau Cymraeg trwy’r cyfryngau cymdeithasol
  • mae ein holl sianeli cyfryngau cymdeithasol yn cael eu gweithredu’n ddwyieithog
  • mae tudalen lanio’n gwefan yn rhoi dewis o ieithoedd i’r defnyddiwr bob tro y byddant yn mynd at ein gwefan
  • mae ein gwefan ar gael yn y Gymraeg a’r Saesneg ac mae botwm toglo Cymraeg / Saesneg yn y gornel dde ar frig holl dudalennau ein gwefan, sy’n caniatáu i’r defnyddiwr newid iaith yn hawdd
  • mae pob swydd wag yn cael ei hysbysebu’n Gymraeg ac mae ymgeiswyr yn gallu gwneud cais yn Gymraeg
  • mae ein gwasanaeth ateb awtomataidd yn darparu dewis iaith i bob galwr
  • rydym yn arddangos posteri “Iaith Gwaith” yn ein derbynfa
  • caiff pob aelod staff Cymraeg ei iaith fathodyn neu laniard “Iaith Gwaith” i’w wisgo

Rydym hefyd yn annog staff i ddefnyddio’r Gymraeg yn fewnol:

  • rydym yn cyhoeddi e-gylchlythyr ‘Cymraeg ar waith’ chwarterol i’r holl staff i hyrwyddo’r defnydd ar y Gymraeg ar draws y sefydliad, ac i helpu sicrhau ein bod yn gweithredu Safonau’r Gymraeg yn gyson
  • mae adran bwrpasol yng nghanllaw arddull CGA ar ddefnyddio’r Gymraeg yn gywir, gan gynnwys enwau lleoedd, sillafu a geirfa gywir, ac ymadroddion i’w hosgoi
  • rydym wedi gosod pecyn meddalwedd Cysgliad ar gyfrifiaduron gweithwyr Cymraeg eu hiaith a rhaglen 'To Bach' ar bob cyfrifiadur
  • mae holl bolisïau, gweithdrefnau ac arweiniad staff ar gael i staff yn Gymraeg yn llyfrgell y staff
  • rydym yn llwyr gefnogi hyfforddiant Cymraeg perthnasol i bob gweithiwr

Adroddiad monitro blynyddol

Bob blwyddyn, rydym yn llunio adroddiad monitro blynyddol sy’n darparu gwybodaeth am ein cydymffurfiaeth â’r safonau, ac yn amlinellu sut y gwnaethom weithredu’r safonau.

Darllenwch ein hadroddiad monitro safonau’r Gymraeg ar gyfer 2022-23.

Gwneud cwyn

Rydym yn falch o fod yn sefydliad cwbl ddwyieithog sy’n hyrwyddo ac yn annog yr iaith Gymraeg, y tu hwnt i’n dyletswydd ddeddfwriaethol i gydymffurfio. Croesawn unrhyw sylwadau neu awgrymiadau ynglŷn â’n darpariaeth ddwyieithog, a’n hymagwedd at yr iaith Gymraeg. This email address is being protected from spambots. You need JavaScript enabled to view it. i roi eich adborth i ni.

Os na fyddwn yn darparu gwasanaeth Cymraeg, neu os ydych yn anfodlon ar safon y gwasanaeth Cymraeg a ddarparwn, gallwch gwyno i’r Rheolwr Gwasanaethau Corfforaethol trwy anfon neges e-bost at This email address is being protected from spambots. You need JavaScript enabled to view it. neu ffonio 029 2046 0099.

Fel yr amlinellir yn ein Polisi Safonau Gwasanaeth, ceisiwn gydnabod derbyn y gŵyn gychwynnol o fewn pum niwrnod gwaith a rhoi ymateb llawn o fewn 20 niwrnod gwaith. Fodd bynnag, os disgwylir y bydd yn cymryd mwy o amser i ddatrys y mater, byddwn yn anfon ymateb dros dro.

Bydd yr holl gwynion yn cael eu cofnodi at ddibenion monitro ac adrodd. Cyflwynir adroddiad cryno i’r Uwch Dîm Rheoli bob mis sy’n cynnwys unrhyw gwynion neu bryderon yn ymwneud â’r gwasanaeth Cymraeg a ddarparwn.

Byddwn yn adrodd ar nifer y cwynion a dderbynnir bob blwyddyn yn ein hadroddiad monitro safonau’r Gymraeg, sy’n cael ei gyhoeddi ar ein gwefan a’i fonitro gan Gomisiynydd y Gymraeg.

Rydym yn sicrhau bod ein cyflogeion yn cael hyfforddiant priodol i’w helpu i drin cwynion yn effeithiol. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu hyfforddiant penodol ar y Gymraeg er mwyn sicrhau bod unrhyw bryderon a godir mewn cwyn yn derbyn sylw ac nad ydynt yn cael eu hailadrodd.

Os oes gennych gŵyn, fe’ch anogwn i gysylltu â ni yn y lle cyntaf. Os nad ydych yn fodlon ar y ffordd rydym wedi delio â’ch pryder, neu os credwch nad ydym wedi cymryd camau priodol i ddatrys y sefyllfa, dylech gysylltu â Chomisiynydd y Gymraeg i wneud cwyn.