CGA / EWC

About us banner
Cynllun Strategol 2024-27
Cynllun Strategol 2024-27

Lawrlwytho'r Cynllun Strategol 2024-27

Lawrlwytho'r Cynllun Strategol CGA 2024 27 - Cynllun ar dudalen

Rhagair gan ein Cadeirydd a’n Prif Weithredwr

Rydym yn falch o gyflwyno ein Cynllun Strategol 2024-27. Mae’n amlinellu sut y byddwn yn cyflawni ein swyddogaethau statudol craidd yn effeithiol, yn effeithlon, ac yn gynaliadwy, gan sicrhau cydraddoldeb a thegwch drwyddi draw i ddiogelu dysgwyr a phobl ifanc, a meithrin ffydd a hyder y cyhoedd yn y gweithlu addysg.

Mae’n rhaid mai ein blaenoriaeth yw cofrestru a rheoleiddio cadarn, fel mai dim ond y rhai sy’n addas ac yn gymwys i ymarfer sy’n gallu ymuno â’r Gofrestr gyhoeddus o fwy na 90,000 o weithwyr addysg proffesiynol. Ar ôl iddynt gofrestru, mae’n rhaid i ni sicrhau eu bod yn cynnal eu hymrwymiad i gynnal y Cod Ymarfer ac Ymddygiad Proffesiynol tra’n cyflawni’r safonau proffesiynol uchaf. Lle y codir pryderon am gofrestrai, byddwn yn ymchwilio i'w haddasrwydd i ymarfer ac, os oes angen, yn cymryd y camau priodol.

I'r rhai sy’n dyheu am ymuno â’r proffesiwn addysgu, byddwn yn parhau i ddarparu sicrwydd trwy gadarnhau bod y rhaglenni mynediad sy’n arwain at ddyfarnu’r cymhwyster proffesiynol (Statws Athro Cymwysedig) yn bodloni’r safon ofynnol. Mae’r gwaith hwn yn rhoi hyder i’r gweithlu presennol, i ddysgwyr a phobl ifanc, i rieni/gwarcheidwaid ac i’r cyhoedd yn ehangach fod athrawon o safon yn ymuno â’r gweithlu.

Yn ganolog i’n dull, ac i wireddu’r cynllun hwn, y mae perthynas gydweithredol ac ymatebol â’n cofrestreion a’n rhanddeiliaid. Mae hyn yn cynnwys cyfathrebu’n glir i sicrhau bod dealltwriaeth o’n gwaith a’i oblygiadau, ond hefyd sicrhau fod cofrestreion a rhanddeiliaid yn cael eu cefnogi wrth gyflawni eu rôl o fewn proffesiwn rheoleiddiedig.

Y tu hwnt i reoleiddio, byddwn yn parhau i gyfrannu fel corff unigryw ac annibynnol o fewn y tirlun addysg. Lle y bo’n briodol, byddwn yn llywio datblygiad polisi seiliedig ar dystiolaeth yng Nghymru trwy ddefnyddio ein safle, ein gwybodaeth, a data o’n Cofrestr. Yn ogystal, rydym yn ymrwymo i gyflawni ein rôl unigryw o ran gweithredu Cynllun Gweithredu Cymru Gwrth-hiliol Llywodraeth Cymru, a’r Cynllun Cymraeg mewn Addysg 10 mlynedd.

Mae’r heriau recriwtio sy’n effeithio ar y gweithlu addysg yng Nghymru yn gyfarwydd iawn. Trwy ein swyddogaeth graidd i hyrwyddo gyrfaoedd, rydym yn ymrwymo i weithio gyda phartneriaid amrywiol, gan flaenoriaethu recriwtio o gymunedau pobl dduon, Asiaidd ac ethnig leiafrifol, siaradwyr Cymraeg, ac athrawon pynciau lle mae prinder. Nod yr ymdrech gydweithredol hon yw nid yn unig mynd i’r afael â heriau presennol, ond llywio gweithlu mwy cynhwysol a chynrychioliadol at y dyfodol.

Fel sefydliad sy’n benderfynol o ddysgu a gwella’n barhaus, trwy gydol cyfnod y cynllun hwn, byddwn yn esblygu, gan sicrhau gwerth am arian i’n cofrestreion bob amser. Byddwn yn parhau i lobïo Llywodraeth Cymru i gryfhau deddfwriaeth reoleiddio CGA, yn gwella gwelededd ein gwaith ymhellach fel modd o feithrin ffydd a hyder y cyhoedd yn y gweithlu addysg yng Nghymru, adolygu ein prosesau a’n gweithdrefnau yn systematig ac yn barhaus, ac yn gwneud gwelliannau i’n technolegau fel bod cofrestreion a rhanddeiliaid yn cael gwasanaeth o ansawdd uchel gennym.

Yn olaf, hoffem ddiolch i’n cofrestreion a’n rhanddeiliaid ac edrychwn ymlaen at weithio gyda chi i wireddu’r Cynllun Strategol hwn.

Eithne Hughes, Cadeirydd

Hayden Llewellyn, Prif Weithredwr

Ein rôl a’n cylch gwaith

Gweledigaeth

Bod yn rheoleiddiwr proffesiynol, annibynnol dibynadwy sy’n gweithio er budd y cyhoedd i gynnal proffesiynoldeb a gwella safonau yn y gweithlu addysg yng Nghymru.

Diben

Mae Deddf Addysg (Cymru) 2014 yn amlinellu ein nodau a’n swyddogaethau yn ffurfiol.

Ein nodau

  • Cyfrannu at wella safonau addysgu ac ansawdd dysgu yng Nghymru.
  • Cynnal a gwella safonau ymddygiad proffesiynol ymysg athrawon ac eraill sy'n cefnogi addysgu a dysgu yng Nghymru.
  • Diogelu ym mudd dysgwyr, rhieni a gwarcheidwaid, a'r cyhoedd, a chynnal ymddiriedaeth a hyder y cyhoedd yn y gweithlu addysg.

Ein swyddogaethau

  • Sefydlu a chynnal Cofrestr o Ymarferwyr Addysg.
  • Cynnal Cod Ymddygiad ac Ymarfer Proffesiynol.
  • Ymchwilio a gwrando honiadau allai gwestiynu priodoldeb i ymarfer ymarferwyr cofrestredig.
  • Achredu a monitro AGA athrawon ysgol.
  • Rhoi cyngor i Lywodraeth Cymru ac eraill.
  • Monitro sefydlu a gwrando apeliadau sefydlu.
  • Hyrwyddo gyrfaoedd yn y gweithlu addysg.
  • Ymgymryd â gwaith penodol pan wahoddir gan Lywodraeth Cymru.

Y ffordd rydym ni’n gweithio

Mae ein diwylliant, ein galluoedd a’n seilwaith yn llywio ein hymagwedd at ein rôl fel rheoleiddiwr proffesiynol, annibynnol ac fel cyflogwr.

Ein gwerthoedd

Tegwch - Rydym yn gweithredu’n deg a gydag uniondeb i gynnal safonau a hybu proffesiynoldeb.

Cefnogaeth - Rydym yn cefnogi’r gweithlu addysg i gynnal safonau uchel o ymddygiad ac ymarfer.

Rhagoriaeth - Rydym yn anelu at ragoriaeth ac yn ymdrechu i ddarparu gwasanaeth o ansawdd uchel i gofrestreion, rhanddeiliaid, dysgwyr a phobl ifanc, rhieni/gwarcheidwaid, a’r cyhoedd.

Cydweithredu - Rydym yn gweithio mewn partneriaeth â’r gweithlu addysg a rhanddeiliaid eraill i ddatblygu a hybu rhagoriaeth mewn addysgu a dysgu.

Annibyniaeth - Rydym yn annibynnol ac yn rheoleiddio mewn modd diduedd ac wedi’i seilio ar dystiolaeth.

Cydraddoldeb, amrywiaeth, a chynhwysiant

Mae ein hymrwymiad i gydraddoldeb ac amrywiaeth yn annatod i’n hymagwedd at ein gwaith. Mae ein Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2024-28 yn esbonio sut y byddwn yn gweithio i hyrwyddo’r egwyddorion hyn, o fewn ein sefydliad ac ar draws y gweithlu addysg ehangach yng Nghymru. Rydym wedi ymgorffori camau o Gynllun Gweithredu Gwrth-hiliol Llywodraeth Cymru a’r Cynllun Cymraeg mewn Addysg 10 mlynedd, y cawsom ein nodi fel partner allweddol neu arweinydd ynddo. Mae camau o Gynllun Gweithredu LHDTC+ Cymru wedi eu cynnwys hefyd yn ein cynlluniau.

Rydym yn benderfynol o leihau ein heffaith ar yr amgylchedd. Mae ein datganiad ar Adran 6 Y Ddyletswydd Bioamrywiaeth a Chydnerthedd Ecosystemau, sydd wedi’i gyhoeddi ar ein gwefan, yn amlinellu ein dull.

Y Gymraeg

Rydym wedi ymroi i’r Gymraeg ac yn falch o fod yn sefydliad dwyieithog, gan gynnig ein gwasanaethau yn Gymraeg a Saesneg. Rydym yn gweithio’n agos gyda Chomisiynydd y Gymraeg i sicrhau ein bod yn cydymffurfio’n llawn â Safonau’r Gymraeg.

Cynaliadwyedd ariannol

A ninnau’n rheoleiddiwr proffesiynol, annibynnol a ariennir trwy ffioedd cofrestru, mae’n hanfodol ein bod yn gweithredu yn unol â’n cyllideb ac yn defnyddio ein hadnoddau’n effeithlon. Byddwn yn parhau i ymdrechu i gadw ffioedd mor isel â phosibl, tra’n darparu’r lefel gwasanaeth uchaf wrth gyflawni ein dyletswyddau statudol. Fel rheoleiddwyr eraill, rydym yn cynnal cronfeydd ariannol digonol wrth gefn er mwyn rhoi sefydlogrwydd a sicrhau bod ein gwasanaethau’n cael eu hamddiffyn rhag risgiau a allai godi o ddigwyddiadau annisgwyl.

Rydym yn arwain gweithgareddau penodol ar ran Llywodraeth Cymru lle’r ystyrir mai ni yw’r corff mwyaf priodol i wneud gwaith o’r fath yng Nghymru. Mewn achosion felly, bydd Llywodraeth Cymru’n talu ein costau, trwy gyllid grant. Gallwn hefyd ymgymryd â gweithgareddau masnachol ac rydym yn gwneud hynny pan fyddwn yn ystyried bod hyn er budd cofrestreion a’r sector addysg yng Nghymru.

Ein pobl

Mae ein Cyngor yn cynnwys 14 aelod sy’n gosod cyfeiriad strategol y sefydliad ac sy’n gyfrifol am ei lywodraethu.

Penodir pob aelod am gyfnod o bedair blynedd. Penodir saith aelod yn uniongyrchol trwy system penodiadau cyhoeddus Llywodraeth Cymru, a phenodir saith yn sgil cael eu henwebu gan amrywiaeth o randdeiliaid.

Hefyd, rydym yn cynnal ac yn cefnogi:

  • cronfa o fwy na 50 o aelodau panel priodoldeb i ymarfer
  • bwrdd achredu Addysg Gychwynnol Athrawon (AGA) sy’n cynnwys 12 aelod
  • cronfa o fwy na 45 aseswr y Marc Ansawdd ar gyfer Gwaith Ieuenctid yng Nghymru

Rydym yn cyflogi dros 50 o aelodau staff.

Sut byddwn yn monitro cynnydd

Byddwn ni’n adrodd ar ein cynnydd yn erbyn amcanion a deilliannau’r cynllun hwn ac yn cyhoeddi hynny mewn pedwar adolygiad chwarterol, ac yn ein Hadroddiad Blynyddol a Chyfrifon, sy’n cael eu gosod gerbron y Senedd yn flynyddol a’u harchwilio gan Archwilio Cymru.

Amcanion allweddol ar gyfer 2024-27

Mae ein hamcanion yn amlinellu sut rydym yn amcanu at wireddu ein gweledigaeth yn ystod cyfnod y cynllun hwn. Bydd y rhain yn cyfrannu at gamau gweithredu mesuradwy a phenodol, a osodir fel rhan o’n proses cynllunio gweithredol flynyddol.

Amcan 1

Bod yn rheoleiddiwr proffesiynol, annibynnol, effeithiol, sy’n gweithio er budd y cyhoedd ac sy’n meithrin hyder yn y gweithlu addysg

  1. Cynnal Cofrestr o Ymarferwyr Addysg sy’n gywir ac yn hygyrch. 
  2. Gweithredu gweithdrefnau rheoliadol trylwyr, teg, a thryloyw sy’n sicrhau mai dim ond y rheiny sy’n cael eu hystyried yn briodol i ymarfer all wneud hynny.
  3. Llunio ymarfer cofrestreion trwy ddatblygu a hyrwyddo safonau uchel o ymddygiad a phroffesiynoldeb.
  4. Achredu a sicrhau ansawdd rhaglenni a darpariaeth addysg yng Nghymru. 
  5. Sicrhau gwelededd gwaith CGA ymhlith cofrestreion, rhieni/gwarcheidwaid, y cyhoedd a’n rhanddeiliaid, a dealltwriaeth ohono, drwy gyfathrebu ac ymgysylltu effeithiol, hygyrch ac ymatebol. 

Amcan 2

Cefnogi proffesiynoldeb a dysgu, a hyrwyddo gyrfaoedd o fewn y gweithlu addysg.

  1. Darparu cyfres o ganllawiau, adnoddau, a gwasanaethau proffesiynol, wedi ffocysu ar gefnogi ein cofrestreion i gynnal egwyddorion allweddol y Cod Ymddygiad ac Ymarfer Proffesiynol. 
  2. Arwain a chefnogi mentrau i hyrwyddo ac annog dysgu proffesiynol effeithiol i gofrestreion.
  3. Arwain a chefnogi mentrau i hyrwyddo ymgysylltiad ag ymchwil a helpu lledaenu arfer gorau i gofrestreion.
  4. Hyrwyddo gyrfaoedd o fewn y gweithlu addysg a gyrru gwelliannau o ran recriwtio.

Amcan 3

Ceisio llywio, llunio, a dylanwadu ar bolisi addysgol yng Nghymru er budd y gweithlu addysg.

  1. Darparu cyngor, ymchwil, a dadansoddi annibynnol gyda’r nod o wella safonau, a llywio a dylanwadu ar ddatblygu a chyflwyno polisi addysg yng Nghymru. 
  2. Cydweithredu â chofrestreion, rhieni/gwarcheidwaid, y cyhoedd, a’n rhanddeiliaid i lywio a dylanwadu ar bolisi addysg yng Nghymru, gan helpu gwella safonau. 
  3. Dylanwadu ar Lywodraeth Cymru a rhanddeiliaid eraill i sicrhau bod deddfwriaeth sydd wrth wraidd ein swyddogaethau rheoleiddio yn ddigon trylwyr. 
  4. Darparu Ysgrifenyddiaeth ar gyfer Corff Adolygu Cyflogau Annibynnol Cymru (IWPRB).

Amcan 4

Bod yn sefydliad gwydn, galluog, a chynaliadwy yn ariannol, sy’n cynnig gwerth am arian i gofrestreion.

  1. Rheoli adnoddau’n effeithiol ac yn gynaliadwy er mwyn bodloni anghenion presennol a’r dyfodol, gan wneud defnydd priodol o dechnoleg i yrru effeithlonrwydd a gwella’n gwasanaethau.
  2. Meddu ar brosesau cynllunio, rheoli perfformiad a chydymffurfio effeithiol, gan sicrhau eu bod yn ymgorffori arfer gorau. 
  3. Bod yn gyflogwr rhagorol sy’n hybu diwylliant cefnogol a chynhwysol lle bydd yr holl staff, aelodau’r Cyngor a phwyllgorau/paneli yn teimlo’u bod yn cael eu gwerthfawrogi a’u bod yn gallu cyfrannu’n llawn. 
  4. Dylanwadu ar Lywodraeth Cymru a rhanddeiliaid eraill i sicrhau bod deddfwriaeth sydd wrth wraidd ein hannibyniaeth, ein llywodraethiant a’n cyllid yn parhau’n addas at y diben.