Dewiswch eich iaith

Gwybodaeth preifatrwydd Cyngor y Gweithlu Addysg

Ffôn: 029 2046 0099 | E-bost: [email protected]

Ar ran Llywodraeth Cymru, mae CGA yn gyfrifol am weinyddu’r rhaglenni sefydlu, Datblygiad Proffesiynol Cynnar (DPC) a’r radd Meistr mewn Addysg).

Yng Nghymru, mae’n ofynnol i’r holl Athrawon Newydd Gymhwyso (ANG) a gafodd Statws Athro Cymwysedig (SAC) o 1 Ebrill 2003 ymlaen gwblhau cyfnod sefydlu statudol.

Mae’r rhaglenni Datblygiad Proffesiynol Cynnar a’r radd Meistr mewn Addysg wedi dod i ben. Mae CGA yn dal i gadw cofnodion am yr arian a ryddhawyd mewn perthynas â’r rhaglen Datblygiad Proffesiynol Cynnar, ynghyd â manylion y rhai a gymerodd ran yn y rhaglen gradd Meistr a’r cymhwyster a ddyfarnwyd.

Ble yr ydym yn cael eich gwybodaeth

Caiff y wybodaeth yr ydym yn ei dal ei chasglu trwy ddulliau amrywiol gan gynnwys;

  • y Gofrestr Ymarferwyr Addysg
  • Gwaith papur sefydlu perthnasol gan gynnwys y Ffurflen Hysbysu Sefydlu, Ffurflen Hysbysu Athro Cyflenwi Byrdymor a’r Ffurflen Hawlio Cyllid Sefydlu
  • Gwybodaeth a ddarparwyd gan eich cyflogwr a all gynnwys eich ysgol, asiantaeth cyflenwi, Awdurdod Lleol neu gonsortia addysg rhanbarthol
  • Gwybodaeth a roesoch wrth gysylltu â CGA. Gall hyn fod yn gyfathrebu ysgrifenedig neu ar lafa
  • Nid ydym yn casglu unrhyw ddata ynghylch hil na chredau crefyddol.

Pa wybodaeth bersonol yr ydym yn ei chasglu

Er mwyn gweinyddu’r rhaglenni Sefydlu, gradd Meistr mewn Addysg a Datblygiad Proffesiynol Cynnar yng Nghymru, mae’n ofynnol inni ddal y wybodaeth ganlynol amdanoch;

  • Eich enw
  • Rhif Cyfeirnod Athro
  • Dyddiad geni
  • Manylion cyswllt gan gynnwys cyfeiriad cartref, cyfeiriad e-bost a rhif ffôn
  • Manylion cyflogaeth, gan gynnwys data cyfredol a hanesyddol
  • Manylion cymwysterau
  • Manylion am eich statws cofrestru gyda CGA, gan gynnwys data cyfredol a hanesyddol
  • Manylion am eich dewis iaith ar gyfer cwblhau’r broses sefydlu. Caiff y data hyn eu casglu er mwyn sicrhau y caiff Mentor Sefydlu ei ddyrannu i chi sy’n gallu eich cefnogi trwy’r broses sefydlu yn eich dewis iaith.

Sut yr ydym yn defnyddio’ch gwybodaeth

Mae CGA yn cyflawni nifer o weithgareddau gweinyddol mewn perthynas â’r rhaglenni sefydlu, Datblygiad Proffesiynol Cynnar a’r radd Meistr mewn Addysg, gan gynnwys:

  • cynnal ffynhonnell ganolog o ddata i athrawon sy’n cyflawni’r broses sefydlu, gan gynnwys cynnal cofnod o’u manylion cyflogaeth wrth iddynt gwblhau’r broses, cofnod o’r sesiynau a gwblhawyd, a manylion eu Mentor Sefydlu (MS) a’r Dilysydd Sefydlu (DS) a ddyrannwyd iddynt;
  • rhannu’r wybodaeth hon gyda phartïon eraill sy’n ymwneud â’r broses o ddarparu’r rhaglen sefydlu. Mae’r rhain yn cynnwys yr ANG, MS, DS a’r cydgysylltydd sefydlu yn yr awdurdod lleol (ALl)/consortia addysg rhanbarthol fel y Corff Priodol ar gyfer sefydlu;
  • gweinyddu cyllid sefydlu i ysgolion a chyllid ar gyfer darparu rôl y MS/DS i’r consortia addysg rhanbarthol, awdurdodau lleol a chyflogwr y MS/DS;
  • lletya a chynnig mynediad i’r Proffil Sefydlu statudol ar-lein trwy’r Pasbort Dysgu Proffesiynol. I gael gwybodaeth am sut caiff eich data eu defnyddio yn y pasbort, dylech gyfeirio at ein hysbysiad preifatrwydd sydd ar gael yma;
  • cyhoeddi tystysgrifau sefydlu ar sail y canlyniadau sefydlu a ddarperir gan y Corff Priodol;
  • tasgau gweinyddol eraill mewn perthynas â gweinyddu’r rhaglen sefydlu fel y gofynnir amdanynt gan Lywodraeth Cymru. Gellir rhannu data gyda’r unigolyn mae’n ofynnol iddo gwblhau’r broses sefydlu, ei gyflogwr a all gynnwys ysgol, asiantaeth cyflenwi neu Awdurdod Lleol, Llywodraeth Cymru a’r consortia addysg rhanbarthol;
  • cynnal manylion y rhai sydd wedi cymryd rhan yn y rhaglenni Datblygiad Proffesiynol Cynnar a’r radd Meistr mewn Addysg. Mae’r wybodaeth a ddelir yn cynnwys manylion y cyllid Datblygiad Proffesiynol Cynnar a ryddhawyd, a’r modiwlau a gwblhawyd a’r cymwysterau a enillwyd gan y rhai a gymerodd ran yn y rhaglen gradd Meistr mewn Addysg.

Pam mae ein defnydd o’ch data personol yn gyfreithlon

Y brif sail gyfreithiol yr ydym yn dibynnu arni i brosesu data personol yw erthygl 6(1)(e) o’r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data, sy’n caniatáu inni brosesu data personol pan fo angen hyn i gyflawni ein tasgau cyhoeddus fel rheoleiddiwr.

Caiff data ynghylch cyfranogiad unigolyn yn y rhaglenni Sefydlu, Datblygiad Proffesiynol Cynnar a’r radd Meistr mewn Addysg eu storio’n electronig ar Gofrestr Ymarferwyr Addysg CGA, a ddarperir gan MillerTech Ltd.

Er mwyn inni gyflawni ein tasg gyhoeddus mewn perthynas â sefydlu statudol yng Nghymru, rydym yn rhannu gwybodaeth gyda thrydydd partïon sydd hefyd yn chwarae rhan yn y rhaglen sefydlu. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • Mentoriaid Sefydlu
  • Dilyswyr Sefydlu
  • Cydgysylltwyr Sefydlu yn yr Awdurdod Lleol/ consortia addysg rhanbarthol
  • Llywodraeth Cymru
  • Cyflogwyr, gall hyn gynnwys ysgolion, asiantaethau cyflenwi neu Awdurdodau Lleol

Caiff y wybodaeth hon ei rhannu’n electronig trwy gyfleuster gwasanaethau ar-lein CGA. Dim ond yn ystod y cyfnod sefydlu bydd gan y partïon hyn hawl i weld eich gwybodaeth.

Os bydd angen inni gysylltu drwy e-bost â chi, eich MS, DS neu Gydgysylltydd Sefydlu ynghylch eich sefydlu, ac mae’r neges yn cynnwys gwybodaeth bersonol, caiff y neges ei hanfon drwy system Egress, sy’n feddalwedd i anfon negeseuon e-bost a throsglwyddo ffeiliau’n ddiogel.

Mae’n ofynnol inni ddarparu data ystadegol i Lywodraeth Cymru a rhanddeiliaid allweddol eraill mewn perthynas â’r rhaglen sefydlu yng Nghymru. Wrth gynhyrchu’r data a’u rhannu, rydym yn sicrhau nad oes modd adnabod unigolion a chaiff unrhyw ddata eu rhannu’n ddiogel yn unol â’n Polisi Rhannu Data.