Cyngor y Gweithlu Addysg

Ffôn: 029 2046 0099 | E-bost: gwybodaeth@cga.cymru | Twitter: @ewc_cga | Linkedin

pencil graph
Emma - Challenges of engaging in research


Jackson Emma Professional PhotoMae Emma yn athro Saesneg ac mae wedi addysgu mewn ysgol uwchradd yng nghymoedd De Cymru dros y pum mlynedd diwethaf. Mae Emma yn rhan o'r garfan gyntaf o fyfyrwyr Meistr mewn Ymarfer Addysgol ac fe raddiodd hi yng Gorffennaf 2016 gyda rhagoriaeth.

Fy mhenderfyniad

Nid penderfyniad ffwrdd-â-hi oedd hwn. Roedd rhai pobl yn teimlo mai camgymeriad fyddai astudio ar gyfer cymhwyster heriol yn fy mlwyddyn gyntaf o ddysgu, sy’n ddigon prysur fel mae hi, yn ystod tymor arolygiad.

Ar y llaw arall, roeddwn i’n poeni am y symudiad o amgylchedd llawn ymchwil, cymorth a rhwydweithio fy nghymhwyster TAR, i fyd gwaith proffesiynol. Roeddwn i’n gwybod fy mod eisiau parhau i rannu ymarfer arloesol, ac roeddwn i wedi mwynhau gwneud hynny fel rhan o griw agos o athrawon dan hyfforddiant. Felly, byddai’r radd Meistr yn caniatáu sgyrsiau agored, cyfrinachol ac anfeirniadol am bryderon pedagogaidd.

Roeddwn i’n teimlo fel petai gen i gyfrifoldeb, er mwyn fy nisgyblion, i sicrhau fy mod yn creu cyfleoedd i ddatblygu fy ffordd o addysgu, a dyma oedd y radd Meistr mewn Ymarfer Addysgol yn ei addo.

Dyma bum rheswm pam y byddwn yn eich argymell yn gryf i wneud gwaith ymchwil wrth addysgu.

1. Mae’n arbed amser

Un o’r prif gamsyniadau oedd gen i am wneud gwaith ymchwil addysgol wrth ddechrau fy ngyrfa fel athrawes, oedd y byddai un yn cael effaith wael ar y llall. Fodd bynnag, mae athrawon yn ymchwilwyr naturiol. Er bod hyn yn baradocs, mae addysgu yn fath o ymchwilio. Gyda phob cynllun, gwers a sgwrs yn yr ystafell staff, rydych yn ymchwilio i’r hyn sy’n gweithio orau i’ch disgyblion, a beth sy’n ehangu ac yn rhoi sbardun i’w cynnydd. Er bod y radd Meistr yn fwy ffurfiol a thrylwyr na myfyrio ar eich gwersi pan fydd y gloch yn canu ar ddiwedd y diwrnod ysgol, roedd yr egwyddor yr un fath. Rhaid i chi fyfyrio’n weithredol i fod yn athro neu’n athrawes effeithiol.

Er enghraifft, roeddwn i’n gweld eisiau’r athro profiadol yn eistedd yng nghefn yr ystafell yn ystod fy hyfforddiant, a fyddai’n amlygu pam nad oedd rhai pethau mor llwyddiannus â’r disgwyl, a sut gallwn wella. Roeddwn i wedi cynefino â chael ‘ffrind beirniadol’, ac roeddwn i’n dechrau mynd yn ddibynnol ar ei adborth er mwyn datblygu, yn ogystal â chael cysur.

Mae ymchwil wedi fy nysgu i fod yn ffrind beirniadol i fi fy hun. Rhoddodd y cymhwyster y grym i fi fyfyrio’n systematig ar fy ngwersi, a datrys problemau mewn ffordd fwy hyderus, gwrthrychol, effeithlon a moesegol. Er enghraifft, yn ystod blwyddyn gyntaf y radd Meistr, roeddwn i’n addysgu disgybl oedd yn tarfu ar y wers yn ystod y cyfnod trosglwyddo rhwng dwy dasg. Roedd gwybod bod modd i fi weithio trwy atebion posibl mewn ffordd systematig ar ôl dychwelyd adref yn golygu y gallwn gynnal agwedd hyderus a chadarnhaol yn yr ystafell ddosbarth, heb gynhyrfu.

Hefyd, rwyf o’r farn mai'r mwyaf trylwyr yw’r gwaith ymchwil, y mwyaf ystyrlon yw’r darganfyddiadau. Er enghraifft, roedd fy mhrosiect ymchwilio gweithredol (traethawd estynedig) yn astudiaeth oedd yn canolbwyntio ar ‘ysfa broffesiynol’. Roeddwn i eisiau gwybod pam nad oedd fy nosbarth Blwyddyn 8 yn talu sylw i’m hadborth ysgrifenedig yn ymwneud â sillafu. Dros gyfnod o chwe mis, rhoddais gyd-destun i’r mater. Es i ati i archwilio’r rhwystrau rhag dysgu, fel ymgysylltu, pwysigrwydd ymddangosiadol a pherthynas yr athro â’r dosbarth, yn ogystal â nifer o ffactorau eraill. Casglais ddata rheoli, a rhoi cynnig ar dair strategaeth i ddal eu sylw yn fwy effeithiol, a rhoddais bŵer i’r disgyblion trwy eu galluogi i gyfrannu i’m hymchwil moesegol. Gweithiais gyda’r disgyblion i edrych ar sut maen nhw’n dysgu’n effeithiol. O ganlyniad i hyn, roedden nhw’n dysgu, ac yn parhau i ddysgu, yn fwy effeithiol.

Rwy’n falch iawn fy mod wedi gwneud y penderfyniad hwnnw, oherwydd daeth i’r amlwg yn gyflym iawn nad oedd llawer o wirionedd i’r camsyniad y byddai ymchwil yn ‘ormod o waith’. Yn eironig, mae ymchwil wedi fy atal rhag gwneud gwaith diangen.

2. Pa mor berthnasol yw ymchwil

Rheswm arall dros annog ymarferwyr addysgol i wneud gwaith ymchwil yw bod y canlyniadau yn cael eu teilwra ar eich cyfer chi. Yn ystod fy nghwrs TAR, roeddwn i wedi hen arfer darllen llyfrau am addysgu ‘nodedig’, a fyddai’n gwrth-ddweud ei gilydd yn aml, neu, mewn rhai achosion, yn ymddangos yn ddelfrydol ar gyfer y maes yr oedd gen i ddiddordeb ynddo. Yna, roeddent yn colli perthnasedd pan fyddwn i’n gweld bod y syniadau hyn yn seiliedig ar gyfnod addysg gwahanol, neu mewn gwlad wahanol, hyd yn oed.

Efallai nad oes gan fy ymchwil gasgliadau eang, cyffredinol y gellir eu hailadrodd, o’u cymharu â dadansoddiadau ystadegol trylwyr o gwmpas y byd, ond rydw i’n meddwl bod fy nghanlyniadau yn arwyddocaol ac yn ddilys dros ben, oherwydd eu bod wedi taflu goleuni ar agweddau o’m disgyblion i.

Mae ymchwil gan athrawon yn unigryw oherwydd bod gan yr athro/athrawes ddylanwad anochel ac anorfod dros y canlyniadau. Mae pob plentyn yn dod â set unigryw o amgylchiadau a nodweddion, sy’n gallu newid o ddydd i ddydd. Fodd bynnag, yr hyn a wnaeth fy ymchwil yn werth chweil oedd gweld fy nisgyblion fel unigolion ar wahân, yn hytrach na phrofi hypothesis sy’n berthnasol i bawb.

Hefyd, mae’r ymchwil yn cyd-fynd â blaenoriaethau cenedlaethol Llywodraeth Cymru, sef gwella safonau llythrennedd, rhifedd a chau’r bwlch rhwng tlodi a chyrhaeddiad. Roeddwn i’n falch iawn o allu rhannu fy syniadau am bob un o’r meysydd hyn yn y cyfarfod gyda’r adran, gan wybod fy mod wedi gwneud astudiaethau wedi’u ffocysu ar bob elfen yn yr ysgol rwyf wedi fy nghyflogi ynddi. Roeddwn i’n gwybod fy mod wedi profi gwahanol strategaethau ystyrlon y gellid eu mabwysiadu. Un o’r cyflawniadau rwyf yn ymfalchïo ynddo fwyaf yw gallu cydweithio’n agos â chydweithwyr er mwyn addasu a gwella polisi marcio trawsgwricwlaidd yn yr ysgol gyfan. Bellach, mae’n cynnwys ‘Dyddiaduron Sillafu’, ac mae hyn wedi gwella cysylltiad y disgyblion ag adborth ysgrifenedig ar sillafu yn sylweddol, fel y nodwyd yn flaenorol.

3. Rhwydweithio

Roeddwn i wir yn gwerthfawrogi cymorth y bobl eraill oedd yn dilyn y radd Meistr gyda fi. Mae eu cymorth ymarferol a damcaniaethol yn parhau i fod yn amhrisiadwy o ran rhoi tawelwch meddwl a chynllunio ar y cyd. Rwy’n teimlo y gallaf fod yn onest gyda nhw am fy ngwendidau fel athrawes, oherwydd, yn wahanol i’r ysgol sy’n fy nghyflogi, nid ydynt yn asesu fy mherfformiad. Maen nhw yno i rannu arfer gorau a lleddfu pryderon mewn fforwm cyfrinachol ac adeiladol.

Yn ogystal, mae ymchwil addysgol yn helpu addysgwyr i edrych ar y darlun mawr wrth ystyried cynnydd disgyblion. Mae perygl y bydd ysgolion yn troi’n llefydd ynysig a hunangynhwysol os na wneir cysylltiadau rhwng carfanau â buddiant.

Trwy gydol fy mhrofiadau, gallaf weld bod addysg, fel bywyd plentyn, yn gontinwwm y mae angen ei gynnal yn ystod pob carreg filltir, ni waeth pa mor fach. Er enghraifft, fel athrawes uwchradd, rwyf yn gwbl ymwybodol fy mod yn un rhan o bos sy’n ffurfio profiad addysgol plentyn. Mae gennyf gyfrifoldeb i ddarganfod beth sy’n digwydd mewn ysgolion cynradd yn ogystal â chyfnodau hwyrach addysg. Nid oes ffordd well o wneud hyn na chwrdd ag athrawon o wahanol gyfnodau addysg. Mae ymchwil addysgol yn eich gorfodi i ddod i gysylltiad ag ymarferwyr ym mhob maes, gan gynnwys staff cymorth, rhieni a’r rhai sy’n creu polisïau, er mwyn sicrhau bod anghenion plant yn cael eu bodloni ar bob cam, a bod rhanddeiliaid mewn addysg yn cydlynu â’i gilydd.

4. Hyder

Mae un thema yn sail i bob un o’r rhesymau y soniwyd amdanynt hyd yma – mwy o hyder. Mae ymgymryd ag ymchwil a chysylltu â’r maes yn golygu bod fy hyder i a hyder y disgyblion wedi cynyddu yn y pen draw. Gallaf fod yn hyderus fy mod yn gallu myfyrio ar broblemau mewn modd effeithiol, a’u datrys yn ystyrlon.

Mae’r agwedd hyderus hon yn mynd y tu hwnt i ganlyniadau’r ymchwil, ac yn amlygu ei hun mewn disgyblion hapus sy’n gwneud cynnydd ym mhob gwers, ac athrawes sy’n cyflwyno gwersi gyda hunangred a hunanddibyniaeth. Mae hyn yn treiddio i’m canlyniadau, ond bellach rwy’n gweld y rhain fel dim mwy na sgileffaith fy hyder newydd.

5. Cynnydd y disgyblion

Mae fy natblygiad wedi helpu fy nisgyblion i wneud cynnydd mewn sawl ffordd; sampl fach yn unig yw’r enghreifftiau ymarferol uchod.

Byddai rhai pobl yn dadlau y byddaf wedi dysgu’r syniadau hyn ar ryw adeg yn ystod fy ngyrfa beth bynnag, ac efallai bod hynny’n wir. Fodd bynnag, tybed pa fath o athrawes fyddwn i pe na bawn i wedi gwneud? Mae’r ansicrwydd hwn yn gwneud i fi eisiau parhau i ymchwilio: i bennu pa fath o athrawes y gallwn i fod wrth astudio ymhellach. Rwyf yn anghytuno â rhai sy’n gweld athrawon sy’n ymchwilio fel pobl hunangeisiol. Dilynais y radd Meistr er mwyn gwella canlyniadau, cyfleoedd a chynnydd fy nisgyblion, ac nid oes amheuaeth nad yw hyn wedi cael ei gyflawni yn y pedair blynedd ddiwethaf. Rwyf yn bwriadu parhau â’r ymchwil wrth addysgu; mae’r ddau yn gysyniadau sy’n cyd-fynd â’i gilydd, wedi’r cyfan.

Ar y cyfan, rwyf yn ddiolchgar dros ben i Lywodraeth Cymru am ariannu cymhwyster gwerth chweil, sy’n parhau i ehangu ar fy ymarfer proffesiynol. Rwyf wir yn argymell ymchwilio ochr yn ochr ag addysgu. Roedd yn waith caled iawn, ond economi ffug fyddai peidio â chymryd rhan ynddo, oherwydd bydd yn talu ar ei ganfed i’ch disgyblion.