CGA / EWC

Professional development banner
Sylw i ymchwil: sut i… sefydlu clwb cyfnodolion
Sylw i ymchwil: sut i… sefydlu clwb cyfnodolion

Beth yw clwb cyfnodolion? Fel clwb llyfrau ond…

Mae clybiau cyfnodolion yn gyfarfodydd a gynhelir yn rheolaidd lle mae unigolion â diddordebau tebyg yn dod ynghyd i drafod erthyglau diweddar a llenyddiaeth academaidd. Eu nod yw cau’r bwlch rhwng ymchwil ac ymarfer a hybu trafodaeth ynghylch sut i werthuso a chymhwyso ymchwil. Er eu bod yn deillio o’r sector meddygol, maent yn dod yn fwyfwy poblogaidd mewn proffesiynau eraill.

Beth yw buddion clwb cyfnodolion?

Mae clybiau cyfnodolion yn werthfawr mewn llawer o ffyrdd:

  • eich galluogi i gael gwybod am yr ymchwil ddiweddaraf
  • meithrin sgiliau arfarnu beirniadol
  • hybu trafodaeth amserol am addysg gyda’ch cydweithwyr
  • hybu gweithio a dysgu mewn tîm

Sefydlu clwb

Wrth sefydlu clwb, mae’n bwysig bod gennych amcanion clir yn eich meddwl. Nid oes fformat penodol i glwb cyfnodolion, ond mae yna rai pethau y gallech fod eisiau eu hystyried:

  • ble cynhelir y cyfarfodydd – lleoliad dynodedig, neu rithwir, neu gyfuniad o’r ddau?
  • pa mor aml caiff y cyfarfodydd eu cynnal?
  • amseriadau’r cyfarfod a hyd y sesiwn
  • pwy fydd yn gyfrifol am arwain y clwb?
  • sut caiff yr aelodau eu dewis?
  • sut caiff yr erthyglau i’w trafod eu dewis?
  • a fydd allbwn ffurfiol o’r sesiwn?
  • sut fydd unrhyw arferion da’n cael eu lledaenu y tu hwnt i’r grŵp?
  • a fydd bwyd / lluniaeth yn cael ei darparu?

Rheoli’r sesiynau

Mae’n syniad da sicrhau bod yr aelodau wedi cael cyfle i ddarllen yr erthyglau cyn y cyfarfod. Bydd angen ichi ystyried materion hawlfraint mewn perthynas â chopïo / dosbarthu deunyddiau.

Fel enghraifft, efallai y byddwch eisiau ystyried y fformat canlynol. Gellir newid hwn yn ddiweddarach wrth i’r grŵp ddatblygu.

  1. Mae’r hwylusydd yn croesawu aelodau’r grŵp ac yn rhoi cyflwyniad ynghylch beth fydd yn cael sylw yn y sesiwn.
  2. Mae’r hwylusydd yn rhoi trosolwg o’r erthygl gan gynnwys:
  • y ffynhonnell
  • y cwestiwn mae’n ymdrin ag ef
  1. Mae’r hwylusydd yn rhoi amser i’r aelodau ail-ymgyfarwyddo â’r erthygl
  2. Arfarniad byr gan ddefnyddio’r dull y cytunwyd arno ymlaen llaw – dylai hwn ymdrin â phethau fel dyluniad yr astudiaeth, tystiolaeth a chanlyniadau. Gweler y templed a awgrymwn i gael syniadau o’r hyn y gallech ei gynnwys (Clwb Cyfnodolion Taflen Gwerthuso).
  3. Mae’r grŵp yn trafod cryfderau a gwendidau’r astudiaeth, y goblygiadau a allai fod i’ch ymarfer, materion moesegol / tuedd, ac awgrymiadau ynghylch beth ellid fod wedi’i wneud yn wahanol.

Bydd yn ddefnyddiol gwneud nodiadau am y drafodaeth a nodi camau gweithredu / argymhellion er mwyn eu dosbarthu ymysg y tîm ac ailedrych arnynt yn ddiweddarach os oes angen.

Ystyriaethau ychwanegol

  • Bod ag amser penodol, rheolaidd ar gyfer y sesiynau fel y gall yr aelodau gynllunio yn unol â hynny
  • Cadw at amserlenni cyfarfodydd
  • Rhoi cyhoeddusrwydd i amserau, lleoliadau a thopigau ymlaen llaw, ac ystyried eich sianelau cyfathrebu

Gwnewch yn fawr o’ch cofrestriad

Fel un o gofrestreion CGA, mae gennych fynediad i  Ffynhonnell Addysg EBSCO trwy’ch Pasbort Dysgu Proffesiynol (PDP).

Ffynhonnell Addysg

Hwn yw’r casgliad mwyaf a mwyaf cyflawn yn y byd o gyfnodolion addysg testun llawn gyda mwy na 2,500 o adnoddau. Mae’r gronfa ddata hon yn darparu ymchwil a gwybodaeth ysgolheigaidd i ddiwallu anghenion myfyrwyr, gweithwyr proffesiynol a gwneuthurwyr polisi addysg. Mae’n ymdrin â phob lefel o addysg.

Casgliad E-lyfrau Addysg

Yn y casgliad hwn ceir mwy na 4,000 o e-lyfrau o ansawdd da sy’n cefnogi disgyblaeth addysg. Mae’r teitlau’n amrywio o destunau cyflwyniadol i weithiau mwy cymhleth a manylach. Hefyd ceir deunyddiau cymorth i bobl sy’n gweithio ym maes addysg o’r Cyfnod Sylfaen i ôl -16 a dysgu seiliedig ar waith, ac addysg anffurfiol, gan ymdrin â thopigau o adeiladu cwricwlwm i ymddygiad myfyrwyr.