Dyddiad cyhoeddi: 18 Rhagfyr 2025
Mae Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA), a oedd yn eistedd o bell ar 3, 4, 5, 8 a 9 Rhagfyr 2025, wedi canfod bod honiad o ‘ymddygiad proffesiynol annerbyniol’ wedi’i brofi yn erbyn y gweithiwr cymorth dysgu mewn ysgol a’r gweithiwr cymorth dysgu mewn addysg bellach, Scott Trigg-Turner.
Canfu’r Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer fod yr honiadau canlynol wedi’u profi, sef, tra oedd yn cael ei gyflogi fel cynorthwy-ydd cymorth dysgu mewn ysgol yn Ysgol Basaleg, bod Mr Trigg-Turner:
- wedi dangos ffafriaeth a thorri ffiniau proffesiynol mewn perthynas â’r disgyblion canlynol:
- Disgybl A, yn yr ystyr ei fod:
- wedi cynorthwyo Disgybl A gyda Mathemateg, pan nad oedd y cymorth hwn yn angenrheidiol ac wedi’i geisio gan ei reolwr llinell, sef Cydweithiwr A
- wedi gwneud ‘sgerbwd’ crefft i Ddisgybl A pan oedd yn absennol, ond nad oedd wedi gwneud un i ddisgybl arall a oedd hefyd yn absennol
- wedi symud dodrefn i eistedd wrth ymyl Disgybl A mewn amgylchiadau pan oedd wedi cwblhau ei waith ac y gallai disgyblion eraill fod wedi elwa o’i gymorth
- ar 21 Tachwedd 2023, wedi dweud wrth Gydweithiwr B y byddai’n gwirio Disgybl A, er nad oedd yn gyfrifol am wneud hynny
- Disgybl D, yn yr ystyr ei fod, ar neu o gwmpas 24 Tachwedd 2023:
- wedi eistedd yn agos at Ddisgybl D er nad oedd hynny’n angenrheidiol
- wedi eistedd gyda Disgybl D tra oedd yn ysgrifennu rhestr o enwau babanod, nad oedd angen ei gymorth ef ar ei gyfer
- ym mis Tachwedd 2023, wedi gwneud sylwadau wrth ddisgyblion a chydweithwyr, yr oedd yn gwybod eu bod yn anghywir ac yn gamarweiniol, yn yr ystyr ei fod wedi dweud wrthynt:
- y bu yn y fyddin a/neu’r lluoedd arfog
- y bu ym morlu America
- bod ganddo ddryll o hyd o wasanaeth gweithredol
- y bu’n saethwr cudd
- ei fod wedi lladd pobl
- mai ei lysenw/ffugenw oedd ‘kill switch’
- ar sawl achlysur yn 2023, wedi cyrraedd yn hwyr a gadael y dosbarth yn gynnar, heb gytundeb o flaen llaw gan ei reolwr llinell, sef Cydweithiwr A
- ar un achlysur neu fwy yn 2023, wedi rhoi esboniadau anghyson i’w gydweithwyr a’i reolwyr llinell ynglŷn â pham yr oedd wedi cyrraedd y dosbarth yn hwyr, neu adael yn gynnar
- ar sawl achlysur yn 2023, wedi rhoi esboniadau anghyson i'w gydweithwyr a’i reolwyr ynglŷn â sut y cafodd yr anafiadau a’i rhoddodd mewn cadair olwyn
Ar ôl gwneud y canfyddiadau hyn, penderfynodd y Pwyllgor fod ymddygiad Mr Trigg-Turner ym mharagraffau 2, 4 a 5 yn anonest ac yn dangos diffyg unplygrwydd.
Gosododd y Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer Orchymyn Gwahardd, gan ddileu Mr Trigg-Turner o’r Gofrestr Ymarferwyr Addysg yn y categorïau gweithiwr cymorth dysgu mewn ysgol a gweithiwr cymorth dysgu mewn addysg bellach am gyfnod amhenodol. Penderfynodd hefyd na chaiff Mr Trigg-Turner wneud cais i gael ei adfer i’r Gofrestr Ymarferwyr Addysg cyn i gyfnod o ddwy flynedd fynd heibio. Os na fydd Mr Trigg-Turner yn gwneud cais llwyddiannus am gymhwysedd i gael ei adfer i’r Gofrestr ar ôl 9 Rhagfyr 2027, bydd yn aros wedi’i wahardd am gyfnod amhenodol.
Mae gan Mr Trigg-Turner hawl i apelio i’r Uchel Lys o fewn 28 niwrnod.