Mae gan CGA gylch gwaith i ddarparu cyngor annibynnol er mwyn cefnogi’r gwaith o ddatblygu polisi addysg seiliedig ar dystiolaeth a’i roi ar waith yng Nghymru. Er mwyn cyflawni ein cylch gwaith, rydym yn cynnal ymchwil a gaiff ei chyhoeddi ar ein gwefan o bosibl neu ei chyflwyno yn un o’n briffiadau polisi y mae rhanddeiliaid ac ymarferwyr addysg yn eu mynychu.
Ble yr ydym yn cael eich gwybodaeth
Rydym yn cael gwybodaeth yn uniongyrchol oddi wrthych chi trwy eich cyfathrebiadau gyda ni a thrwy eich cyfranogiad gwirfoddol mewn gweithgareddau ymchwil fel cyfweliadau, arolygon, holiaduron a grwpiau ffocws.
Pa wybodaeth bersonol yr ydym yn ei chasglu
Bydd y data personol yr ydym yn eu casglu fel arfer yn cynnwys y canlynol:
- enw
- cyfeiriad e-bost
- teitl swydd
- sefydliad
Gallwn hefyd gasglu data personol sensitif fel:
- gwybodaeth cydraddoldeb
- credoau crefyddol, neu gredoau eraill o natur debyg
- cyfeiriadedd rhywiol
- rhywedd
Gall casglu data ar nodweddion gwarchodedig fel y rhain ein helpu i ddeall cyfansoddiad amrywiol ein cofrestreion yn well, yn ogystal a sut y gallai hyn effeithio ar eu profiadau. Bydd yr ymchwil hefyd yn cynorthwyo ein hymdrechion i hyrwyddo amrywiaeth, tegwch a chynhwysiant o fewn ein sefydliad.
Sut yr ydym yn defnyddio’ch gwybodaeth
Pan fyddwch yn cymryd rhan yn ein hymchwil cysylltiedig ag addysg, caiff unrhyw wybodaeth a gasglwyd ei defnyddio i wneud dadansoddiad ystadegol o’r data. Lle bo’n briodol, gall CGA gysylltu ymatebion â’r data a ddelir ar y Gofrestr Ymarferwyr Addysg er mwyn dadansoddi’r data yn ôl nodweddion eraill fel oedran a rhywedd. Pan gyhoeddir y wybodaeth, caiff ei chyflwyno ar lefel gyfanredol yn unig. Os yw’n fwriad gennym i rannu’r data â thrydydd parti, byddwn yn tynnu enwau o’r data ac yn hysbysu’r cyfranogwyr am hyn ar ddechrau’r ymchwil.
Rydym yn cadw data personol a gasglwyd at ddibenion ymchwil yn unig mor hir ag sy’n angenrheidiol i gwblhau’r prosiect ymchwil, ac i fodloni unrhyw ofynion statudol neu archwilio perthnasol. Mae data ymchwil yn cael ei anonymeiddio lle bynnag bo modd, ac yn cael ei gadw felly ar gyfer dadansoddiad tymor hirach. Bydd data personol na ellid eu anonymeiddio yn cael ei ddileu’n ddiogel unwaith bod diben yr ymchwil wedi ei fodloni, yn unol â’n amserlen dargadw cofnodion corfforaethol.
Pam mae ein defnydd o’ch data personol yn gyfreithlon
Er mwyn i’n defnydd ni o’ch data personol chi fod yn gyfreithlon, mae angen inni fodloni o leiaf un amod yn y ddeddfwriaeth diogelu data.
Mae CGA yn prosesu’ch data wrth gyflawni tasg gyhoeddus (wedi’i diffinio mewn cyfraith diogelu data) a gyflawnir er budd y cyhoedd o dan adran 7 o Ddeddf Addysg (Cymru) 2014 i roi cyngor i Weinidogion Cymru ynghylch materion perthnasol yn gysylltiedig â: safonau’r gwasanaethau a ddarperir gan bersonau cofrestredig; safonau ymddygiad personau cofrestredig; priodoldeb i ymarfer personau cofrestredig; rolau’r proffesiynau a gynrychiolir yn y categorïau cofrestru; statws pob un o’r proffesiynau hyn; hyfforddiant, datblygiad gyrfa a rheoli perfformiad personau cofrestredig; recriwtio a chadw personau cofrestredig ym mhob categori cofrestru; a’r cyflenwad o bersonau cofrestredig.