Rydym ni’n defnyddio’ch data personol i gyfathrebu gyda chi mewn nifer o ffyrdd, gan gynnwys dros e-bost, drwy gylchlythyron, arolygon, ffotograffiaeth/ffilmio, ac ymatebion y ymholiadau gan y cyfryngau.
Ble yr ydym yn cael eich gwybodaeth
Rydym yn casglu eich gwybodaeth wrth i chi gofrestru i gael y cylchlythyr, cofrestru i fynd i ddigwyddiad, dod i ddigwyddiad neu gysylltu â ni gydag ymholiad gan y cyfryngau.
Pa wybodaeth bersonol yr ydym yn ei chasglu
Ar gyfer y cylchlythyr, mae arnom angen eich enw a’ch cyfeiriad e-bost. Mae’n bosibl y byddwn hefyd yn defnyddio’ch swydd a’ch lle gwaith ar gyfer cyfathrebu targededig.
Os ydych chi eisiau mynd i un o'n digwyddiadau, byddwn yn gofyn ichi roi’ch gwybodaeth gyswllt, enw’ch sefydliad, unrhyw anghenion hygyrchedd, p'un a ydych yn siaradwr Cymraeg ai peidio, ac os yw'n berthnasol i'r digwyddiad os oes gyda chi unrhyw ofynion deietegol.
Gallwn gomisiynu ffotograffiaeth a/neu ffilmio i'w ddefnyddio yn ein deunydd hyrwyddo mewnol ac allanol. Rydym hefyd yn recordio digwyddiadau, gyda'r bwriad o rannu gyda'r rheiny sy'n methu dod i'r digwyddiadau, neu sydd am eu gwylio eto. Lle byddwn yn defnyddio ffotograffwyr/fideograffwyr, CGA fydd y rheolwr data.
Os ydych chi’n aelod o’r wasg neu’r cyfryngau, ac yn cysylltu gyda ni dros e-bost gyda g ymholiad, byddwcn yn cadw'ch enw ac enw'ch sefydliad, i fonitro'r ymholiadau yr ydym yn eu derbyn. Os fyddwch yn cysylltu â ni dros y ffôn byddwn yn cymryd eich enw a’ch rhif ffôn, a chyfeiriad e-bost cyswllt a, lle bo’n berthnasol, enw’r sefydliad yr ydych yn ei gynrychioli.
Sut yr ydym yn defnyddio’ch gwybodaeth
Rydym ni’n cyhoeddi ein cylchlythyron i randdeiliaid, Newyddion CGA a Newyddion FyCGA hyd at bedair gwaith y flwyddyn. Rydym hefyd yn anfon e-byst gyda gwybodaeth am ddigwyddiadau allai fod o ddiddordeb i chi, i'n cofrestreion a'n rhanddeiliaid. Rydym yn defnyddio Email Blaster i gyhoeddi e-gylchlythyrau a gwahoddiadau i ddigwyddiadau. I gael rhagor o wybodaeth, gweler hysbysiad preifatrwydd Email Blaster.
Pan rydych chi’n cofrestru i fynd i un o’n digwyddiadau, rydym yn defnyddio’r wybodaeth a roddir i hwyluso’r digwyddiad ac i roi gwasanaeth derbyniol ichi. Mae arnom angen y wybodaeth hon hefyd er mwyn inni allu ymateb i unrhyw ymholiadau. Nid ydym ni’n rhannu’r wybodaeth hon gyda’r lleoliad mewn unrhyw ffordd lle gellid eich adnabod, ac rydym ni’n ei dileu ar ôl y digwyddiad. Rydym yn rhoi opsiwn i ddewis derbyn, sy'n cydsynio i ni gadw eich manylion i'w defnyddio yn y dyfodol. Os hoffech optio allan ar unrhyw bwynt, cysylltwch â
Mae'n bosibl y byddwn yn anfon negeseuon atgoffa trwy e-bost atoch chi cyn y digwyddiad. Mae'n bosibl hefyd y byddwn yn gofyn am adborth gennych ar ôl y digwyddiad. Bydd hyn trwy neges e-bost. Ni fyddwn yn mynnu cael unrhyw fanylion personol gennych chi yn yr achos hwn. Nid ydym yn cyhoeddi rhestrau o gynrychiolwyr ar gyfer digwyddiadau. Ar hyn o bryd rydym yn defnyddio Ticket Source i reoli ein system bwcio, a Zoom i gynnal ein digwyddiadau ar-lein. I gael rhagor o wybodaeth, edrychwch ar hysbysiad preifatrwydd Zoom a hysbysiad preifatrwydd Ticket Source.
Gall delweddau eu cyhoeddi mewn print, yn electronig, ac ar y rhyngrwyd/mewnrwyd, gan gynnwys ar gyfrifon cyfryngau cymdeithasol CGA ac Addysgwyr Cymru. I gael mwy o wybodaeth ar sut mae Addysgwyr Cymru yn prosesu eich data, gweler hysbysiad preifatrwydd Addysgwyr Cymru. Mae'n bosibl i bobl rannu postiadau ar y cyfryngau cymdeithasol neu arbed delweddau o gyfrifon CGA, a'u hailddefnyddio. Rydym yn cadw delweddau mor hir ag sydd angen ac sy'n ddefnyddiol i wneud, at ddibenion craidd busnes. Pan fyddwn yn cyrraedd yr amser yma, byddwn yn dinistrio delweddau'n ddiogel.
Rydym ni’n casglu gwybodaeth ar gyfer datganiadau i’r cyfryngau er mwyn ymateb i unrhyw ymholiadau a gawn. Mae angen inni gadw cofnod o bwy yr ydym wedi siarad â nhw a beth y gofynnwyd amdano/a ddarparwyd. Os na allwn ateb eich ymholiad/cais dros y ffôn, bydd arnom angen eich gwybodaeth gyswllt ar gyfer ein hymateb.
Pam mae ein defnydd o’ch data personol yn gyfreithlon
Ein diben wrth gasglu’r wybodaeth benodedig yw er mwyn inni allu hwyluso digwyddiadau a darparu gwasanaeth derbyniol ichi. Y sail gyfreithiol yr ydym yn dibynnu arni i brosesu’ch data personol yw eich cydsyniad o dan Erthygl 6(1)(a) o’r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data. Pan fyddwn yn casglu unrhyw wybodaeth am ofynion deietegol neu ofynion o ran mynediad, mae arnom angen eich cydsyniad (o dan Erthygl 9(2)(a)) hefyd gan fod gwybodaeth o’r math hwn yn cael ei hystyried yn ddata categori arbennig. Bydd ffotograffiaeth/ffilmio mewn digwyddiadau hefyd yn cael ei reoli ar sail cydsyniad.
Mae Deddf Addysg (Cymru) 2014 (ac unrhyw ddiwygiadau dilynol) a rheoliadau neu ddeddfwriaeth cysylltiedig, yn nodi ein swyddogaethau a’r wybodaeth y cawn ei dal. Rydym yn casglu’r wybodaeth hon er mwyn inni allu darparu gwasanaeth ichi a rhoi gwybod ichi am ddigwyddiadau sydd ar y gweill.
Os ydych chi’n tanysgrifio i’n cylchlythyr i randdeiliaid, Newyddion CGA, rydym yn dibynnu ar eich cydsyniad o dan Erthygl 6(1)(a) o’r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data fel y sail gyfreithiol ar gyfer prosesu’ch data personol. Mae'n bosibl y byddwn hefyd yn dibynnu ar fudd y cyhoedd fel y sail gyfreithlon ar gyfer defnyddio’ch manylion cyswllt at ddibenion anfon cylchlythyrau neu roi gwybod ichi am ddigwyddiadau gan fod arnom ddyletswydd gyfreithiol i gefnogi dysgu a datblygiad personau cofrestredig.
Y sail gyfreithiol yr ydym yn dibynnu arni ar gyfer prosesu eich data personol yw tasg gyhoeddus, o dan erthygl 6(1)(e) GDPR y DU, fodd bynnag, byddwn yn gwneud ymdrechion rhesymol i hysbysu pobl fod ffotograffiaeth/ffilmio yn cael ei wneud. Bydd hysbysiadau (er enghraifft dros e-bost/Ticket Source/posteri ac ati), yn cael eu cyhoeddi i nodi bod ffotograffiaeth/ffilmio yn digwydd. Mae hawl gennych i beidio ag ymddangos mewn modd lle gellir eich adnabod mewn ffotograffiaeth/ffilmio a gallwch drefnu hyn drwy gysylltu gyda thîm cyfathrebu CGA neu'r Swyddog Diogelu Data. Fodd bynnag, os nad oes modd i sicrhau na fyddwch yn ymddangos yn y ffotograffiaeth mewn digwyddiad, efallai y byddwch yn dewis peidio â dod i'r digwyddiad.
Ar gyfer ymholiadau gan y cyfryngau, nid ydym yn defnyddio’ch gwybodaeth bersonol ond i ymateb i chi a byddwn yn cadw cofnod o’n cyfathrebiadau gyda chi, ar lafar ac mewn ysgrifen. Byddwn hefyd yn defnyddio’ch gwybodaeth gyswllt i anfon ein datganiadau i’r cyfryngau atoch chi. Y sail gyfreithiol yr ydym yn dibynnu arni ar gyfer prosesu’ch data personol yw tasg gyhoeddus, o dan Erthygl 6(1)(e) o’r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data.