Dewiswch eich iaith

Gwybodaeth preifatrwydd Cyngor y Gweithlu Addysg

Ffôn: 029 2046 0099 | E-bost: gwybodaeth@cga.cymru | Twitter: @ewc_cga

O dan Orchymyn Cyngor y Gweithlu Addysg (Achredu Hyfforddiant Cychwynnol i Athrawon) (Swyddogaethau Ychwanegol) 2017, mae gennym gyfrifoldeb statudol i:

  • achredu rhaglenni Addysg Gychwynnol Athrawon (AGA)
  • monitro rhaglenni achrededig i sicrhau eu bod yn cydymffurfio â meini prawf Llywodraeth Cymru
  • dileu achrediad rhaglenni

Mae tîm Addysgwyr Cymru’n darparu gwasanaeth recriwtio, eiriolaeth a chymorth. Mae'n cynorthwyo â’r gwaith o gynnal digwyddiadau neu weithgareddau hyrwyddo ac Addysgwyr Cymru. Caiff data personol eu prosesu ar gyfer:

  • Cynorthwyo Aelodau o’r Bwrdd
  • Digwyddiadau AGA
  • Addysgwyr Cymru

Ble yr ydym yn cael eich gwybodaeth

Caiff y wybodaeth yr ydym yn ei dal ei chasglu trwy amrywiaeth o ddulliau gan gynnwys:

  • cofrestru ar gyfer digwyddiadau
  • ffurflenni cydsyniad ar gyfer gweithgareddau hyrwyddo
  • gwefan Addysgwyr Cymru (gweler y polisi preifatrwydd)

Pa wybodaeth bersonol yr ydym yn ei chasglu

Er mwyn cynorthwyo Aelodau o’r bwrdd mae’r manylion personol sy’n cael eu dal yn cynnwys yr enw llawn a manylion cyswllt (cyfeiriad cartref, cyfeiriad e-bost personol a rhif ffôn cyswllt), cofrestr o fuddiannau a thystiolaeth o statws cyflogaeth (at ddibenion ariannol). Caiff manylion cyswllt eu dal er mwyn sicrhau y caiff manylion cyfarfodydd neu gylchlythyrau a chyhoeddiadau perthnasol ac unrhyw bapurau perthnasol eu hanfon at yr aelodau ac am resymau gweithredol a rhesymau sy’n ymwneud â pharhad busnes.

Ar gyfer digwyddiadau AGA, mae’n bosibl y bydd CGA yn comisiynu ffotograffau a/neu ffilmio mewn digwyddiadau i’w defnyddio yn ei ddeunydd hyrwyddo mewnol ac allanol. Felly mae’n bosibl y bydd aelodau o’r staff, gwesteion sy’n cymryd rhan a mynychwyr yn ymddangos yn y delweddau hynny.

Mae cyfreithiau Diogelu Data yn dweud bod delweddau (sy’n golygu, yn y cyd-destun hwn, ffotograffau a/neu ffilmiau) o unigolion y gellir eu hadnabod yn cyfrif fel data personol. Fodd bynnag, nid yw’n beth syml bob amser penderfynu a yw delwedd yn cynnwys data personol. Gan nad oes diffiniad rhifol o dorf, mae angen doethineb broffesiynol. Lle mae’r ffotograff yn dangos torf, mae’n annhebyg o gynnwys data personol gan na fydd modd adnabod unigolion ac felly mae cyfreithiau diogelu data yn annhebyg o fod yn berthnasol.

Sut yr ydym yn defnyddio’ch gwybodaeth

Diben digwyddiadau AGA yw dod â’r sector ynghyd i rannu’r gweithgarwch ymchwil sy’n digwydd yn y partneriaethau AGA ar draws Cymru a gyda nhw, i wrando ar brofiadau athrawon ac ymchwilwyr a dysgu oddi wrthynt, a dechrau datblygu diwylliant ymchwil cenedlaethol ar gyfer addysg athrawon. Weithiau caiff digwyddiadau eu ffilmio neu eu recordio gyda’r nod o rannu gyda phobl nad ydynt yn gallu bod yn bresennol, trwy wefan CGA a chyfryngau cymdeithasol.

Bydd yna ffotograffiaeth / ffilmio yn y digwyddiadau, gyda’r bwriad i rannu gyda’r rheini sydd ddim yn gallu mynychu drwy wefan CGA neu gyfryngau cymdeithasol.

Mae'n bosibl y bydd y delweddau hynny (ffotograffau / ffilmiau) yn cael eu cyhoeddi mewn print, yn electronig ac ar y rhyngrwyd / mewnrwyd, gan gynnwys ar gyfrifon cyfryngau cymdeithasol CGA. Mae'n bosibl i bobl rannu negeseuon o gyfryngau cymdeithasol neu gadw delweddau o gyfrifon cyfryngau cymdeithasol CGA a’u hailddefnyddio. Rydym yn cadw’r ffotograffau / ffilmiau cyhyd ag y bo’n angenrheidiol ac yn ddefnyddiol at y dibenion busnes craidd. Pan ddaw’r adeg honno, caiff y ffotograffau / ffilmiau eu dinistrio’n ddiogel.

Pam mae ein defnydd o’ch data personol yn gyfreithlon

Mae Deddf Addysg (Cymru) 2014 (ac unrhyw ddiwygiadau canlynol) a rheoliadau/deddfwriaeth cysylltiedig, yn nodi ein swyddogaethau a’r wybodaeth y cawn ei dal. Rydym yn prosesu’ch gwybodaeth bersonol er mwyn inni allu darparu gwasanaethau ichi, cyflawni swyddogaethau cyhoeddus (tasg gyhoeddus) a chydymffurfio â chyfreithiau a rheoliadau perthnasol (rhwymedigaeth gyfreithiol). Y brif sail gyfreithiol yr ydym yn dibynnu arni i brosesu data personol yw Erthygl 6(1)(e) o’r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data, sy’n caniatáu inni brosesu data personol pan fo hyn yn angenrheidiol er mwyn cyflawni ein tasgau cyhoeddus fel rheoleiddiwr.

Yn unol ag argymhellion y corff goruchwylio, Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, mae CGA yn defnyddio sail gyfreithlon ‘buddiannau dilys’ ar gyfer ffotograffau gan gynnwys pobl yn ystod digwyddiadau. Mae buddiannau dilys yn golygu bod angen inni brosesu’r wybodaeth bersonol er mwyn cyflawni ein hamcanion, ein bod ni’n credu na fydd yn cael effaith niweidiol arnoch chi a’n bod ni’n meddwl y byddech yn ei ddisgwyl. Lle mai buddiannau dilys neu gontract yw’r sail gyfreithlon, ni ofynnir i bobl am eu cydsyniad. Fodd bynnag, rhaid i CGA wneud ymdrechion rhesymol i roi gwybod i bobl bod gwaith ffotograffiaeth / ffilmio yn cael ei wneud. Bydd hysbysiadau (er enghraifft trwy e-bost / Eventbrite / posteri ac ati) yn cael eu cyhoeddi i nodi bod gwaith ffotograffiaeth / ffilmio yn cael ei wneud. Os mai buddiannau dilys yw’r sail gyfreithlon, mae gan bobl hawl i beidio ag ymddangos mewn ffordd sy’n ei gwneud yn bosibl eu hadnabod mewn ffotograffau / ffilmiau a gallant drefnu ar gyfer hyn trwy gysylltu â threfnydd y digwyddiad neu’r Swyddog Diogelu Data (Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.). Fodd bynnag, os nad oes ffordd o sicrhau na fydd y person yn ymddangos yn y ffotograffau tra bydd yn y digwyddiad, gallai hyn achosi i’r person ddewis peidio â mynd i’r digwyddiad.


Allaf i optio allan o gael tynnu fy llun neu gael fy ffilmio?

Mae gennych hawl gyfreithiol i ofyn am gael ‘optio allan’ o ymddangos mewn ffotograff / ffilm os mai buddiannau dilys yw’r sail gyfreithlon. Mae enghreifftiau o sut i optio allan yn cynnwys:

  • Darllen arwyddion er mwyn rhoi eich hun mewn lle heb ffotograffiaeth (e.e. pan fo gwaith ffotograffiaeth yn cael ei wneud mewn darlithfa).
  • Dewis sefyll y tu allan i’r llun. Os yw’r llun yn cynnwys man helaeth, efallai y byddwch yn dewis gadael y fan gyfan.
  • Dewis peidio â mynd i’r digwyddiad.
  • Gofyn i’r ffotograffydd beidio â’ch cynnwys.
  • Y ffotograffydd yn gofyn ichi a ydych chi’n fodlon bod mewn ffotograff ac yn gofyn ichi gamu allan o’r llun os nad ydych.

Defnyddir ffotograffwyr / fideograffwyr allanol ar gyfer rhai digwyddiadau mai CGA yw’r rheolydd data amdanynt. Mae'n bosibl y bydd y delweddau hynny (ffotograffau / ffilmiau) yn cael eu cyhoeddi mewn print, yn electronig ac ar y rhyngrwyd / mewnrwyd, gan gynnwys ar gyfrifon cyfryngau cymdeithasol CGA.