CGA / EWC

Accreditation banner
Ynghylch y Marc Ansawdd
Ynghylch y Marc Ansawdd

Rydym yn gweinyddu'r Marc Ansawdd ar gyfer Gwaith Ieuenctid yng Nghymru (MAGI), mewn partneriaeth â Safonau Addysg Hyfforddiant (ETS) Cymru, Cyngor Cymreig y Gwasanaethau Ieuenctid Gwirfoddol, Grŵp Prif Swyddogion Ieuenctid Cymru a Chylch Asiantaethau Hyfforddiant Cymru.

Mae’r Marc Ansawdd yn adnodd unigryw ar gyfer hunanasesu, cynllunio gwelliant ac ennill marc ansawdd am waith ieuenctid. Mae’n cefnogi ac yn cydnabod safonau sy’n gwella mewn darpariaeth, ymarfer a pherfformiad sefydliadau sy’n cyflwyno gwaith ieuenctid, gan ddangos a dathlu rhagoriaeth eu gwaith gyda phobl ifanc.

Mae’r Marc Ansawdd yn cynnwys dwy elfen wahanol:

  • cyfres o Safonau Ansawdd y gall sefydliadau gwaith ieuenctid eu defnyddio fel adnodd ar gyfer hunanasesu a gwella
  • marc ansawdd wedi’i asesu’n allanol sy’n ddyfarniad cenedlaethol i ddangos rhagoriaeth sefydliad

Mae 35 o sefydliadau gwaith ieuenctid yng Nghymru wedi cyflawni’r Marc Ansawdd. Os hoffech gofrestru eich diddordeb ar gyfer asesiad allanol y Marc Ansawdd, cwblhewch ffurflen mynegi diddordeb.

Gwyliwch deiliad presennol y Marc Ansawdd yn rhannu buddion y Marc Ansawdd.

Ystyried cymryd rhan yn y Marc Ansawdd?

Mae ein modiwl e-ddysgu wedi ei greu i helpu adeiladu ar eich gwybodaeth am y Marc Ansawdd, pam ei fod yn bwysig a’i gynnwys. Dechrau’r modiwl.

O bersbectif yr ifanc: proses asesu MAGI

Mae'r fideo byr yma, a gynhyrchwyd gan MAD Abertawe, yn tywys pobl ifanc sy'n ymgymryd â'r Marc Ansawdd ar gyfer Gwaith Ieuenctid (MAGI) yng Nghymru , trwy'r broses asesu.

 

Safonau ansawdd a dogfennau arweiniad

Y Marc Ansawdd: cyflwyniad a chanllawiau

Y Marc Ansawdd: lefel aur

Y Marc Ansawdd: lefel arian

Y Marc Ansawdd: lefel efydd

Os oes gyda chi unrhyw ymholidau, This email address is being protected from spambots. You need JavaScript enabled to view it..

Adroddiad gwerthuso Marc Ansawdd ar gyfer Gwaith Ieuenctid

Gwerthusiad o waith Cyngor y Gweithlu Addysg ar y Marc Ansawdd ar gyfer Gwaith Ieuenctid a’i ddatblygiad yn y sector ieuenctid yng Nghymru.