CGA / EWC

About us banner
Cylchlythyr FyCGA Medi 2025
Cylchlythyr FyCGA Medi 2025

Diogelu'r proffesiwn a'r cyhoedd

Rhestr wirio blwyddyn academaidd newydd

Dyma rhai pethau cyflym i chi wneud i fod yn barod, a gwneud y mwyaf o'r flwyddyn i ddod:

Astudiaethau achos PiY

Yn ein hastudiaeth achos Priodoldeb i Ymarfer (PiY) diweddaraf rydym yn edrych ar esiampl o pan gafodd cofrestrai eu tynnu oddi ar y Gofrestr yn dilyn achos o ymddygiad amhriodol tuag at ddysgwyr. Mae'r astudiaethau achos yn seiliedig ar enghreifftiau go iawn, ac wedi eu creu i roi pwyntiau dysgu gwerthfawr i chi, i gynnal a chydymffurfio gyda'r Cod, a diogelu eich cofrestriad.

Gwrandawiadau priodoldeb i ymarfer

Rydym yn cyhoeddi gwybodaeth am wrandawiadau i ddod, a chanlyniadau gwrandawiadau ar ein gwefan. Caiff y mwyafrif o'n gwrandawiadau eu clywed yn gyhoeddus, sy'n golygu y gallwch ymuno fel arsyllwr. Mae gwybodaeth ar wrandawiadau i ddod a sut i fynychu ar dudalennau priodoldeb i ymarfer.

Diweddariadau'r Cyngor

Cyhoeddi adroddiadau blynyddol

Dros yr haf, fe wnaethom gyhoeddi nifer o adroddiadau statudol blynyddol, a gallwch eu darllen ar ein tudalen cynlluniau ac adroddiadau corfforaethol.

Ai chi yw ein Prif Weithredwr newydd?

Rydym yn chwilio am Brif Weithredwr profiadol â gweledigaeth i arwain ein cyfeiriad strategol a'n gweithrediadau. Os hoffech wybod mwy am y rôl, ewch i wefan Goodson Thomas.

Canllawiau, adnoddau, a gwasanaethau proffesiynol

Defnyddio'r PDP i gefnogi eich datblygiad proffesiynol

Wyddech chi y gallwch barhau i ddefnyddio eich Pasbort Dysgu Proffesiynol (PDP) trwy gydol eich gyrfa? Mae'n perthyn i chi, a dyw e ddim wedi ei gysylltu gydag unrhyw gyfnod o'ch cyflogaeth.

Os nad ydych wedi ei ddefnyddio ers peth amser, mae gyda ni ganllaw hanfodol i'ch PDP ar ein tudalen YouTube.

Canllawiau arfer da

Rydym wedi cyhoeddi canllaw arfer da newydd gyda'r bwriad o helpu cefnogi iechyd meddwl a lles dysgwyr a phobl ifanc. Mae'r canllaw yn canolbwyntio ar ddarparu cyngor ymarferol i'ch helpu i nodi pan fod angen help ar unigolion a sut i ymateb i'w hanghenion. Rydym hefyd wedi diweddaru ein canllaw arfer da ar iechyd meddwl a lles cofrestreion. Mae'r canllawiau hyn, a'n canllawiau eraill i gyd ar gael ar ein gwefan.

Llongyfarchiadau i ddeiliaid newydd y MAGI

Llongyfarchiadau i Wasanaeth Ieuenctid Ceredigion am gael eu marc ansawdd efydd, ac i Ddug Caeredin Cymru, YMCA Caerdydd, a Ieuenctid Conwy, ar adnewyddu eu rhai nhw.

Os ydych chi neu rywun yr ydych yn eu hadnabod yn ymwneud â gwaith ieuenctid ac am roi nôl, ry'n ni wastad yn chwilio am aseswyr marc ansawdd newydd. Mwy o wybodaeth a chyfle i wneud cais ar ein gwefan.

Hysbysu polisi

Digwyddiad briffio ystadegau blynyddol y gweithlu addysg

10:30-12:00, 14 Hydref 2025

Fe wnaethom gyhoeddi Ystadegau Blynyddol y Gweithlu Addysg yng Nghymru 2025 ym mis Gorffennaf, yn rhoi manylion y gweithlu addysg yng Nghymru.

I gyd-fynd â'r adroddiad, byddwn yn cynnal digwyddiad briffio fydd yn cynnwys trosolwg o'r data, yn ogystal â mewnwelediadau a thueddiadau allweddol. Am y tro cyntaf eleni, bydd hefyd yn cynnwys gwybodaeth ar ymarferwyr dysgu oedolion, a phenaethiaid neu uwch arweinwyr yn gweithio mewn addysg bellach. Cadwch eich lle am ddim nawr.

Rhag ofn i chi ei fethu

Diolch am ddod

Diolch i bawb ddaeth i'n gweld yn yr amryw ddigwyddiadau dros yr haf. Roedd hi'n hyfryd cael cyfle i siarad gyda chofrestreion, rhieni/gwarcheidwaid, a dysgwyr o bob oed am ein gwaith, ateb cwestiynau, a siarad am ein gwaith. Mae dal ychydig mwy cyn diwedd y flwyddyn, gan gynnwys y Sioe Addysg Genedlaethol yng Nghaerdydd ym mis Hydref. Os fyddwch chi yno, dewch draw i ddweud helo.

Oes rhywbeth gyda chi i'w rannu?

Rydym ni wastad yn chwilio am gyfranwyr i'n blog a'n podlediad, Sgwrsio gyda CGA. Os ydych chi'n meddwl bod rhywbeth gyda chi i'w gyfrannu i bodlediad, yn arbennig ym meysydd gwyddoniaeth, ac arfer gwrth-hiliaeth, cysylltwch â ni. Yn yr un modd, os oes gyda chi flog neu syniad am flog, This email address is being protected from spambots. You need JavaScript enabled to view it..