
Telerau ac Amodau Defnydd
Cyffredinol
- Mae'r tudalennau hyn yn caniatáu i chi gyrchu gwybodaeth a gedwir ar Gofrestr Athrawon CGA. Mae CGA yn cymryd pob cam rhesymol i sicrhau dibynadwyedd y data sydd ar gael drwy'r tudalennau hyn ond ni ellir rhoi sicrwydd ynghylch ei gywirdeb. Nid yw'r wybodaeth yn gyfystyr ag unrhyw fath o gyngor neu argymhelliad
- CGA yw'r rheolwr data ar gyfer data personol a gesglir ar y wefan hon. Caiff yr wybodaeth sydd ar gael drwy'r wefan hon ei rheoli yn unol â rhwymedigaethau CGA o dan Ddeddf Diogelu Data 2018
- Mae'r wefan hon yn cynnwys deunydd sy'n eiddo i neu wedi'i drwyddedu i GyngACC. Mae'r deunydd hwn yn cynnwys, ond nid yw'n gyfyngedig i gynllun, gosodiad, ymddangosiad a graffeg. Caiff ei ddiogelu gan ddeddfau eiddo deallusol gan gynnwys, ond nid yn gyfyngedig i hawlfraint
I'r cyhoedd
- Gellir copïo neu atgynhyrchu cofnodion sydd ar gael drwy'r safle hwn at ddefnydd preifat neu fewnol ond ni chaniateir dosbarthu unrhyw gopïau neu atgynyrchiadau o'r fath heb ganiatâd CGA ymlaen llaw
I athrawon
- Dim ond athrawon sy'n meddu ar statws cofrestru llawn gyda ChyngACC gaiff gyrchu'r safle hwn.
- Unwaith i chi gofrestru'ch manylion gyda ni a derbyn enw defnyddiwr a chyfrinair, cewch ddefnyddio'r safle hwn i gyrchu gwybodaeth yn ymwneud â'ch cofnod ar y Gofrestr Athrawon.
- Pan yn defnyddio'r safle hwn dylech fod yn ymwybodol y gallem gofnodi gwybodaeth ynghylch eich defnydd at ddibenion monitro.
- Drwy ddefnyddio'r wefan hon rydych yn rhoi caniatâd i'ch gwybodaeth bersonol gael ei chasglu a'i defnyddio at y dibenion hyn
- Chi sy'n gyfrifol am ddiogelu eich cyfrinair a'ch enw defnyddiwr ac ni chewch eu rhannu neu eu datgelu i neb arall
- Cewch argraffu eich cofnod ar y Gofrestr at ddefnydd personol
- Drwy ddefnyddio’r wefan hon, rydych yn caniatáu i’r Cyngor gysylltu â chi gan ddefnyddio eich cyfeiriad e-bost cofrestredig at unrhyw bwrpas sy’n berthnasol i waith y Cyngor
I AALlau, ysgolion ac asiantiaid.
- Mae eich defnydd o'r safle hwn yn ddarostyngedig i amodau ar wahân a gytunwyd rhyngoch chi a ChyngACC
- Drwy gyrchu'r safle hwn a chael gwybodaeth a gedwir ar y Gofrestr Athrawon, cewch ddefnyddio gwybodaeth o'r fath at ddibenion canfod addasrwydd athro i'w gyflogi yn unig (neu barhau i'w gyflogi)
- Ni ddylech ddatgelu gwybodaeth a gyrchir drwy'r tudalennau hyn i unrhyw berson heblaw'r athro neu'r athrawes y mae'r wybodaeth yn gysylltiedig ag ef neu hi
- Chi sy'n gyfrifol am ddiogelwch eich cyfrinair a'ch enw defnyddiwr eich hun ac ni ddylech eu rhannu neu eu datgelu i neb arall. Gallai CGA gofnodi gwybodaeth am eich defnydd o'r wefan hon at ddibenion monitro a thrwy ddefnyddio'r wefan hon rydych yn caniatáu i'ch cofnod cyrchu gael ei gasglu a'i ddefnyddio at y diben hwn
I GyngACau eraill
Caiff CyngACau eraill ddefnyddio'r wybodaeth a gesglir drwy gyrchu'r safle hwn at ddiben cyflawni eu swyddogaethau yn unig neu at unrhyw ddiben arall o'r fath fel y cytunir gyda CGA.