CGA / EWC

About us banner
Adborth a Chwynion
Adborth a Chwynion

Rydym wedi ein hymrwymo i ddarparu'r safonau uchaf o wasanaeth ar gyfer ein cofrestreion, rhanddeiliaid, a'r cyhoedd. Ymdrechwn i ddarparu proses hygyrch a thryloyw ar gyfer ymchwilio i gwynion am ein gwasanaeth, ac rydym yn anelu at ymateb i achwynwyr cyn gynted ag sy'n bosibl.

Rydym yn croesawu eich adborth, gan ei fod yn ein helpu i wella ein gwasanaeth ac i sicrhau na fydd problemau'n codi eto yn y dyfodol.

Adborth

Os hoffech roi adborth ar unrhyw un o'n gwasanaethau, anfonwch This email address is being protected from spambots. You need JavaScript enabled to view it..

Cwynion

Rydym yn delio â phob cwyn yn ddifrifol ac yn anelu at ymateb cyn gynted â phosibl.

Gallwch ddarllen mwy am y math o gwynion y byddwn yn eu hystyried, sut i gwyno a'n prosesau yn ein dogfen safonau gwasanaeth .

Priodoldeb i ymarfer

Os hoffech wneud cwyn ynghylch priodoldeb i ymarfer, dylech ddarllen  canllaw cwynion priodoldeb i ymarfer  yn gyntaf. Mae’n gosod pryd, a sut gallwch wneud cwyn o ran ein prosesau priodoldeb i ymarfer.