CGA / EWC

About us banner
Siarad yn Broffesiynol 2026: beth mae angen i addysgwyr ei wybod am roi hawliau plant ar waith
Siarad yn Broffesiynol 2026: beth mae angen i addysgwyr ei wybod am roi hawliau plant ar waith

21 Hydref 2026, 16:00-17:30

Caiff Cymru ei chydnabod yn rhyngwladol am ei hymrwymiad i hawliau plant, gyda gweledigaeth i bob plentyn a pherson ifanc gael ei glywed, ei barchu, a’i fod yn gallu ffynnu.

Ymunwch â ni wrth i ni groesawu Comisiynydd Plant Cymru, Rocio Cifuentes MBE, yn brif siaradwr ar gyfer ein digwyddiad Siarad yn Broffesiynol. Bydd hi’n archwilio’r hyn y mae plant a phobl ifanc ledled Cymru yn ei ddweud wrthym ni am eu profiadau o addysg, a beth mae hyn yn ei olygu i’r rheiny sy’n gweithio gyda nhw, ac yn eu cefnogi.

Gan ddefnyddio tystiolaeth a gasglwyd yn uniongyrchol gan blant a phobl ifanc, bydd Rocio yn trafod rôl swydd Comisiynydd Plant Cymru, a phwysigrwydd dull yn seiliedig ar hawliau ar gyfer addysg a gwaith ieuenctid. Bydd y sesiwn hefyd yn myfyrio ar heriau sy’n wynebu dysgwyr a phobl ifanc ar hyn o bryd, ac yn ystyried y camau ymarferol y gall gweithwyr proffesiynol eu cymryd i gynnal a hyrwyddo hawliau plant yn eu gwaith bob dydd.

Bydd adran holi ac ateb ar ddiwedd y digwyddiad, lle byddwch yn cael cyfle i ofyn eich cwestiynau yn uniongyrchol i Rocio.

Mae’r digwyddiad hwn yn addas ar gyfer yr holl gofrestreion a bydd hefyd o ddiddordeb i’r sector addysg ehangach, yn ogystal â’r rheiny sydd â diddordeb mewn hawliau plant.

Gwnewch yn siŵr eich bod yn cadw eich tocyn rhad ac am ddim nawr.

Bywgraffiad

Rocio Cifuentes MBE yw Comisiynydd Plant Cymru.

A hithau’n Gomisiynydd Plant Cymru, mae Rocio Cifuentes yn hyrwyddo a gwarchod hawliau plant a phobl ifanc ledled Cymru. Mae’n gweithio’n uniongyrchol gyda phlant a phobl ifanc i sicrhau bod eu lleisiau’n cael eu clywed gan y rhai sy’n gwneud penderfyniadau, ac yn eirioli dros newidiadau i ddeddfau, polisïau ac arferion sy’n effeithio ar eu bywydau.

Cyn dod yn Gomisiynydd ym mis Ebrill 2022, Rocio oedd Prif Weithredwr Tîm Cymorth Lleiafrifoedd Ethnig ac Ieuenctid Cymru (EYST Cymru), lle roedd hi’n hyrwyddo hawliau a chyfleoedd i bobl ifanc o gefndiroedd amrywiol. Mae ganddi brofiad helaeth o weithio gyda phlant, pobl ifanc a chymunedau ledled Cymru, ac yn cael ei chydnabod yn genedlaethol am ei chyfraniadau at gydraddoldeb, cynhwysiant a hawliau plant.

Dyfarnwyd MBE i Rocio am wasanaethau i bobl ifanc a lleiafrifoedd ethnig yng Nghymru.