Mae CGA yn gyfrifol am ddatblygu a lletya’r Pasbort Dysgu Proffesiynol (PDP) ar ran Llywodraeth Cymru. Rydym wedi partneru gyda chwmni Pebblepad Learning Ltd er mwyn datblygu’r Pasbort.
Cyfleuster storio data ar gwmwl yw’r PDP sy’n cynnig lle i’n cofrestreion gynllunio, cofnodi a myfyrio ynghylch eu datblygiad proffesiynol. Bydd gan ddefnyddwyr y PDP fynediad at unrhyw wybodaeth a ychwanegir at y system yn ystod cyfnod eu cofrestriad gyda CGA. Os yw’r cofrestriad gyda CGA yn methu, gall y defnyddwyr dynnu eu data o’u PDP. Mae mwy o wybodaeth am amserlen cadw data’r PDP ar gael yma.
Defnyddir y PDP i letya’r Proffil Sefydlu ar-lein a gaiff ei gwblhau gan bob Athro Newydd Gymhwyso (ANG). Caiff ei ddefnyddio hefyd i gefnogi rhaglenni dysgu proffesiynol a ddarperir gan randdeiliaid allweddol gan gynnwys y rhaglen ADY, Cymhwyster Cenedlaethol Meistr mewn Addysg a rhaglenni llwybrau dysgu proffesiynol y consortia addysg rhanbarthol. Mae defnydd o’r PDP hefyd wedi cael ei estyn i gynnwys y rhai yng Nghymru sy’n astudio ar gyfer cymhwyster TAR, AHO neu Waith Ieuenctid ar hyn o bryd.
Ble yr ydym yn cael eich gwybodaeth
Ceir mynediad at y PDP trwy ein cyfleuster Ewasanaethau. Cyfrifoldeb yr unigolyn yw creu ei gyfrif Ewasanaethau ar-lein er mwyn cyrchu ei PDP, ac mae’n ofynnol bod y defnyddiwr naill ai:
- Wedi’i gofrestru gyda CGA mewn un categori cofrestru neu fwy
- Yn ymarferydd dan hyfforddiant, yn astudio ar gyfer cymhwyster TAR, AHO neu Waith Ieuenctid yng Nghymru
Wrth greu cyfrif ar-lein, gofynnir i ddefnyddwyr roi’r wybodaeth ganlynol: cyfeiriad e-bost, rhif cyfeirnod athro (RhCA) neu rif Yswiriant Gwladol (YG). Mae hyn yn sicrhau mai dim ond y rhai sy’n gymwys i wneud sy’n gallu cyrchu ein Ewasanaethau a’r PDP.
Caiff y PDP ei ddefnyddio i gefnogi nifer o raglenni dysgu proffesiynol ac mae’n ofynnol i’r cyfranogwr fod â chyfrif PDP i gyrchu’r llyfr gwaith perthnasol. Efallai y bydd trefnydd y rhaglen yn rhoi manylion y cyfranogwyr inni er mwyn inni greu’r cyfrif Ewasanaethau ar ran y defnyddiwr. Byddwn yn defnyddio’r wybodaeth a roddwyd i wirio’r Gofrestr Ymarferwyr Addysg er mwyn sicrhau bod y cyfranogwr yn gymwys i gyrchu’r PDP. Pan fydd y gwiriadau angenrheidiol wedi’u cwblhau, byddwn yn creu’r cyfrif Ewasanaethau os oes angen. Naill ai’r RhCA neu rif YG fydd enw defnyddiwr y cyfrif, a deiliad y cyfrif fydd yn gyfrifol am greu cyfrinair ar ei gyfer trwy’r broses sefydlu cyfrif arferol.
Os bydd angen mynediad i’r PDP gan y rhai nad ydynt yn gymwys i gofrestru gyda CGA e.e. tiwtoriaid prifysgol sy’n rhoi cymorth mentora i’r rhai sy’n astudio ar gyfer cymhwyster, bydd y Sefydliad yn rhoi manylion y defnyddwyr inni fel y gellir creu cyfrif ar-lein.
Pa wybodaeth bersonol yr ydym yn ei chasglu
Bydd y data yr ydym yn eu dal amdanoch er mwyn cynnig mynediad i’r PDP yn dibynnu a yw’r defnyddiwr wedi’i gofrestru gyda CGA neu’n fyfyriwr sy’n cyrchu’r PDP
Os yw’r defnyddiwr wedi’i gofrestru gyda CGA, caiff y data canlynol eu dal ar y gofrestr:
- Enw llawn
- Rhif Cyfeirnod Athro
- Rhif Yswiriant Gwladol
- Dyddiad geni
- Manylion cyswllt gan gynnwys cyfeiriad cartref, cyfeiriad e-bost a rhif ffôn
- Manylion cyflogaeth, gan gynnwys data cyfredol a hanesyddol
- Manylion cymwysterau
- Manylion statws cofrestru CGA, gan gynnwys data cyfredol a hanesyddol
Ymarferydd dan hyfforddiant:
- Enw llawn
- Rhif Cyfeirnod Athro
- Rhif Yswiriant Gwladol
- Dyddiad geni
- Manylion cyswllt gan gynnwys cyfeiriad cartref, cyfeiriad e-bost a rhif ffôn
- Manylion cymwysterau, gan gynnwys manylion y sefydliad lle mae’n astudio a’r cwrs mae’n ei ddilyn
- Manylion unrhyw gategorïau cofrestru CGA eraill a ddelir, os yw’n berthnasol
Sut yr ydym yn defnyddio’ch gwybodaeth
Caiff y wybodaeth a ddarparwyd ar gyfer creu cyfrifon Ewasanaethau ei dal ar y Gofrestr Ymarferwyr Addysg, a ddarperir gan gwmni MillerTech Ltd. Caiff y data sy’n gysylltiedig â chyfrineiriau’r cyfrifon eu dal ar weinyddion MillerTech. I gael mwy o wybodaeth am bolisi preifatrwydd MillerTech, cliciwch yma.
Ni all pobl eraill gyrchu’r wybodaeth a gofnodir yn eich PDP oni fyddwch yn penderfynu ei rhannu. Wrth rannu gwybodaeth o’ch PDP, mae gennych yr hawl i reoli sut y gall y derbynnydd ddefnyddio’r wybodaeth yr ydych wedi’i rhannu. Caiff yr holl wybodaeth a gofnodwch yn eich PDP ei dal yn ddiogel ar weinyddion Pebblepad. I gael mwy o wybodaeth am sut mae Pebblepads yn defnyddio’ch data, cliciwch yma.
Os ydych yn ANG yn mynd trwy’r broses sefydlu statudol, byddwn yn rhoi mynediad i’ch Proffil Sefydlu yn eich PDP i’ch Mentor Sefydlu a/neu Wiriwr Allanol, er mwyn iddynt allu cynnig cymorth mentora ichi trwy gydol eich cyfnod sefydlu.
Os ydych yn defnyddio llyfr gwaith yn eich PDP tra’n cymryd rhan mewn rhaglen dysgu proffesiynol, efallai y byddwn yn rhoi’r hawl i gyrchu’ch llyfr gwaith naill ai i Diwtor Prifysgol, neu gydweithiwr yn eich sefydliad sy’n cynnig cymorth mentora ichi. Caniateir y mynediad dim ond i’r llyfr gwaith perthnasol yn eich PDP a dim ond am gyfnod y rhaglen dysgu proffesiynol yr ydych yn cymryd rhan ynddi.
Mae’n ofynnol inni ddarparu data ystadegol am y defnydd o’r PDP i Lywodraeth Cymru a rhanddeiliaid allweddol eraill. Wrth gynhyrchu’r data a’u rhannu, rydym yn sicrhau nad oes modd adnabod unigolion a chaiff unrhyw ddata eu rhannu’n ddiogel yn unol â’n Polisi Rhannu Data.
Pam mae ein defnydd o’ch data personol yn gyfreithlon
Y brif sail gyfreithiol yr ydym yn dibynnu arni i brosesu data personol yw erthygl 6(1)(e) o’r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data, sy’n caniatáu inni brosesu data personol pan fo angen hyn i gyflawni ein tasgau cyhoeddus fel rheoleiddiwr.