Dewiswch eich iaith

Gwybodaeth preifatrwydd Cyngor y Gweithlu Addysg

Ffôn: 029 2046 0099 | E-bost: gwybodaeth@cga.cymru | Twitter: @ewc_cga

Mae gan CGA gylch gwaith i ddarparu cyngor annibynnol er mwyn cefnogi’r gwaith o ddatblygu polisi addysg seiliedig ar dystiolaeth a’i roi ar waith yng Nghymru. Er mwyn cyflawni ein cylch gwaith, rydym yn cynnal ymchwil a gaiff ei chyhoeddi ar ein gwefan o bosibl neu ei chyflwyno yn un o’n briffiadau polisi y mae rhanddeiliaid ac ymarferwyr addysg yn eu mynychu.

Ble yr ydym yn cael eich gwybodaeth

Rydym yn cael gwybodaeth yn uniongyrchol oddi wrthych chi trwy eich cyfathrebiadau gyda ni a thrwy eich cyfranogiad gwirfoddol mewn gweithgareddau ymchwil fel cyfweliadau, holiaduron a grwpiau ffocws.

Pa wybodaeth bersonol yr ydym yn ei chasglu

Bydd y data personol yr ydym yn eu casglu fel arfer yn cynnwys y canlynol:

  • Enw
  • Cyfeiriad e-bost
  • Teitl swydd
  • Sefydliad

Sut yr ydym yn defnyddio’ch gwybodaeth

Mae gan CGA gylch gwaith i roi cyngor i wneuthurwyr polisi ac eraill ar faterion sy’n ymwneud â’r gweithlu addysg, addysgu a dysgu. Er mwyn cyflawni ein cylch gwaith, mae CGA yn cynnal ymchwil a gaiff ei chyhoeddi wedyn ar ein gwefan o bosibl, neu ei chyflwyno yn un o’n briffiadau polisi y mae rhanddeiliaid ac ymarferwyr addysg yn eu mynychu. Pan fyddwch yn cymryd rhan yn ein hymchwil cysylltiedig ag addysg, caiff unrhyw wybodaeth a gasglwyd ei defnyddio i wneud dadansoddiad ystadegol o’r data. Lle bo’n briodol, gall CGA gysylltu ymatebion â’r data a ddelir ar y Gofrestr Ymarferwyr Addysg er mwyn dadansoddi’r data yn ôl nodweddion eraill fel oedran a rhywedd. Pan gyhoeddir y wybodaeth, caiff ei chyflwyno ar lefel gyfanredol yn unig. Os yw’n fwriad gennym i rannu’r data â thrydydd parti, byddwn yn tynnu enwau o’r data ac yn hysbysu’r cyfranogwyr am hyn ar ddechrau’r ymchwil.

Pam mae ein defnydd o’ch data personol yn gyfreithlon

Er mwyn i’n defnydd ni o’ch data personol chi fod yn gyfreithlon, mae angen inni fodloni o leiaf un amod yn y ddeddfwriaeth diogelu data.

Mae CGA yn prosesu’ch data wrth gyflawni tasg gyhoeddus (wedi’i diffinio mewn cyfraith diogelu data) a gyflawnir er budd y cyhoedd o dan adran 7 o Ddeddf Addysg (Cymru) 2014 i roi cyngor i Weinidogion Cymru ynghylch materion perthnasol yn gysylltiedig â: safonau’r gwasanaethau a ddarperir gan bersonau cofrestredig; safonau ymddygiad personau cofrestredig; priodoldeb i ymarfer personau cofrestredig; rolau’r proffesiynau a gynrychiolir yn y categorïau cofrestru; statws pob un o’r proffesiynau hyn; hyfforddiant, datblygiad gyrfa a rheoli perfformiad personau cofrestredig; recriwtio a chadw personau cofrestredig ym mhob categori cofrestru; a’r cyflenwad o bersonau cofrestredig.