CGA / EWC

Quality Mark Logo All 3 LevelsSefydliad: Gwasanaeth Ieuenctid Caerffili

Teitl: Prosiect y Cwricwlwm ac Achredu – Grŵp Ffocws Pobl Ifanc

Person cyswllt: Evan Davies

Nod menter y grŵp ffocws yw cynyddu ymglymiad pobl ifanc mewn datblygu cynnig y cwricwlwm ac achredu’r gwasanaeth ieuenctid, gan sicrhau bod y cynnig yn ddifyr ac yn berthnasol i bobl ifanc, ac yn ymatebol i anghenion, tueddiadau ac ystyriaethau mewn diwylliant ieuenctid yn lleol ac yn genedlaethol ar hyn o bryd.

Mae grŵp ffocws o bobl ifanc ar draws y fwrdeistref yn ymwneud â’r prosiect o leiaf unwaith y mis, trwy gyfarfodydd, gweithdai a chyfleoedd achredu. Mae pobl ifanc yn cynrychioli holl ystod y ddarpariaeth mynediad agored a thargedig.

Yn ystod y sesiynau hyn, ymgynghorir â phobl ifanc ar bob maes y cwricwlwm neu ar bwnc penodol, er enghraifft pa wybodaeth sydd ei hangen, pa ddysgu sy’n ofynnol er mwyn i bobl ifanc fod yn wybodus. Mae pobl ifanc yn helpu i ddylunio adnoddau ac adolygu gweithdai a gweithlyfrau achredu sy’n cael eu cyflwyno fel rhan o’r cwricwlwm. Mae tîm y Cwricwlwm ac Achredu yn datblygu cynnwys y cwricwlwm gyda phobl ifanc ar ddechrau a diwedd y datblygu, gan sicrhau bod pobl ifanc wedi cyfrannu eu syniadau am bynciau i’w cynnwys, dulliau cyflwyno ac adnoddau a ddefnyddir, gan gynnwys y geiriad a ddefnyddir mewn gweithdai neu becynnau’r cwricwlwm.

Mae’r grŵp hefyd yn cael cyfle i adolygu’r gwaith papur a ddefnyddiwn i gofrestru achrediadau neu wrth gasglu adborth ar ddiwedd unrhyw ddarpariaeth gwaith.

Mae’r holl bobl ifanc sy’n cymryd rhan yn gwneud hynny’n wirfoddol, gan weithio mewn grŵp bach fel y gallwn ganolbwyntio ar eu datblygiad personol tra’n datblygu’r cwricwlwm.

Defnyddiwn egwyddorion cyfranogi, gan weithio ochr yn ochr â’r Fforwm Ieuenctid.

Rydym wedi darganfod bod gwrando ar holl syniadau’r bobl ifanc a’u harchwilio’n llawn (hyd yn oed pan ystyrir i ddechrau na fydd y syniadau’n hynny’n gweithio) wedi caniatáu i ni eu grymuso a chyfrannu mwy yn y dyfodol. Hefyd, mae’n eu galluogi nhw i archwilio sut y gallant gyfleu eu syniadau mewn ffordd wahanol i ganiatáu i’w lleisiau gael eu clywed a sicrhau’r effaith fwyaf

Ar ôl adolygiad diweddar o’r grŵp, sylwom nad yw’r grŵp oedran tebyg o aelodau efallai wedi cael y budd a ddaw o amrywio’r cwricwlwm a’r cynnwys i rychwant oedran ehangach o ddefnyddwyr gwasanaethau ieuenctid ehangach. Penderfynom y byddai’n dda newid sut mae’r grŵp yn cael ei redeg, gan ganiatáu i bobl ifanc fod yn aelod o’r grŵp am 2 flynedd (gan eu galluogi felly i ddatblygu’u sgiliau a’u profiad) ac wedyn pan fyddant yn gadael, rydym yn gwahodd pobl ifanc sy’n cynrychioli ardal neu grŵp oedran sydd heb ei gynnwys i gymryd rhan. Mae hyn wedi caniatáu i ni gael aelodaeth fwy amrywiol, sy’n cyfoethogi’r deilliannau rydym yn gweithio tuag atynt.

I ddechrau, dechreuodd y grŵp gyda dull wedi’i seilio’n fwy ar sesiwn drafod gyda phawb yn eistedd, ac er y cawsom gyfraniad da gan aelodau, teimlai’r grŵp y byddai’n well dod yn fwy rhyngweithiol. O ganlyniad, rydym nawr yn mynd trwy weithgareddau a awgrymir i weld sut y gallent weithio, rydym yn symud o gwmpas yn fwy, rydym yn cael gwared ar seddi pan fydd angen, rydym yn greadigol ac yn symudol wrth daflu syniadau, ac ati.

Y wers olaf i ni ei dysgu yw er bod pobl ifanc wedi cyfrannu’n sylweddol at gynnwys y cwricwlwm a’r gweithdai a ddarparwyd, nid oedd lefel defnydd yr adnoddau newydd eu datblygu ar draws y gwasanaeth yn uchel. Ar ôl trafod â’r grŵp, teimlont y byddai’n dda edrych ar ddulliau mwy rhyngweithiol o gyflwyno’r cwricwlwm. Er enghraifft, mae gennym brosiect tymhorol erbyn hyn y mae’r grŵp ffocws yn ei ddylunio a’i hwyluso, gyda’r syniad bod pawb ar draws y gwasanaeth yn cymryd rhan. Fel enghraifft ddiweddar yn rhan o faes y cwricwlwm ar Fwyta’n Iach a Chost Byw, gofynnodd y grŵp ffocws i bob canolfan ieuenctid a phrosiect lunio a phrofi rysáit y gall pobl ifanc ei ddefnyddio ar gyfer llyfrau ryseitiau’r gwasanaeth ieuenctid – cafwyd ymateb penigamp ac, yn ddiweddar, fe wnaethom argraffu Llyfr Ryseitiau Gwasanaeth Ieuenctid Caerffili yn cynnwys cyfraniadau o bob darpariaeth.

Mae’r grŵp ffocws hefyd yn cynnal cystadlaethau i annog mwy o bobl ifanc i gymryd rhan mewn datblygu’r cwricwlwm. Cafodd hyn effaith fawr ac mae adborth gan staff wedi amlygu, oherwydd bod eu pobl ifanc wedi cymryd rhan yn y gystadleuaeth, roeddent o ganlyniad am gyflwyno cynnwys cysylltiedig y cwricwlwm yn fwy na phe bai’r cynnwys wedi’i ddatblygu drostynt/ei roi iddynt i’w gyflwyno.

Mae pobl ifanc yn cymryd rhan, gan wybod eu bod yno i gyflwyno safbwyntiau pobl ifanc o’u hardal.

Mae pobl ifanc yn ymgysylltu â datblygu gweithdai’r cwricwlwm o ddechrau i ddiwedd y darn gwaith, yn aml. Mae hyn yn rhoi’r cyfle iddynt ddysgu beth sydd ei angen wrth ddylunio adnodd addysgol a chânt eu hannog i gyfrannu eu barn eu hunain drwyddi draw.

Rydym yn ceisio datblygu’u sgiliau cymdeithasol, cyfathrebu a gwaith tîm, a magu eu hyder.

Lluniwyd y prosiectau tymhorol i gael eu cynnal mewn ffordd sy’n annog pobl ifanc i gymryd rheolaeth fesul tipyn ar ddysgu’r sgiliau sydd eu hangen arnynt, fel ymchwilio, golygu, trefnu a rheoli amser. Y bwriad gyda phob prosiect yw y bydd y gweithwyr ieuenctid yn camu’n ôl yn fwy yn y gwaith sy’n cael ei wneud, gyda’r nod bod y grŵp yn penderfynu ar eu prosiect eu hunain a bod gweithwyr yno dim ond i ddarparu’r gofod a’r gefnogaeth.

Mae’r bobl ifanc hefyd yn cael cyfle i ennill achrediad cenedlaethol yn ystod y sesiynau, gan gynnwys Dyfarniadau Ieuenctid ac unedau Agored Ieuenctid Cymru.
Ymhlith y buddion i’r gwasanaeth ieuenctid y mae cael cynnwys ac adnoddau’r cwricwlwm sy’n cefnogi staff a phobl ifanc yn y ffordd orau, ac mae cynnwys llais y bobl ifanc o’r dechrau i’r diwedd a chaniatáu cyfle iddynt ddatblygu’r gweithdai yn gwneud y cwricwlwm yn berthnasol ac yn gredadwy.

Hefyd, mae’n helpu i arddangos y gwaith y mae pobl ifanc yn ei wneud, sy’n rhoi ymdeimlad o falchder a pherchnogaeth iddynt ar y gwaith maen nhw wrthi’n ei wneud, yn hytrach na’r gwaith maen nhw’n ei gael.

Y prif fudd i’r gwasanaeth ieuenctid yw cael amrywiaeth eang o adnoddau wedi’u dylunio gyda phobl ifanc, ac rydym wedi sylwi mai’r rhain yn aml yw’r adnoddau sy’n cael eu defnyddio amlach. Hefyd, mae’n rhoi cyfle i ni ddysgu ymhle mae’r bylchau yn ein cwricwlwm a chael syniadau unigryw ar gyfer sut i fynd i’r afael â nhw. Enghraifft yw gweithdy ar fepio. Y cynllun gwreiddiol oedd dylunio poster ond ar ôl trafodaethau gyda’r grŵp, roedden nhw am ddylunio llyfr comig i ennyn diddordeb pobl ifanc ym mlwyddyn 6 a 7.

Fel staff, rydym yn elwa o’r cyfraniad sy’n caniatáu i ni gael ein herio am yr adnoddau rydyn ni’n eu dylunio, ac mae agor ein hunain i gael adborth gan y grŵp yn caniatáu i ni ddatblygu ein sgiliau yn barhaus a myfyrio ar bethau na wnaethom eu hystyried yn y gorffennol. Mae’n rhoi’r cyfle i ni gael syniadau gan grŵp o bobl ifanc sy’n greadigol iawn.

Rydym wedi sicrhau bod yr holl weithdai ar gael yn y Gymraeg a’r Saesneg.

Trwy gydol y flwyddyn hon, rydym wedi bod yn gweithio gyda’r grŵp i ddatblygu adnoddau ar thema ‘herio gwahaniaethu’.

Rydym yn edrych yn barhaus ar sut y gallwn ddatblygu, rydym ni wrthi’n archwilio syniad am gyfnod preswyl i aelodau ddatblygu eu sgiliau ymhellach i greu eu hadnodd eu hunain gyda llai o gefnogaeth gennym ni, a’r syniad o roi mwy o gyfrifoldeb i’r aelodau profiadol am sut olwg all fod ar y sesiynau.

Teimlwn y bydd y prosiect bob amser yn addasu ac yn datblygu i gyd-fynd ag anghenion y bobl ifanc sy’n cymryd rhan yn y grŵp ac o fewn y gwasanaeth ehangach.