Dewiswch eich iaith

Gwybodaeth preifatrwydd Cyngor y Gweithlu Addysg

Ffôn: 029 2046 0099 | E-bost: gwybodaeth@cga.cymru

Mae’r hysbysiad preifatrwydd hwn yn amlinellu sut rydym yn casglu, yn defnyddio ac yn diogelu’ch gwybodaeth bersonol yn gysylltiedig â’n cyfrifoldebau statudol o dan Orchymyn Cyngor y Gweithlu Addysg (Achredu Hyfforddiant Cychwynnol Athrawon) (Swyddogaethau Ychwanegol) 2017.

Mae gennym gyfrifoldeb statudol i:

  • Achredu rhaglenni Addysg Gychwynnol Athrawon (AGA)
  • Monitro bod rhaglenni achrededig yn cydymffurfio â meini prawf Llywodraeth Cymru
  • Tynnu achrediad rhaglenni yn ôl, lle bo angen

Pa Ddata Personol ydym ni’n ei gasglu, a pham

1. Data’n gysylltiedig ag Aelodau Bwrdd

Rydym yn casglu data personol i gefnogi gwaith y Bwrdd Achredu Addysg Gychwynnol Athrawon (Bwrdd Achredu AGA). Mae hyn yn cynnwys:

  • Enw llawn
  • Manylion cyswllt (cyfeiriad cartref, e-bost personol, rhif ffôn cyswllt)
  • CV a statws cyflogaeth (at ddiben cydnabyddiaeth ariannol a phrosesu cyllidol)
  • Cofrestru buddiannau
  • Gofynion dietegol a hygyrchedd (ar gyfer logisteg cyfarfodydd)

Diben Prosesu

Defnyddir y data hwn i:

  • Ategu penodi a sefydlu aelodau bwrdd, a’u cyfranogiad
  • Hwyluso’r gwaith o weinyddu cyfarfodydd bwrdd a hwyluso’u logisteg (e.e. trefnu teithio, llety, arlwyo)
  • Sicrhau ein bod yn cydymffurfio â safonau llywodraethu a safonau tryloywder
  • Prosesu honoraria neu daliadau treuliau, lle bo’n berthnasol

2. Data’n gysylltiedig â Phartneriaethau AGA

Wrth gyflawni ein cyfrifoldebau achredu a monitro, rydym yn derbyn gwybodaeth gan ddarparwyr AGA a sefydliadau partneriaeth. Gall hyn gynnwys:

  • Dogfennaeth rhaglenni ac achredu
  • Modelau ariannol (a all fod yn sensitif yn fasnachol)
  • Manylion cyswllt staff y bartneriaeth
  • CVs tiwtoriaid neu staff sy’n gysylltiedig â’r rhaglen

Diben Prosesu

Defnyddir y data hwn i:

  • Asesu cynigion rhaglenni AGA yn erbyn meini prawf achredu
  • Monitro cydymffurfedd parhaus ac ansawdd rhaglenni
  • Cynnal cofnodion o gysylltiadau sefydliadol
  • Cefnogi proses gwneud penderfyniadau’r Bwrdd Achredu AGA

O ble rydym yn cael eich gwybodaeth

Rydym yn casglu data trwy amrywiaeth o sianeli, gan gynnwys:

  • Ffurflenni cais (Aelodaeth Bwrdd, ceisiadau rhaglenni AGA)
  • Dogfennaeth a chyflwyniadau achredu
  • Gohebiaeth uniongyrchol gyda phartneriaethau neu unigolion

Sail gyfreithiol ar gyfer prosesu

Rydym yn prosesu data personol yn unol â’r canlynol:

  • Erthygl 6(1)(e) Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data (GDPR y DU) – Mae prosesu’n angenrheidiol er mwyn cyflawni tasg a gyflawnir er budd y cyhoedd neu wrth arfer awdurdod swyddogol
  • Erthygl 6(1)(c) – Mae prosesu yn angenrheidiol i gydymffurfio ag ymrwymiad cyfreithiol

Diffinnir ein swyddogaethau o dan:

  • Ddeddf Addysg (Cymru) 2014
  • Gorchymyn Achredu Hyfforddiant Cychwynnol Athrawon (Swyddogaethau Ychwanegol) 2017
  • Meini prawf a chanllawiau Llywodraeth Cymru

Lle darperir gwybodaeth sensitif yn fasnachol (e.e. modelau ariannol), caiff ei thrin yn gyfrinachol a dim ond at ddiben gweithgarwch achredu a monitro cydymffurfedd.

Rhannu Data

Gall data personol gael ei rannu lle bo’r angen gyda:

  • Staff mewnol sy’n cefnogi proses y Bwrdd Achredu AGA
  • Lleoliadau a darparwyr gwasanaethau (e.e. gwestai, arlwyo) ar gyfer digwyddiadau, gyda data cyfyngedig (e.e. enwau, gofynion deietegol/hygyrchedd)
  • Llywodraeth Cymru neu gyrff perthnasol eraill, yn unol â’n swyddogaethau statudol

Eich Hawliau a Chadw Data

Mae rhagor o wybodaeth am eich hawliau a chadw data ar gael ar dudalen ein hysbysiad preifatrwydd cyffredinol.