Dewiswch eich iaith
Gall ymddiddori mewn ymchwil chwarae rhan bwysig wrth eich helpu i ddatblygu eich syniadau a’ch ymarfer eich hun fel gweithiwr addysg proffesiynol. Dyna pam rydym ni wedi dechrau ‘Meddwl Mawr’, sef clwb llyfrau a chyfnodolion sydd â’r nod o’ch cefnogi chi ar eich taith ddysgu broffesiynol.
Byddwn yn cyhoeddi argymhellion rheolaidd ar y dudalen hon, yn cwmpasu amrywiaeth o bynciau diddorol, gan eich cyfeirio at rywfaint o’r cynnwys gwych sydd ar gael yn eich llyfrgell ar-lein rhad ac am ddim.
Gwnewch yn siŵr eich bod yn tanysgrifio i’r rhestr bostio i gael yr argymhellion pan fyddant yn cael eu cyhoeddi.
Rydym yn awyddus i glywed am unrhyw lyfrau neu erthyglau mewn cyfnodolion ar EBSCO a oedd yn ddiddorol, yn cynnig mwynhad neu’n ddefnyddiol yn eich barn chi. Os hoffech rannu argymhelliad
Mae'r llyfr yn ymdrin ag ystod o ymdriniaeth i amlieithrwydd mewn addysg athrawon, gan dynnu o raglenni addysg o bob cwr o Ewrop a Gogledd America.
Ymchwiliodd yr awduron i sut caiff athrawon eu hyfforddi i weithio mewn cyd-destunau amlieithog, a sut maent yn dysgu am amrywiaeth diwylliannol. Mae'r llyfr yn archwilio effaith amlieithrwydd a dysgwyr o gefndir ymfudol ymhellach, a phrofiadau myfyrwyr o wahanol gefndiroedd.
Mae'r awduron yn rhoi eu canfyddiadau mewn cyd-destun gyda hanes cefndirol y gwledydd maent yn ymchwilio iddynt, i ddeall sut mae amlieithrwydd wedi ei ddatblygu dros amser. Mae'r llyfr hefyd yn mynd i'r afael â sut mae tirluniau addysgol, hanes, polisïau ieithyddol, a blaenoriaethau sefydliadol yn llywio hyfforddiant ac addysg athrawon, ochr yn ochr ag amlieithrwydd.
Mae presenoldeb myfyrwyr lle nad iaith yr ysgol yw eu hiaith gyntaf yn creu heriau a chyfleoedd unigryw i athrawon. Mae gan yr awdur brofiad helaeth o astudiaethau plentyndod cynnar ac mae'n dadlau bod amlieithrwydd yn elwa pob plentyn yn y dosbarth. Mae'r llyfr yn manylu ar y berthynas rhwng theori ac arferion amlieithog, ac yn archwilio sut i integreiddio egwyddorion sy'n briodol-ieithyddol i'r ystafell ddosbarth.
Mae pob plentyn yn dod mewn i'r ystafell ddosbarth gyda sgiliau, arferion, gwerthoedd, a disgwyliadau gwahanol. Mae Running the Room yn ganllaw i athrawon i fynd i'r afael ag ymddygiad yn yr ystafell ddosbarth, a'i drin fel maes arall o'r cwricwlwm.
Gall rheoli'r ystafell ddosbarth fod yn gymhleth, ond mae'r llyfr yma'n cynnig strategaethau ymarferol yn seiliedig ar dystiolateh i unrhyw athro, ble bynnag mae nhw yn eu gyrfa. Mae Bennett yn cynnig mwy na chosb a gwobrwyo, ac yn amlinellu sut mae gwelliannau'n gwella pan fyddwch chi'n mynd i'r afael â nodi ymddygiad yn yr ystafell ddosbarth. Mae Bennett yn esbonio gwyddor ymddygiad trwy drosiadau cyffredin i annog y darllenydd, ac yn dadlau bod angen i ddiwylliant yr ystafell ddosbarth fod yn fwriadol a chyson. I Bennet, mae'r pwyslais ar ddysgu ymddygiad ac nid traethu. Mae Runnig the Room yn mynd i'r afael â mythau ymddygiad cyffredin, ac yn cynnig offerynnau a datrysiadu ymarferol i athrawon i fynd i'r afael ag ymddygiad
Mae Phil Beadle a John Murphy yn llywio athrawon drwy hanfodion rheoli ymddygiad yn seileidig ar eu profiadau nhw o addysgu yn rhai o'r ysgolion mwyaf heriol. Maent yn trafod pwysigrwydd rheoli eich ymddygiad eich hun, a sut bod hyn yn hanfodol wrth ddeall ymddygiad myfyrwyr. Mae'r awduron yn defnyddio hiwmor i amlygu sut mae rheoli ymddygiad yn berthnasol i bawb. Mae eu hymdriniaeth gonest yn caniatau i ddarllenwyr ddeall rheoli ymddygiad yn llawn, a gwerthfawrogi ei fod yn fwy nag ymarfer ar bapur.
Mae'r llyfr yn un hanfodol i'w ddarllen i unrhyw addysgwr sy'n gweithio mewn ysgol heriol, neu sy'n edrych ar wella sut maen nhw'n rheoli ymddygiad.
Mae'r adnodd ymarferol yma ar gyfer athrawon blynyddoedd cynnar ac ysgol gynradd yn cynnwys 25 o heriau dylunio peirianneg sy'n addas ar gyfer plant 3-8. Mae argymhellion i greu amgylchedd gofod gwneud lle gall plant dincian gyda deunyddiau, defnyddio tŵls i wneud pethau, a gwella eu syniadau. Mae'r llyfr yma'n annog archwilio a dysgu STEM-gyfoethog, ac yn cynnig cwestiynau a syniadau i ehangu dealltwriaeth plant o gysyniadau STEM. Mae hefyd yn rhoi templed cynllunio i athrawon i greu eu heriau dylunio eu hunain i ymestyn sgiliau datrys problemau plant, a'u meddwl creadigol.
Mae'r llyfr yma'n rhoi ffocws cyfoes ar faterion pwysig ym meysydd addysgu, dysgu, ac ymchwil STEM sy'n werthfawr wrth baratoi myfyrwyr i'r unfed ganrif ar hugain ddigidol. Mae penodau’r llyfr yn cynnwys ystod eang o faterion a phynciau gan ddefnyddio cyfoeth o fethodolegau ymchwil gan gynnwys:
Mae'r erthygl fer ac amserol hon yn archwilio heriau a phroblemau offer deallusrwydd artiffisial fel ChatGPT mewn ysgolion, i'r myfyrwyr sy'n cyflwyno gwaith, a'r athrawon sy'n ei farcio. Mae'n trafod sut mae mewnbwn personol yn hanfodol i effeithiolrwydd technolegau deallusrwydd artiffisial, a sut mae'n rhaid amddiffyn dilysrwydd gwaith ysgol.
Mae Shaun Dellenty yn gyn-arweinydd ysgol gynradd, ac mae wedi ei enwi fel un o '101 o ffigyrau mwyaf dylanwadol LHDT y DU' ddwywaith, ac yn un o 100 Arweinwyr Byd-eang mewn Cydraddoldeb a Chynhwysiant.
Mae Celebrating Difference yn ganllaw ysbrydoledig ar gyfer cynhwysiant LHDTQ+ mewn ysgolion. Mae agoriad y llyfr yn manylu ar yr anawsterau oedd yn wynebu Shaun wrth dyfu lan, gyda diffyg modelau rôl, na sgwrs agored am hunaniaethau amrywiol a bwlio homoffobig yn yr ysgol yn yr 1980au. Mae gweddill y llyfr yn llawlyfr ar sut gall unigolion hwyluso newid diwylliannol a sefydliadol, gyda chwestiynau, astudiaethau achos, a thystebau gan bobl sydd wedi defnyddio dulliau Shaun yn eu dosbarthiadau.
Mae'r llyfr yn ceisio mynd i'r afael â rhagfarnau mewnol mewn ffordd sy'n croestorri, ac mae'n berthnasol i drafodaethau cyfoes ynghylch hil, a chysyniadau amrywiaeth ehangach.
Mae'r llyfr yma'n cynnwys ymdriniaeth wreiddiol i wella cynllunio gwersi, mewn modd hygyrch i helpu pob athro uwchradd i wneud y broses o gynllunio'n fwy ystyrlon, gan arwain at gynnydd dros amser.
P'un a eich bod yn cynllunio eich gwersi o ddydd-i-ddydd neu arsylwi, mae cynllunio yn sgil y gellir ei fireinio i sicrhau bod yn gallu ymdopi â'ch llwyth gwaith, a'ch gwersi'n gofiadwy. Wedi ei fwriadu ar gyfer athrawon ymrwymedig a myfyriol sydd am ddatblygu'r arfer yma, mae'r llyfr yma'n cyflwyno newidiadau bychain sy'n gallu gwneud gwahaniaeth mawr! Yn wahanol i lawer o lyfrau addysgu sy'n cymryd yn ganiataol eich bod angen neu eisiau newid eich ymdriniaeth i gyd, mae'r llyfr yma'n rhoi syniadau syml i chi ddefnyddio yn eich gwers nesaf.
Wedi ei drefnu o gwmpas rhannau o wersi go-iawn, a chynlluniau gwersi cyfan ar gyfer pob pwnc uwchradd, mae'r llyfr yn canolbwyntio ar y meysydd allweddol sydd angen i chi eu cynllunio ar gyfer pob gwers: asesu ar gyfer dysgu, cwestiynu, ymestyn a herio, ac ymrwymiad i ddysgu, yn ogystal â chynnwys pwysigrwydd datblygu arfer marcio da.
Mae bod yn barod i addysgu pob pwnc yn y cwricwlwm yn sgil hanfodol ar gyfer athrawon cynradd, ac mae cynllunio gwersi da yn declyn hanfodol ar gyfer ymdopi â'r llwyth gwaith.
Mae'r llyfr yn cynnwys strategaethau cynllunio gwersi, yn ogystal â nifer o syniadau ymarferol a gwreiddiol i ddefnyddio gyda'ch dosbarth.
Gan ddefnyddio hanesion ystafell ddosbarth go-iawn, yn ogystal â diagramau defnyddio ac awgrymiadau defnyddiol ar sut i roi'r technegau cynllunio ar waith o ddydd-i-ddydd, mae Lesson Planning for Primary School Teachers yn cynnwys popeth sydd angen ar athrawon ysgol gynradd sydd am ddatblygu eu sgiliau a'u strategaethau allweddol ar gyfer cynllunio gwersi.
Mae'r llyfr hwn yn esbonio sut mae athrawon eisoes yn defnyddio gwahaniaethu mewn nifer o ffyrdd. Mae Sue Cowley yn annog darllenwyr i ddeall a gwerthfawrogi sut mae athrawon yn gweithredu gwahaniaethu, yn ogystal ag archwilio dulliau newydd a chreadigol.
Yn y llyfr hwn, mae hi'n amlinellu'r dulliau gwahanol o ran gwahaniaethu, gan rhoi mewnwelediad i'r darllenwr i'r modelau. Gwneir hyn gan dorri'r gwahaniaethu lawr i'r pum prif ardal:
Bydd darllenwyr yn dysgu dros 90 o strategaethau ymarferol i arbed amser yn yr ystafell ddosbarth. Mae Sue yn cyflawni hyn drwy annog athrawon, ymarferwyr, a staff cymorth i fod yn hyderus eu bod yn diwallu anghenion yr holl ddysgwyr.
Mae the Ultimate guide to differentiation yn ganllaw cynhwysfawr ar wahaniaethu, ac yn cynnig cyngor cytbwys yn arddull ddidwyll Sue
Mae'n bwysig cydnabod effaith y gall dyslecsia gael ar ymddygiad yn yr ystafell ddosbarth, ac iechyd meddwl dysgwyr. Wedi ei ysgrifennu o bersbectif ymchwilydd profiadol ac athro anghenion arbennig mewn ysgol uwchradd prif ffrwd, sydd hefyd â dyslecsia, mae'r awdur yn defnyddio ei brofiadau personol a phroffesiynol i daflu goleuni ar gymhlethdodau dyslecsia.
Mae'r llyfr yn mynd i'r afael â theorïau seicolegol ac yn cynnig canllawiau a chyngor, ynghyd ag esiamplau go-iawn. Mae'n argymell ffyrdd i helpu dysgwyr â dyslecsia ac osgoi strategaethau delio sy'n niweidiol, a dysgu delio gyda phwysau, gor-bryder, a diffyg hunanhyder, mewn ffyrdd mwy effeithiol a chadarnhaol yn seicolegol.
Mae'r llyfr ymarferol hwn yn rhoi technegau ac argymhellion i athrawon i helpu disgyblion â dyslecsia. Wedi ysgrifennu gan dîm o ymarferwyr profiadol, sy'n gweithio mewn ysgol arbenigol, mae'n cynnig canllawiau clir, a strategaethau defnyddiol i helpu'r rheiny sydd angen cefnogaeth yn y maes yma.
Mae'r llyfr yn mynd i'r afael ag anawsterau darllen a sillafu ac agweddau eraill o anawsterau dysgu disgyblion, gan gynnwys:
Gall y llyfr yma gynnig trosolwg o ymwybyddiaeth ofalgar fel arfer personol a dull gwaith yn yr ystafell ddosbarth. Mae'n esbonio sut gall athrawon greu ystafell ddosbarth tawelach i'r myfyrwyr ac iddyn nhw, gan ganolbwyntio ar y foment bresennol. Mae'n archwilio canfyddiadau ymchwil sy'n manylu ar yr effeithiau a'r defnyddiau ymarferol o ymwybyddiaeth ofalgar yn yr ystafell ddosbarth, a sut y gellid eu rhoi ar waith ar draws diwylliant yr ysgol.
Mae'r llyfr yn disgrifio sut gellir addasu technegau ymwybyddiaeth ofalgar ar gyfer nifer o feysydd, a lefelau ddatblygiad mewn sefydliadau dysgu, ac yn trafod ffyrdd cyfrifol o addysgu ymwybyddiaeth ofalgar, heb duedd crefyddol neu wleidyddol.
Mae'r llyfr yma'n dangos y gall ysgolion gymryd camau syml a chadarnhaol i hyrwyddo gwell iechyd meddwl i'w myfyrwyr, heb iddo gostio llawer o arian nac ychwanegu at lwyth gwaith y staff. Mae pob pennod o'r llyfr yn llawn syniadau ymarferol ynghylch beth sydd angen digwydd i ysgolion gymryd iechyd meddwl o ddifri. Mae wedi ei ysgrifennu'n glir, ac ynddo esiamplau o'r byd go-iawn. Mae'r llyfr yn cynnig cyngor ar sut i gefnogi lles disgyblion a chefnogi iechyd meddwl mewn ysgolion i arweinwyr ysgolion.
Mae'r llyfr yn cynnwys canllaw hawdd ei ddilyn i gefnogi iechyd meddwl mewn ysgolion, ac yn nodi sut gall newidiadau bychain a chynyddol gael eu gwneud yng nghymunedau ysgolion, heb fod angen gormod o gyllid. Mae'r llyfr yn canolbwyntio ar y myfyriwr i wneud newidiadau cynaliadwy i gymunedau ysgolion.
Mae rhoi adborth effeithiol yn sgil hanfodol ar gyfer addysgwyr. Yn The Feedback Pendulum, mae Chiles yn tynnu ar ymchwil a'i brofiadau ei hun i ddangos sut gall adborth effeithiol ac effeithlon gael effaith cadarnhaol ar ddysgu myfyrwyr, a llwyth gwaith athrawon. Mae'r llyfr, sy'n cynnwys nifer o gamau addysg, yn cynnig ystod o strategaethau ymarferol a disgrifiadau deniadol o sut allai'r rhain weithio yn ymarferol.
Yn Questioning for Formative Feedback, mae Walsh yn archwilio'r berthynas rhwng cwestiynu ac adborth, a sut gall deialog effeithiol bontio’r ddau. Gyda nifer o syniadau, awgrymiadau a strategaethau, mae'r llyfr wedi ei rannu'n bedair adran, sy'n adeiladu ar ei gilydd i gefnogi dysgu myfyrwyr. Mae pob pennod hefyd yn cynnwys nodweddion ychwanegol, gan gynnwys glasbrint prosesau a chynnyrch allweddol, teclynnau i gefnogi cynllunio a chyflwyno strategaethau newydd, ac esiamplau o ddefnyddio go-iawn yn yr ystafell ddosbarth.
Gyda dros 30 mlynedd o brofiad o ddatblygu a defnyddio cynnyrch Technoleg Addysg, mae Al Kinglsey yn hyrwyddwr brwd dros gydweithio rhwng arweinwyr ysgol, systemau addysgiadol a'r diwydiant Technoleg Addysg.
Yn y llyfr yma, mae Kingsley yn tynnu ar ei brofiad unigryw ei hun i greu'r adnodd hawdd ei ddefnyddio yma, yn llawn cyngor defnyddiol. Gyda phenodau hawdd eu darllen, yn cynnwys profiadau a myfyriadau gan nifer o addysgwyr, yn ogystal ag argymhellion ar gyfer adnoddau darllen pellach, mae'r llyfr yma'n siop un stop ar gyfer arferion effeithiol Technoleg Addysg.
Nid yw’r cyhoeddiad yma ar gael ar EBSCO bellach. Efallai y gallwch ddod o hyd iddo mewn ffynhonellau eraill
Yn y canllaw hygyrch yma, mae Burns yn defnyddio ei phrofiad a'i harbenigedd eang o Dechnoleg Addysg, i roi cyngor clir ac ymarferol, sy'n dangos sut gall unrhyw addysgwr ymgorffori'r deg sgil a strategaeth Technoleg Addysg uchaf i'w lleoliad dysgu.
Gan gynnwys pynciau fel llywio mannau ar-lein, datblygu strwythurau cydweithio, a datblygu sgiliau trosglwyddadwy, mae pob pennod yn esbonio pwysigrwydd y sgil neu'r strategaeth. Mae Burns hefyd yn cynnwys ymchwil, enghreifftiau ymarferol, a chanllawiau ar gyfer cynllunio a myfyrio.
Mae defnyddio asesu ar gyfer dysgu yn effeithiol i roi adborth ystyrlon a pharhaus yn sgil hanfodol ar gyfer unrhyw addysgwr.
Bydd y llyfr yma, sydd wedi ei ddylunio a'i greu ar gyfer athrawon ysgol, yn eich helpu i wella eich dealltwriaeth o'r effaith gall asesu ar gyfer dysgu effeithiol ei gael ar ddysgwyr, a pham ei fod mor bwysig i wella addysgu a dysgu.
Mae'n llawn syniadau a strategaethau hawdd eu rhoi ar waith. Mae'r llyfr yn hanfodol ar gyfer unrhyw athro sydd am gefnogi eu myfyrwyr i fod yn ddysgwyr gwych.
Gan dynnu ar ei brofiad ei hun, mae Pearsall yn rhannu amryw strategaethau ymarferol a thechnegau i wella ansawdd adborth, a lleihau'r amser a'r ymdrech sydd eu hangen i adolygu a chywiro gwaith myfyrwyr.
Wedi ei rannu yn chwe phennod, mae Pearsall yn cynnwys:
Beth oedd eich barn chi am argymhellion y mis hwn? Sut gwnaethant helpu i ddatblygu’ch ymarfer? Trydarwch eich ymateb gan ddefnyddio #MeddwlMawr
Beth am ddefnyddio’r offerynnau sydd o fewn y PDP i fyfyrio ar y syniadau a amlygwyd gan argymhellion y mis hwn, a sut gallwch eu cymhwyso i’ch ymarfer eich hun?
A yw ein hargymhellion wedi’ch ysbrydoli ac rydych felly am rannu’r hyn a ddysgoch gyda’ch cydweithwyr? Beth am ddarllen ein canllaw ar sefydlu clwb cyfnodolion.
Os yw ymarfer seiliedig ar dystiolaeth o ddiddordeb i chi, gallwch gael at EBSCO drwy eich PDP. Dyma gronfa ddata fwyaf y byd o ymchwil testun llawn ar gyfer gweithwyr addysg proffesiynol ac mae’n cwmpasu pob lefel addysg ac arbenigedd.
Gall cofrestreion gael at becyn Education Source a chasgliad eLyfrau addysg EBSCO. Mae’r ddau adnodd yn tyfu’n gyson ac yn cynnwys:
Gwnewch yn siŵr eich bod yn tanysgrifio i’r rhestr bostio (Meddwl Mawr) i gael yr argymhellion pan fyddant yn cael eu cyhoeddi.
Dau gam syml sy’n rhaid i chi eu dilyn i gael mynediad at EBSCO:
Ry'n ni wedi creu fideo cam wrth gam ar sut i fewngofnodi i EBSCO, a sut i'w ddefnyddio, ar ein sianel YouTube.
Mae cyfres o ganllawiau ar-lein ar gael i’ch cynorthwyo i ddefnyddio EBSCO, gan gynnwys sut i chwilio am lyfrau ac erthyglau, ac arbed erthyglau blaenorol.
Gwyliwch ein grŵp ymchwil blaenorol yn trafod pam ei fod yn bwysig ymgysylltu ag ymchwil.
Ar ôl bod yn Arloeswr yn gweithio ar y Cwricwlwm i Gymru 2022, rwyf wedi ymddiddori mwy a mwy yn yr ymchwil y tu ôl i’r diwygiadau addysgol cynhwysfawr sy’n digwydd yng Nghymru. Wrth i mi ddechrau darllen yn ehangach, mae darganfod adnodd addysg EBSCO, sydd ar gael trwy Basbort Dysgu Proffesiynol Cyngor y Gweithlu Addysg, wedi bod yn werthfawr tu hwnt i fy ngwaith ymchwil!
Fel Arloeswr, croesewais y cyfle i fynychu’r gynhadledd genedlaethol ResearchEd yn Llundain, lle cefais fy ysbrydoli gan siaradwyr o ysgolion yn Lloegr a oedd wedi’u penodi i swyddi a grëwyd o’r newydd fel “Penaethiaid Ymchwil”. Roedd un o Eton, ac mae’n arwain eu Canolfan Arloesi ac Ymchwil mewn Dysgu – dim ond breuddwydio y gall rhywun ei wneud! Ond roedd y lleill o ysgolion gwladol ac roedd y disgrifiadau a roddwyd ganddynt o’u rolau yn adleisio gyda mi am fod Cymru wedi ymroi i gynorthwyo athrawon i fod yn ymarferwyr sy’n cael eu llywio gan ymchwil, ac yn seiliedig ar dystiolaeth. Argymhellodd y siaradwyr amryw fanciau ymchwil ar-lein fel BELMAS, BERA, a’r Coleg Addysgu Siartredig, sy’n cynnig EBSCO i’w aelodau. Fodd bynnag, mae’r rhan fwyaf o’r sefydliadau hyn yn codi ffi danysgrifio sy’n afrealistig i ysgol wladol ei thalu ar gyfer pob aelod o staff, ac sy’n fuddsoddiad sylweddol i athrawon unigol. Dechreuais golli calon.
Ar yr un pryd â chyfarfod â’r Penaethiaid Ymchwil, dechreuais drawsnewid i rôl Arloeswr Dysgu Proffesiynol i Lywodraeth Cymru, ac fel rhan o’r broses hon roedd yn ofynnol i mi ymgymryd ag Ymholiad Proffesiynol ffurfiol am y tro cyntaf yn fy ngyrfa. Tynnodd fy mentoriaid dysgu proffesiynol o Brifysgol Metropolitan Caerdydd fy sylw at y ffaith fod EBSCO ar gael drwy’r Pasbort Dysgu Proffesiynol. Roeddent yn siarad yn frwd amdano, nid yn unig am ei fod yn adnodd ag enw da iawn iddo, ond oherwydd ei fod hefyd yn rhad ac am ddim i’w ddefnyddio i bawb sydd wedi cofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg.
Wrth i’m rôl barhau i ddatblygu, mae EBSCO wedi dod yn fwyfwy defnyddiol a gwerthfawr i mi. Bellach, rwy’n arwain clwstwr o ysgolion uwchradd ym Mhen-y-bont ar Ogwr wrth iddynt gymryd eu camau cyntaf at ymchwil fel rhan o’r Prosiect Ymholiad Proffesiynol Cenedlaethol.
EBSCO oedd yr argymhelliad cyntaf a wnes i’r grŵp hwnnw, fel eu bod yn gallu darparu adnoddau ar gyfer eu dysgu. Yn fwy diweddar, cefais fy mhenodi i arwain cyfres o brosiectau ymchwil ar ran Consortiwm Canolbarth y De, ac eto rwyf wedi sicrhau bod yr holl ymchwilwyr cyfranogol yn defnyddio EBSCO i gynnal adolygiadau o lenyddiaeth ac i lunio’u rhestrau darllen ar gyfer cydweithwyr sydd eisiau dilyn eu hôl troed.
Fel rhan o’r rôl hon, rwyf hefyd yn cynnal Ymholiad Proffesiynol ar fy liwt fy hun ar gyfer CSC. EBSCO yw’r sylfaen i mi allu adeiladu’r ymchwil honno arni. Mae gallu cael mynediad yn rhwydd at ymchwil addysgol ledled Prydain, Ewrop a’r byd ehangach yn fy ngalluogi i ddod o hyd i gyfoeth o wybodaeth am lu o faterion, cyfosod beth a ddysgwyd o bob cwr o’r byd, a’i ddefnyddio i gyflwyno casgliadau newydd i gydweithwyr yn fy rhanbarth. Heb EBSCO, byddai’r un darn o waith yn anoddach i’w gyflawni ac yn gostus i mi a’m hysgol.
Efallai na chawn ni Ganolfan Arloesi ac Ymchwil yn fy ysgol i fyth, ond mae gennym EBSCO. Mae’n adnodd gwych a byddwn i’n ei argymell yn fawr i unrhyw weithiwr proffesiynol sydd eisiau ehangu ei orwelion a gwella ei ymarfer.
Jeff Cole yw Arweinydd y Rhwydwaith Dyniaethau yng Nghonsortiwm Canolbarth y De
Darganfyddwch sut i ddechrau gyda'ch offeryn ymchwil, EBSCO a chychwyn eich Pasbort Dysgu Proffesiynol yma
Mae'r Pasbort Dysgu Proffesiynol (PDP) yn declyn ar-lein, hyblyg sydd ar gael i'n holl gofrestreion.
Mae eich PDP yn llawn nodweddion i'ch cefnogi chi i gipio, myfyrio ar, rhannu, a chynllunio eich dysgu gyda'r amcan terfynol o wella eich arfer. Mae gyda ni oll ffyrdd gwahanol o ddysgu, ac mae'r PDP wedi ei ddylunio i fodloni nifer o anghenion gwahanol.
Mae eich PDP yn berchen i chi. Mae'n gyfrinachol a chludadwy. Cyn belled â'ch bod chi wedi cofrestru gyda ni, byddwch chi'n gallu gweld yr holl gynnwys yr ydych chi wedi ei greu yn eich PDP.
Gallwch gael at e PDP drwy eich cyfrif ar-lein FyCGA. Mae ein canllaw cyflym yn dangos sut i greu a chael mynediad at eich cyfrif ar-lein. Os ydych chi'n cael unrhyw anawsterau yn cael mynediad at eich PDP,
Cipio eich profiadau
Mae eich dyddiau gwaith yn llawn profiadau gwahanol, ac mae nifer ohonynt yn brofiadau dysgu sy'n gallu eich sbarduno i ystyried, ac o bosib newid eich arfer. Gallai'r rhain fod yn rhan o'ch arferion o ddydd i ddydd, trafodaeth gyda chydweithwyr, neu fynd i hyfforddiant ffurfiol. Gall eich PDP eich helpu chi i fframio'r profiadau hyn.
Efallai eich bod wedi cadw gwybodaeth mewn nifer o fannau gwahanol ac mewn fformatau gwahanol. Gallwch chi ychwanegu hyn i gyd i'ch PDP gan ddefnyddio'r teclyn uwchlwytho yn eich PDP, neu gan ddefnyddio'r ap, Pebblepocket, sydd ar gael ar gyfer dyfeisiau Android ac Apple. Mae ein canllaw cyflym yn dangos nodweddion yr ap, a sut i'w ddefnyddio.
Gallwch hefyd gysylltu eich pdp i ddyfeisiau allanol fel Google Drive neu Dropbox, a chael mynediad i, a defnyddio'r ffeiliau yr ydych eisoes wedi arbed yno.
Mae myfyrio yn gyfle i aros a meddwl am eich profiadau, cael gwerth ganddynt, a'u defnyddio i ddylanwadu ar eich dysgu, eich datblygiad a'ch arfer yn y dyfodol.
Mae templedi ar gael yn eich PDP sydd wedi eu strwythuro i'ch cymryd drwy'r broses o fyfyrio drwy ofyn cyfres o gwestiynau neu anogwyr, gan eich galluogi i adolygu effaith eich dysgu ar eich arfer, ac yna mynd yn ôl ato yn y dyfodol.
Mae eich PDP yn eich galluogi i rannu eich profiadau, cydweithio, a chael sgyrsiau proffesiynol gyda'ch cyfoedion.
O fewn eich PDP cewch hyd i safonau proffesiynol ar gyfer athrawon a gweithwyr cymorth ysgol ac addysg bellach (AB), ac ymarferwyr dysgu'n seiliedig ar waith.
Mae eich PDP yn eich galluogi i gymryd unrhyw eitem yr ydych wedi eu creu neu eu hychwanegu at eich PDP, a'u mapio i'r safonau proffesiynol perthnasol.
Bydd unrhyw beth y byddwch yn mapio i'r safonau yn cael eu crynhoi yn eich gweithlyfr safonau, sydd ar gael ar dashfwrdd eich PDP. Wrth fapio'r dystiolaeth yn erbyn y safonau, gallwch gwblhau hunanasesiad o'ch cynnydd yn erbyn y safon honno gan ddefnyddio'r opsiwn llithro. Bydd y dudalen trosolwg safonau yn rhoi cynrychiolaeth weledol o'ch cynnydd yn erbyn eich safonau. Byddwch yn gallu gweld eich cryfderau a'ch datblygiad yn glir.
Ry'n ni wedi datblygu cyfres o fideos byr i ddangos buddion defnyddio'r PDP i gefnogi eich datblygiad proffesiynol. Mae mwy o wybodaeth ar gael yn y categorïau cofrestru isod hefyd.
Bydd y PDP yn ddefnyddiol i athrawon ysgol ac AB i'w cefnogi i gipio a myfyrio ar eu profiadau proffesiynol a'u dysgu. Gall defnyddwyr rannu gwybodaeth a gofnodir yn eu PDP gydag eraill i ffurfio sail am sgwrs broffesiynol i'w helpu i nodi'r camau nesaf yn eu siwrnai dysgu proffesiynol.
Mae'r Safonau Proffesiynol ar gyfer Addysgu ac Arweinyddiaeth a'r safonau AB ar gael yn eich PDP i'ch helpu i ystyried ac adolygu eich profiadau.
Gall gweithwyr cymorth dysgu ddefnyddio'r pasbort i fyfyrio ar eu harfer, ychwanegu syniadau, dolenni, a fideos, fel modd o gofnodi dulliau cefnogi addysgu llwyddiannus, a dangos tystiolaeth i gyfoedion a chyflogwyr presennol a'r dyfodol.
Mae'r Safonau Proffesiynol ar gyfer Addysgu ac Arweinyddiaeth a'r safonau AB hefyd ar gael yn eich PDP.
Mae gofyn bod athrawon newydd gymhwyso (ANGau) sy'n sefydlu yn defnyddio'r PDP. Mae'r PDP yn ofod lle gall ANGau gofnodi tystiolaeth lle maent yn bodloni'r Safonau Proffesiynol ar gyfer Addysgu ac Arweinyddiaeth try arfer proffesiynol.
Gall gweithwyr ieuenctid a chymorth ieuenctid ddefnyddio'r PDP i rannu a chydweithio gydag eraill. Mae hefyd templedi ac adnoddau i gychwyn arni.
Mae gyda chi fynediad at EBCSO addysg sy'n cynnwys ystod eang iawn o ymchwil eLyfrau a chylchgronau testun llawn, wedi eu hadolygu gan gyfoedion.
Mae'r Safonau Proffesiynol ar gyfer gweithwyr ieuenctid a chymorth ieuenctid ar gael yn y PDP.
Mae'r PDP yn eich galluogi i rannu a chydweithio gyda chydweithwyr o'r sectorau seiliedig ar waith, ac mae adnoddau a thempledi hefyd i'ch helpu i gychwyn arni.
Mae gyda chi fynediad at EBCSO addysg sy'n cynnwys ystod eang iawn o ymchwil eLyfrau a chylchgronau testun llawn, wedi eu hadolygu gan gyfoedion.
Mae'r safonau proffesiynol ar gyfer ymarferwyr seiliedig ar waith ar gael yn eich PDP i'ch helpu i ystyried ac adolygu eich profiadau.
Ry'n ni'n hapus i ddod i'ch sefydliad i roi arddangosiad i'ch staff o sut i ddefnyddio'r PDP, ac arddangos ei nodweddion a'i hyblygrwydd, a sut gallant eich buddio chi, eich cydweithwyr a'ch sefydliad. Os hoffech chi i ni ddod i roi arddangosid i chi, llenwch y ffurflen ar-lein neu
Os oes diddordeb gyda chi mewn arfer sy'n seiliedig ar dystiolaeth, mae eich PDP yn rhoi mynediad i chi at EBSCO, cronfa ddata ymchwil fwyaf y byd ar gyfer ymarferwyr addysg, yn cynnwys pob lefel o addysg ac arbenigedd.