Dechrau
Nid oes unrhyw fformat rhagnodedig ar gyfer ysgrifennu adroddiad ymchwil gweithredu, gan y bydd hyn yn dibynnu i raddau helaeth ar eich cynulleidfa fwriadedig a’ch cyd-destun addysgol, ond mae rhai elfennau allweddol sy’n gyffredin i’r rhan fwyaf o strwythurau adroddiadau ymchwil gweithredu. Mae’n bosibl y bydd o gymorth i chi edrych ar enghreifftiau o adroddiadau eraill. Cyflwynir strwythur enghreifftiol isod, ond gallwch addasu hwn yn unol â’ch gofynion unigol. Os ydych yn bwriadu cyflwyno eich ymchwil ar gyfer ei gyhoeddi, byddai’n berthnasol i chi wirio ymlaen llaw os oes gan y cyhoeddiadau hynny eu harddull eu hunain a ffefrir.
Crynodeb
Mae’r crynodeb yn grynhoad byr o’ch ymchwil, sy’n disgrifio diben, methodoleg a chanlyniadau’r astudiaeth a gynhalioch. Fel arfer, mae’n well gadael adran hon yr adroddiad tan y diwedd, oherwydd erbyn hynny byddwch wedi cael cyfle i fyfyrio ar y broses yn gyffredinol. Mae angen i’r crynodeb fod yn effeithiol a hawdd i’w ddeall. Yn aml, mae’n syniad da i ddangos y crynodeb i gydweithiwr neu rywun sydd heb gysylltiad â’ch ymchwil wedi i chi ei ysgrifennu, er eglurder. A yw’n cyfleu’r prif bwyntiau, ac a yw’n mynnu sylw’r darllenydd? Mae’n bosibl y bydd yn rhaid i chi lunio nifer o fersiynau cyn penderfynu ar fersiwn sy’n eich bodloni.
Cyflwyniad
Mae’r cyflwyniad yn disgrifio eich prosiect ymchwil. Mae’n bosibl y byddwch eisiau cynnwys manylion eich lleoliad penodol, a’r hyn a ysgogodd y cwestiwn ymchwil. Os oes gan eich ymchwil oblygiadau y tu hwnt i’ch lleoliad eich hun, mae’n bosibl yr hoffech ddarparu cyd-destun ychwanegol. Gallwch dynnu sylw at arwyddocâd eich cwestiwn ymchwil a rhoi manylion sut y credwch y bydd yn helpu i wella eich ymarfer. Dyma ran gyntaf yr adroddiad y bydd y darllenydd yn ei gweld ar ôl y crynodeb a dyma le byddwch yn sefydlu eich hygrededd fel ymchwilydd.
Arolwg Llenyddiaeth
Yn yr adran hon, byddwch yn cyflwyno’r darllenydd i ymchwil blaenorol a nodwyd gennych yn eich maes pwnc penodol. Pa ymchwil a gynhaliwyd yn y gorffennol? Pa safbwyntiau sy’n cael eu cyflwyno? Sut mae hyn yn ymwneud â’r hyn rydych chi’n ei wneud? A oes unrhyw fylchau yn yr ymchwil sydd wedi’i gyflwyno? Beth yw’r themâu a’r dadleuon allweddol sy’n bodoli? A oes unrhyw fylchau yn y llenyddiaeth? Dewiswch system gyfeirnodi gydnabyddedig wrth gyflwyno llenyddiaeth o’r fath er mwyn sicrhau bod gennych ddull cyson. Bydd hyn yn helpu’r darllenydd i gyfeirio’n ôl at unrhyw ddeunydd a gyflwynwyd gennych hefyd. Mae angen i’r deunydd a ddefnyddiwch i gefnogi eich ymchwil fod yn berthnasol gan ddangos ehangder o ran darllen. Meddyliwch am ansawdd, nid pa nifer.
Methodoleg a chynllun gwaith
Yn yr adran hon, byddech yn manylu ar sut y cynhaliwyd eich ymchwil. Pa ddulliau a ddefnyddiwyd gennych a pham wnaethoch chi ddewis y dulliau hyn? Os oedd eich ymchwil yn cynnwys grwpiau ffocws neu holiaduron, a wnaethoch chi eu treialu er mwyn sicrhau bod y cwestiynau’n glir ac yn hawdd i’w dehongli? A arweiniodd hyn at unrhyw gamau adfer neu ddiwygio’r testun gwreiddiol? Pwy oedd yn gysylltiedig â’ch ymchwil? A oedd gennych unrhyw gefnogaeth ar gyfer y prosiect, a sut cafodd y gefnogaeth hon ei defnyddio? Hefyd, byddech yn cyflwyno eich cwestiwn beirniadol ac yn tynnu sylw at yr hyn a fyddai’n cael ei weithredu neu ei ddadansoddi. Yn ogystal, byddech yn disgrifio’n fanwl y lleoliad a’r garfan/grwpiau fuoch yn gweithio â nhw er mwyn adeiladu ar yr hyn a ddywedoch yn y cyflwyniad. Pa ystyriaethau moesegol oedd yn bodoli wrth gynnal eich ymchwil, a sut wnaeth hyn lunio dyluniad eich ymchwil? Pa gamau a gymeroch i sicrhau bod data personol yn cael eu trin yn briodol?
Dylai’r adran hon helpu i egluro’r camau a gymeroch i alluogi rhywun arall i ailadrodd yr astudiaeth petaent yn dymuno gwneud hynny. Pryd y casglwyd y data? (Gallwch grynhoi’r dyddiadau allweddol, y dulliau a ddewiswyd, pam y dewisoch y dull hwnnw dros ddulliau eraill, a’r ffenestr casglu data.) Pam wnaethoch chi ymgymryd â’r astudiaeth? Hefyd, byddech yn rhoi manylion unrhyw gyfyngiadau ar yr astudiaeth a nodwyd gennych – gallai hyn ymwneud, er enghraifft, ag amserlenni, adnoddau a oedd ar gael, mynediad i’r garfan y dewisoch ei hastudio, bylchau mewn unrhyw ddata a ddefnyddioch. Gallwch ychwanegu unrhyw dempledi e.e. enghreifftiau o holiaduron, cwestiynau grwpiau ffocws, taflenni arsylwi, yn yr atodiadau. Gwnewch yn siŵr bod y rhain yn ddienw ac yn parchu cyfrinachedd.
Dadansoddiad/Canfyddiadau
Mae’r adran hon yn un o rannau allweddol eich adroddiad ymchwil. Yma, byddwch yn rhoi manylion yr hyn y mae canlyniadau eich ymchwil wedi’i ddangos. Sut wnaethoch chi ddadansoddi’r data? Os cynhalioch chi gyfweliadau, mae’n bosibl y byddwch eisiau defnyddio dyfyniadau darluniadol. Nodwch unrhyw newidynnau yn y garfan/carfannau y buoch yn eu hastudio. A oedd y canlyniadau yr hyn yr oeddech yn ei ddisgwyl? Os oedd eich ymchwil yn cynnwys casglu llawer o ddata, mae’n bosibl y byddwch eisiau cadw rhywfaint o’r rhain yn yr atodiadau. Fel rheol, byddech ond yn ychwanegu graffiau a siartiau os ydynt yn helpu’r darllenydd i ddeall y canlyniadau yn haws. Mae gormod o graffiau a siartiau ym mhrif gorff yr adroddiad yn gallu tynnu oddi wrth y negeseuon allweddol, felly dylech eu cynnwys dim ond os ydynt yn angenrheidiol. Wrth eu hychwanegu o fewn yr atodiadau, gall y darllenydd gyfeirio atynt yn ôl eu hangen.
Casgliadau
Yn yr adran hon, byddech yn cyfosod eich canlyniadau, e.e. yn cyfeirio at yr hyn a ddarganfuwyd gennych o’ch arolwg llenyddiaeth ac o ganlyniadau eich ymchwil eich hun. A wnaeth eich ymchwil brofi neu wrthbrofi eich damcaniaeth wreiddiol? Beth yw’r prif negeseuon a ddaw o’ch ymchwil? Beth yw eich dehongliad o’r hyn a ddigwyddodd? Beth mae hyn yn ei olygu i chi a phynciau eich ymchwil?
Myfyrdodau/Camau Nesaf
Rhan bwysig o’r broses ymchwil yw myfyrio ar eich gweithgarwch ac ystyried y camau nesaf. Ystyriwch beth mae’r broses wedi ei ddysgu i chi am eich ymarfer eich hun. Pa effaith a gafodd hyn ar eich myfyrwyr/cleientiaid/cydweithwyr/rhanddeiliaid eraill? A gafodd unrhyw ragdybiaethau eu herio? A oes unrhyw beth y byddech yn ei wneud yn wahanol o ganlyniad i’ch gweithgarwch ymchwil? Beth allwch chi ei gymryd o’r broses a fydd yn ddefnyddiol yn eich gyrfa? Mae’n bosibl bod eich ymchwil wedi ysgogi rhagor o gwestiynau ac y byddech yn hoffi archwilio ymhellach. A oes angen ailystyried yr ymchwil gyda grwpiau eraill? O fewn cyd-destun gwahanol? A yw wedi rhoi syniadau i chi am ymchwil pellach?
Cyfeiriadau
Ceir nifer o systemau cyfeirnodi cydnabyddedig y gallwch eu defnyddio yn eich adroddiad. Y peth pwysicaf yw eich bod yn gyson, a’ch bod yn cydnabod yn briodol ffynonellau deunydd a ddefnyddiwyd gennych yn eich adroddiad. Mae llên-ladrad yn fater difrifol, mae angen i chi sicrhau eich bod yn cydnabod unrhyw waith nad yw’n perthyn i chi, e.e. geiriau, cysyniadau, syniadau, diagramau.
Atodiadau
Defnyddiwch atodiadau i ychwanegu gwybodaeth sy’n cefnogi eich adroddiad, e.e. copïau o unrhyw dempledi holiaduron, cwestiynau a ddefnyddiwyd gyda grwpiau ffocws, setiau data mawr a/neu graffiau, delweddau. Mae angen i’r rhain fod yn hunanesboniadol, felly bydd angen i chi fod wedi cyfeirio atynt yn y prif adroddiad.
Dosbarthu
Rydych wedi gwneud yr holl waith caled, wedi ysgrifennu eich adroddiad ac, yn sicr, rydych wedi dod o hyd i wybodaeth a fydd o werth i gydweithwyr yn eich ysgol/sefydliad eich hun a thu hwnt, ac i randdeiliaid eraill o fewn addysg. Y cam nesaf yw penderfynu sut i ddosbarthu eich canfyddiadau ymchwil. Sut ydych chi’n mynd i rannu canfyddiadau eich adroddiad? Cofiwch – gellir rhannu canfyddiadau eich adroddiad mewn ffyrdd eraill hefyd, ar-lein ac all-lein. Mae angen i chi addasu’r dull i’r gynulleidfa rydych yn ceisio ei chyrraedd.
Nid oes rhaid cyfyngu’r broses o ddosbarthu i gyflwyno canfyddiadau’r ymchwil ei hun. Gallai ymwneud â’r broses ymchwil – e.e. sut brofiad oedd y broses? A fu unrhyw rwystrau ar hyd y ffordd ac, os felly, sut wnaethoch chi eu goresgyn? Pa gyngor fyddech chi’n ei roi i’r sawl sy’n dechrau prosiect ymchwil am y tro cyntaf? Ystyriwch sut y gallech helpu eraill sy’n meddwl am ymgymryd ag ymchwil i ddysgu o’ch profiad. Edrychwch ar ein gwefan (www.cga.cymru) yn y canolbwynt polisi ar rai blogiau a ysgrifennwyd gan ymarferwyr, lle maen nhw’n siarad am eu profiadau o gynnal ymchwil ‘Ymchwil ar waith’.
Gwnewch yn fawr o’ch cofrestriad
Fel un o gofrestreion CGA, mae gennych fynediad i Ffynhonnell Addysg EBSCO trwy’ch Pasbort Dysgu Proffesiynol (PDP).
Ffynhonnell Addysg
Hwn yw’r casgliad mwyaf a mwyaf cyflawn yn y byd o gyfnodolion addysg testun llawn gyda mwy na 2,500 o adnoddau. Mae’r gronfa ddata hon yn darparu ymchwil a gwybodaeth ysgolheigaidd i ddiwallu anghenion myfyrwyr, gweithwyr proffesiynol a gwneuthurwyr polisi addysg. Mae’n ymdrin â phob lefel o addysg.
Casgliad E-lyfrau Addysg
Yn y casgliad hwn ceir mwy na 4,000 o e-lyfrau o ansawdd da sy’n cefnogi disgyblaeth addysg. Mae’r teitlau’n amrywio o destunau cyflwyniadol i weithiau mwy cymhleth a manylach. Hefyd ceir deunyddiau cymorth i bobl sy’n gweithio ym maes addysg o’r Cyfnod Sylfaen i ôl -16 a dysgu seiliedig ar waith, ac addysg anffurfiol, gan ymdrin â thopigau o adeiladu cwricwlwm i ymddygiad myfyrwyr.
