Dewiswch eich iaith

Gwybodaeth preifatrwydd Cyngor y Gweithlu Addysg

Ffôn: 029 2046 0099 | E-bost: gwybodaeth@cga.cymru | Twitter: @ewc_cga

Ni yw rheoleiddiwr mwyaf Cymru. Mae gennym rwymedigaeth gyfreithiol i ddal a chynnal y Gofrestr Ymarferwyr Addysg. Mae’n cynnwys athrawon a staff cymorth dysgu mewn ysgolion a lleoliadau addysg bellach, gweithwyr ieuenctid/cymorth ieuenctid cymwysedig, ac ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith.

Rydym yn prosesu eich gwybodaeth bersonol er mwyn gallu darparu gwasanaethau ichi, cyflawni swyddogaethau cyhoeddus (tasg gyhoeddus) a chydymffurfio â’r deddfau a’r rheoliadau perthnasol (rhwymedigaeth gyfreithiol). Gweler isod y tasgau gwahanol a gyflawnir gan y tîm Cymwysterau a Chofrestru a sut mae hyn yn berthnasol i’ch data personol a’ch preifatrwydd.

Ble yr ydym yn cael eich gwybodaeth

Yn uniongyrchol oddi wrthych:

  • Cais am gofrestru;
  • Trwy gydol eich cyswllt â ni, gan gynnwys trwy ddefnyddio’r gwasanaeth FyCGA.

Oddi wrth eraill:

  • O sefydliadau hyfforddi athrawon cychwynnol, os ydych yn dilyn cwrs neu raglen sy’n arwain at ddyfarnu Statws Athro Cymwysedig (SAC) yng Nghymru;
  • O gyflogwyr, asiantaethau pensiwn, rheoleiddwyr addysg eraill, cyrff dyfarnu a chyrff cyhoeddus.

Pa wybodaeth bersonol yr ydym yn ei chasglu

Mae gennym rwymedigaeth gyfreithiol i ddal a chynnal y Gofrestr, ac felly mae angen inni ddal gwybodaeth am ymarferwyr addysg a chyflogwyr. Mae’r manylion personol a ddelir ar y Gofrestr yn cynnwys enw’r ymarferydd, manylion cyswllt, cyflogaeth, cymwysterau a manylion datblygiad proffesiynol. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn atodlen 2 i Reoliadau Cyngor y Gweithlu Addysg (Prif Swyddogaethau)(Cymru) 2015.

Mae gan CGA gyfrifoldeb i gofnodi’r rhai y dyfernir Statws Athro Cymwysedig (SAC) iddynt yng Nghymru bob blwyddyn, felly mae arnom angen gwybodaeth am yr ymarferwyr perthnasol, gan gynnwys data personol fel eu henw a manylion cyswllt, a gwybodaeth am eu cymhwyster/cymwysterau. Dyrennir Rhif Cyfeirnod Athro (RhCA) i’r ymarferwyr sy’n cael SAC yng Nghymru.

Rydym yn dal data am unigolion sydd wedi’u gwahardd rhag cyflawni gweithgarwch wedi’i reoleiddio mewn perthynas â phlant neu oedolion bregus, sy’n destun gorchymyn disgyblu neu sydd wedi’u hanghymwyso rhag cofrestru gyda CGA neu gyrff cyfatebol. Mae’r data hyn yn cael eu dal er mwyn sicrhau ein bod ni’n cydymffurfio ag Adran 10(3) o Ddeddf Addysg (Cymru) 2014.

Rydym yn cofnodi rhywfaint o ddata categori arbennig, fel gwybodaeth am ethnigrwydd a hunaniaeth genedlaethol. Caiff y data hyn eu prosesu yn unol ag erthygl 9(2)(g) o’r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data.

Er mwyn cynnal y Gofrestr, rydym yn ei gwneud yn ofynnol i’r cofrestreion a phartïon perthnasol eraill, fel cyflogwyr, ein hysbysu ni os yw data ar goll neu’n anghywir. O dan adran 36 o Ddeddf Addysg (Cymru) 2014, mae’n ofynnol i gyflogwyr perthnasol roi gwybod i CGA am yr unigolion cofrestredig a gyflogir ganddynt. Os credwch fod unrhyw wybodaeth yr ydym yn ei dal amdanoch yn anghywir, dylech fewngofnodi i’ch cyfrif FyCGA, neu gysylltu â’r tîm cofrestru drwy ffonio 029 2046 0099 neu anfon neges e-bost at Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.

Sut yr ydym yn defnyddio’ch gwybodaeth

Mae angen inni gasglu a chynnal data am ymarferwyr addysg er mwyn cyflawni ein rhwymedigaeth gyfreithiol i gynnal y Gofrestr Ymarferwyr Addysg.

Er mwyn sicrhau bod ymarferwyr yn addas i gofrestru (yn unol ag Adran 10 o Ddeddf Addysg (Cymru) 2014), mae arnom angen gwybodaeth a fydd yn caniatáu inni gynnal gwiriadau addasrwydd.

Prif nodau CGA, fel y’u nodir yn Neddf Addysg (Cymru) 2014 yw:

  • cyfrannu at wella safonau addysgu ac ansawdd y dysgu yng Nghymru;
  • cynnal a gwella safonau ymddygiad proffesiynol ymhlith athrawon a phersonau sy’n cefnogi addysgu a dysgu yng Nghymru.

Er mwyn sicrhau ein bod ni’n cyflawni’r nodau hyn, mae angen inni sicrhau ein bod ni’n dal data digonol a chywir am ymarferwyr addysg. Mae’r wybodaeth a ddelir gennym ar y Gofrestr yn ein galluogi ni i gyflawni ein swyddogaeth rheoleiddio. Efallai y byddwn yn defnyddio’ch manylion cyswllt er mwyn cysylltu â chi ynghylch materion sy’n ymwneud â’ch cofrestriad.

Efallai y caiff rhywfaint o’ch manylion personol eu rhannu gyda thrydydd partïon dethol, fel y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a chynghorau addysg neu addysgu. Ni fyddwn yn datgelu eich gwybodaeth i drydydd partïon ond at ddibenion dilys y rhoddwyd gwybod ichi amdanynt, oni bai ei bod yn ofynnol inni wneud fel arall am resymau cyfreithiol.

Os ydych yn dewis parhau â’ch proffesiwn yn rhywle arall, mae’n bosibl y bydd rheoleiddiwr proffesiynol a/neu awdurdod cymwys arall y tu allan i’r Deyrnas Unedig yn gofyn inni ddilysu’r wybodaeth a roddwch iddynt.

Bydd rhai o’ch manylion ar gael i’ch cyflogwr/cyflogwyr. Prif ddiben hyn yw er mwyn iddynt wirio’ch statws cofrestru a helpu i sicrhau bod eich gwybodaeth yn gywir ac yn gyfredol.

Mae is-set o’r data o’r Cofrestrydd (enw cyntaf, cyfenw, cyflogwr, categori cofrestru ac unrhyw orchmynion disgyblu) ar gael yn gyhoeddus, yn unol ag adran 13(2)(i) o Ddeddf Addysg (Cymru) 2014. Nid ydym yn gyfrifol am sut y caiff y wybodaeth sydd ar gael i’r cyhoedd ei defnyddio gan y rhai sy’n ei chyrchu.

Gall y data rydym yn eu dal ar y Gofrestr Ymarferwyr Addysg gael eu rhannu gyda thimau eraill CGA at y dibenion a nodir yn eu hadrannau perthnasol o’r Hysbysiad Preifatrwydd. Mae CGA yn cynhyrchu adroddiadau ystadegol ac adroddiadau ymchwil yn rheolaidd sy’n crynhoi gwybodaeth allweddol o’r Gofrestr. Mae’r wybodaeth hon yn bwydo i mewn i waith cynllunio’r gweithlu ac yn llywio’r broses o ddatblygu polisïau.

Cafodd y Gofrestr ei datblygu gan ddarparwr trydydd parti sef Miller Technology, a chaiff ei chynnal gan y cwmni hwnnw hefyd. Am fwy o wybodaeth, gweler polisi preifatrwydd MillerTech: http://www.millertech.co.uk/privacy-policy. Defnyddir Redstor fel platfform rheoli data i storio copi wedi’i amgryptio o’n data. Mae ei bolisi preifatrwydd ar gael yma: https://www.redstor.com/privacypolicy. Efallai y byddwn yn defnyddio cwmnïau postio allanol er mwyn anfon swmp o lythyron. Mae’n ofynnol i’r cwmnïau allanol hyn ddinistrio neu ddychwelyd y manylion personol a roddwyd iddynt gan CGA ar ôl cwblhau’r dasg.

Pam mae ein defnydd o’ch data personol yn gyfreithlon

Mae Deddf Addysg (Cymru) 2014 (ac unrhyw ddigwyddiadau dilynol), y rheoliadau a’r ddeddfwriaeth cysylltiedig, yn nodi ein swyddogaethau a’r wybodaeth y gallwn ei dal. Rydym yn prosesu’ch gwybodaeth bersonol er mwyn darparu gwasanaethau ichi, cyflawni swyddogaethau cyhoeddus (tasg gyhoeddus), a chydymffurfio â deddfau a rheoliadau perthnasol (rhwymedigaeth gyfreithiol).

Mae gennym rwymedigaeth gyfreithiol i ddal a chynnal y Gofrestr Ymarferwyr Addysg, ac felly ein prif sail gyfreithiol dros brosesu’r data hyn yw erthygl 6(1)(c) o’r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (rhwymedigaeth gyfreithiol). Ar gyfer prosesu rhywfaint o’r data, rydym yn dibynnu ar erthygl 6(1)(e) o’r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (tasg gyhoeddus), sy’n caniatáu inni brosesu data personol pan fo angen hyn er mwyn cyflawni ein tasgau cyhoeddus fel rheoleiddiwr.

Os yw’r wybodaeth a roddwch inni’n cynnwys data categori arbennig, fel gwybodaeth am iechyd, crefydd neu ethnigrwydd neu wybodaeth sy’n ymwneud â phriodoldeb i ymarfer, y sail gyfreithiol rydym yn dibynnu arni i’w phrosesu yw erthygl 9(2)(g) o’r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data, sydd hefyd yn ymwneud â’n tasg gyhoeddus a diogelu eich hawliau sylfaenol. Rydym hefyd yn dibynnu ar Atodlen 1 rhan 2(6) o Ddeddf Diogelu Data 2018 sy’n ymwneud â dibenion statudol a llywodraethol, ac Atodlen 8 rhannau 1 a 6 sy’n ymwneud â’r amodau ar gyfer prosesu sensitif.