Rydym yn parhau i gefnogi ymgyrch Defnyddia Dy Gymraeg Comisiynydd y Gymraeg eleni eto.
Beth bynnag yw lefel eich Cymraeg, mae pob gair yn cyfrif. Rydym yn annog pawb i ddefnyddio pa Gymraeg bynnag sydd ganddynt, boed hynny’n gyfarchiad cyflym, gair mewn neges e-bost neu’n sgwrs fer â chydweithiwr.
