CGA / EWC

Registration
Gwahodd ni i'ch digwyddiad
Gwahodd ni i'ch digwyddiad

Rydym yn cyflwyno hyfforddiant a gweithdai i’n holl grwpiau cofrestredig yn ogystal â rhanddeiliaid megis llywodraethwyr, sefydliadau hyfforddi, consortia addysg rhanbarthol, a sesiynau hyfforddiant i staff. Gallwn wneud hyn yn bersonol neu’n rhithiol.

Mae ein harbenigedd yn cwmpasu amrywiaeth o themâu sy’n gysylltiedig â’n gwaith, megis:

  • Cod Ymddygiad ac Ymarfer Proffesiynol CGA
  • defnyddio cyfryngau cymdeithasol yn gyfrifol
  • cyfrifoldebau a moeseg proffesiynol
  • Pasbort Dysgu Proffesiynol

Gallwn hefyd gymryd rhan mewn areithiau mewn cynadleddau a sesiynau panel, a mynychu marchnadle eich digwyddiad.

Os hoffech i ni fod yn rhan o'ch digwyddiad neu i gyflwyno sesiwn i'ch sefydliad, cwblewch y ffurflen hon.