Matthew Porch – 2 Rhagfyr 2025
Dyddiad cyhoeddi: 16 Rhagfyr 2025
Mae Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA), yn eistedd yng Nghaerdydd ar 2 Rhagfyr 2025, wedi canfod bod honiad o 'drosedd perthnasol' wedi ei brofi yn erbyn athro ysgol, Matthew Porch.
Canfu'r Pwyllgor, tra ei fod wedi ei gyflogi fel athro ysgol yn Ysgol Gynradd Millbank, Caerdydd, bod Mr Porch, ar 14 Ionawr 2025, wedi ei gael yn euog o yrru cerbyd modur gyda gormodedd o alcohol, yn erbyn adran 5(1) Deddf Traffig y Ffyrdd, ac Atodlen 2 Deddf Troseddwyr Traffig y Ffyrdd 1988. O ganlyniad i'r drosedd hon, ar 4 Chwefror 2025, cafodd Mr Porch ei wahardd rhag gyrru am 23 mis, a chael Gorchymyn Cymunedol nes 3 Chwefror 2026, gofyniad gweithgaredd adfer, a dirwy o £100.
Rhoddodd y Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer Gerydd ar gofrestriad Mr Porch fel athro ysgol am gyfnod o ddwy flynedd (rhwng 2 Rhagfyr 2025 a 2 Rhagfyr 2027). O'r herwydd bydd Mr Porch yn gallu gweithio fel athro ysgol mewn ysgol a gynhelir, neu ysgol arbennig na chynhelir yng Nghymru am gyfnod y Cerydd.
Mae gan Mr Porch yr hawl i apelio i'r Uchel Lys o fewn 28 diwrnod.
