CGA / EWC

About us banner
A oes golwg ychydig yn wahanol ar CGA?
A oes golwg ychydig yn wahanol ar CGA?

Mae beth rydych chi’n ei weld a sut rydych chi’n teimlo wrth ryngweithio â ni yn bwysig.

Dros y misoedd diwethaf, byddwch wedi sylwi ar newid i olwg llawer o’n cyfathrebiadau – o’n lliwiau, i’n ffurfdeip, i’r iaith rydym ni’n ei defnyddio.

Diben hyn i gyd yw gwella’r gwasanaeth a’r profiad gewch chi.

Pam rydym ni wedi penderfynu gwneud newidiadau?

Fel sefydliad, rydym ni’n ymrwymo i fod yn gynhwysol. Rydym ni am i bawb allu deall ein gwaith ac ymgysylltu â ni, felly rydym ni wedi gwneud newidiadau i’n cyfathrebiadau i sicrhau bod hyn yn digwydd.

Felly, beth sydd wedi newid?

Un o’r newidiadau mwyaf welwch chi yw newid i’n gwefan – rydym ni wedi’i hailddylunio yn llawn.

Mae golwg symlach a glanach ar y wefan newydd. Rydym ni wedi newid trefn rhai o’n tudalennau gwe a strwythur rhai o’n cwymplenni i sicrhau bod defnyddwyr yn cael y daith orau posibl. Mae ein holl gynnwys wedi cael ei hadolygu, a’i hailysgrifennu (lle’r oedd angen), i wneud yn siŵr eich bod yn gweld cynnwys hygyrch, cyson a chywir. Hefyd, mae’r wefan yn gwbl ymatebol nawr felly bydd yn hygyrch dim ots pa ddyfais rydych chi’n ei defnyddio.

Hefyd, rydym wedi symud eicon ein bar offer hygyrchedd (ReachDeck) i safle mwy amlwg ar frig y dudalen. Mae ReachDeck yn adnodd gan Texthelp sy’n ein helpu i wneud ein cynnwys ar-lein yn fwy hygyrch. Mae’n cynnig nodweddion hygyrchedd ychwanegol i bob defnyddiwr, gan gynnwys testun i leferydd, geiriadur lluniau, mwyhadur testun a masgio’r sgrin.

Ochr yn ochr â’r wefan, rydym wedi bod yn ailddylunio nifer o’n darnau craidd o lenyddiaeth gorfforaethol, gan gynnwys ein taflenni, ein cyhoeddiadau ac animeiddiad corfforaethol cwbl newydd. Mae dyluniad y rhain yn gyson, does dim jargon ynddynt ac maent yn cynrychioli’r gweithlu addysg yng Nghymru yn well.

Meddai Hayden Llewellyn, ein Prif Weithredwr, “Fel rheoleiddiwr annibynnol, proffesiynol y gweithlu addysg yng Nghymru, mae’n hanfodol bod pobl sy’n dymuno ymwneud â ni yn gallu gwneud hynny heb gyfyngiadau.

“Mae ein Cynllun Strategol a’n Cynllun Cydraddoldeb Strategol yn amlinellu ein huchelgeisiau ar gyfer bod yn rheoleiddiwr annibynnol ac ymatebol, sy’n edrych tuag at y dyfodol, ac sydd wedi ymrwymo i degwch, amrywiaeth a chyfle cyfartal. Er mwyn cyflawni hyn, mae angen i ni sicrhau bod ein cynulleidfaoedd yn gallu rhyngweithio â ni yn y modd mwyaf cyfforddus iddyn nhw.

“Rwyf wrth fy modd â’r gwaith rydym ni wedi’i gyflawni hyd yn hyn, ond ni fyddwn yn gorffwys ar ein rhwyfau. Byddwn ni’n parhau i chwilio am ffyrdd o allu gwella ymhellach, gan sicrhau ein bod yn gallu cyflawni ein swyddogaeth graidd yn effeithiol, sef rheoleiddio er budd y cyhoedd.”

Hoffech chi ddarparu adborth?

Mae’r holl waith hyn wedi’i wneud gyda chi, ein cynulleidfa, mewn golwg, felly mae’n bwysig i ni wneud yn siŵr ein bod yn cael pethau’n iawn. Os hoffech chi roi adborth ar y newidiadau rydym wedi’u gwneud, This email address is being protected from spambots. You need JavaScript enabled to view it..