CGA / EWC

Accreditation banner
Gwrandawiadau apêl sefydlu sydd ar y gweill
Gwrandawiadau apêl sefydlu sydd ar y gweill
yma

Gall aelodau'r proffesiynau addysg a'r cyhoedd fynychu gwrandawiadau llafar gan Bwyllgor Apeliadau Sefydlu Cyngor y Gweithlu Addysg, ac mae nifer bach o leoedd i arsylwyr ar gael at y diben hwn. Os hoffech fynychu fel arsylwr, gofynnir i chi gysylltu â'r Cyngor ar 029 2046 0099. Wrth fynychu gwrandawiad, gofynnir i arsylwyr ystyried y pwyntiau canlynol:

  • Mae'n bosibl y caiff gwrandawiadau eu canslo neu eu gohirio ar y funud olaf. Cynghorir y rheiny sy'n teithio o bell i gadarnhau bod y gwrandawiad yn dal i fynd yn ei flaen drwy ffonio'r Cyngor ar ddiwrnod y gwrandawiad neu ychydig cyn hynny;

  • Cynhelir gwrandawiadau yn unol â'r Ddeddf Hawliau Dynol. Fodd bynnag, caiff athro ysgol ofyn i wrandawiad cyfan neu ran o wrandawiad gael ei chlywed yn breifat. Bydd y Pwyllgor yn ystyried unrhyw gais o'r fath ar ddiwrnod y gwrandawiad. Lle cynhelir gwrandawiad cyfan neu ran o wrandawiad yn breifat, ni fydd hyn yn agored i arsylwyr.

Os ydych yn aelod o'r wasg, ac rydych am ddod i wrandawiad a restrir yma, mae'n rhaid i chi gysylltu â'r Cyngor yn y lle cyntaf ar 029 2046 0099. Os nad ydych yn gwneud hynny cyn dyddiad y gwrandawiad, ni all y Cyngor sicrhau lle i chi fel arsylwr.

Gellir cael rhagor o wybodaeth ar gyfer arsylwyr gwrandawiadau yma . Gwybodaeth gyffredinol yw hon, ac ym mhob sefyllfa, Rheoliadau Addysg (Trefniadau Sefydlu ar gyfer Athrawon Ysgol) (Cymru) 2015 a dogfen y Cyngor,   Arweiniad ar gyfer Gwrando ar Apeliadau Sefydlu  a gaiff flaenoriaeth.

Arweiniad ar gyfer Gwrando ar Apeliadau Sefydlu Arweiniad ar gyfer Gwrando ar Apeliadau Sefydlu