Dewiswch eich iaith

Gwybodaeth preifatrwydd Cyngor y Gweithlu Addysg

Ffôn: 029 2046 0099 | E-bost: gwybodaeth@cga.cymru | Twitter: @ewc_cga

Mae’r tîm hefyd yn gweithredu fel yr ysgrifenyddiaeth ar gyfer Corff Adolygu Cyflogau Annibynnol Cymru. Mae’r ysgrifenyddiaeth yn hwyluso ymgynghoriad blynyddol y Corff Adolygu ar gyflogau ac amodau athrawon, ac yn cynnig cymorth gweinyddol i’r aelodau.

Ble yr ydym yn cael eich gwybodaeth

Rydym yn cael gwybodaeth bersonol mewn gwahanol ffyrdd, gan gynnwys:

  • Cysylltiad uniongyrchol – gall unigolion roi eu gwybodaeth bersonol inni trwy ohebu â ni drwy’r post, trwy e-bost, dros y ffôn neu fel arall.
  • Trydydd partïon neu ffynonellau sydd ar gael i’r cyhoedd – gallwn gael gwybodaeth bersonol unigolion oddi wrth drydydd partïon (gan ein hymgyngoreion yn adrodd ar gyflogau ac amodau athrawon).
  • Gallwn hefyd gael gwybodaeth o ffynonellau sydd ar gael i’r cyhoedd ac yn fewnol gan ein tîm data.

Pa wybodaeth bersonol yr ydym yn ei chasglu

Gall y math o ddata personol a ddelir ar gyfer aelodau Corff Adolygu Cyflogau Annibynnol Cymru gynnwys:

  • Enw
  • Cyfeiriad cartref
  • Cyfeiriad gweithle
  • Cyfeiriadau e-bost
  • Rhifau ffôn
  • Cofrestr Buddiannau’r Aelodau
  • Cip ar yrfa
  • Bywgraffiad byr
  • Gofynion deietegol
  • Gofynion hygyrchedd

Fel rhan o’r broses ymgynghori flynyddol, rydym yn cofnodi enwau a gwybodaeth gyswllt yr ymgyngoreion, yn ogystal â’u hymatebion.

Sut yr ydym yn defnyddio’ch gwybodaeth

Defnyddir y data personol a gasglwyd oddi wrth aelodau Corff Adolygu Cyflogau Annibynnol Cymru i hwyluso cyfarfodydd a bodloni safonau llywodraethu corfforaethol. Bydd angen inni rannu gwybodaeth bersonol fel enw a gofynion deietegol a gofynion hygyrchedd wrth logi llety a lluniaeth i aelodau.

Mae’r wybodaeth a gasglwyd oddi wrth yr ymgyngoreion yn cynorthwyo’r Corff Adolygu i wneud ymchwil a dadansoddi’r ymatebion, ac i gadw mewn cysylltiad ynghylch canlyniad yr ymgynghoriad.

Ar ddiwedd y broses ymgynghori, bydd y Corff Adolygu’n cyhoeddi adroddiadau yn esbonio ei ganfyddiadau a’i gasgliadau. Ni fydd y Corff Adolygu’n cynnwys unrhyw wybodaeth y gellir adnabod unigolion ohoni yn yr adroddiadau hyn, ond gall gynnwys dyfyniadau enghreifftiol o’r ymatebion i’r ymgynghoriad.

Ni fydd yr Ysgrifenyddiaeth yn datgelu eich gwybodaeth i drydydd partïon ond at ddibenion dilys y cawsoch eich hysbysu amdanynt oni bai ei bod yn ofynnol inni wneud fel arall am resymau cyfreithiol.

Ni fydd yr Ysgrifenyddiaeth yn trosglwyddo eich gwybodaeth i unrhyw bartïon eraill na’i defnyddio at unrhyw ddiben arall heb eich cydsyniad.

Pam mae ein defnydd o’ch data personol yn gyfreithlon

Y sail gyfreithiol ar gyfer hyn yw Erthygl 6(1)(C) o’r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data, sy’n ymwneud â phrosesu mae ei angen er mwyn cydymffurfio â rhwymedigaeth gyfreithiol yr ydym yn ddarostyngedig iddi.

Os yw’r wybodaeth a roddwch inni mewn perthynas â’ch ymholiad yn cynnwys data categori arbennig, fel gwybodaeth am iechyd, crefydd neu ethnigrwydd, y sail gyfreithiol rydym yn dibynnu arni i’w phrosesu yw erthygl 9(2)(g) o’r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data, sydd hefyd yn ymwneud â’n tasg gyhoeddus a diogelu eich hawliau sylfaenol. Ac Atodlen 1 rhan 2(6) o Ddeddf Diogelu Data 2018 sy’n ymwneud â dibenion statudol a llywodraethol.

Rydym yn llunio adroddiad blynyddol ar gyflogau ac amodau athrawon i Lywodraeth Cymru. Caiff y data eu prosesu ar y sail gyfreithiol ei fod yn angenrheidiol ar gyfer tasg gyhoeddus.

Pan rydym yn cyhoeddi ymchwil neu ystadegau, rydym yn defnyddio rheolaethau datgelu er mwyn gwneud yn siŵr na ellir adnabod unigolion o’r data.