Am y tro cyntaf, rydym wedi rhannu ein gwybodaeth a’n cipolygon o fwy na 25 mlynedd o waith rheoleiddio, gan ddefnyddio’n profiad o fwy na 5,000 o achosion.
Wedi ei dargedu at uwch arweinwyr, cyflogwyr, asiantaethau cyflenwi a llywodraethwyr, bwriad y digwyddiad oedd i ennill cipolwg gwell i’n gwaith a sicrhau gwybodaeth a fydd yn helpu gyda rhyngweithiadau yn y dyfodol â CGA, ac atgyfeiriadau atom.
Roedd y cyflwyniad yn cynnwys:
- enghreifftiau go iawn sy’n rhychwantu 25 mlynedd, bob un ohonynt yn amlygu arfer da neu arfer drwg i fynychwyr fyfyrio arnynt ac er datblygiad mynychwyr
- proses benderfynu CGA o ran priodoldeb i ymarfer, atal dros dro ac asesiadau addasrwydd i gofrestru, gan helpu’r rhai oedd yno i sicrhau dealltwriaeth fanylach o sut gwneir penderfyniad ar y canlyniad
- gwybodaeth berthnasol a defnyddiol i gynorthwyo ag unrhyw ymchwiliadau yn y dyfodol, a rhyngweithio â CGA
Bydd recordiad o’r digwyddiad ar gael cyn hir.