Arolwg cenedlaethol o’r gweithlu addysg 2021
Mae arolwg wedi cychwyn. Dyma gyfle i chi ddweud eich dweud ar faterion sydd yn bwysig i chi; eich llwyth gwaith, Covid-19, llesiant a dysgu proffesiynol. Cwblhau'r arolwg.
Arolwg cenedlaethol o’r gweithlu addysg 2016
Cynhaliwyd yr arolwg gan Gyngor y Gweithlu Addysg (CGA) ar ran Llywodraeth Cymru rhwng 31 Hydref 2016 a 9 Ionawr 2017. Lluniwyd y cwestiynau a’r arolwg gan CGA mewn cydweithrediad â swyddogion Llywodraeth Cymru, gyda mewnbwn nifer o undebau masnach.
Gwahoddwyd holl gofrestreion CGA i gwblhau’r arolwg ar-lein. Roedd holiaduron ar wahan ar gyfer:
- athrawon addysg bellach
- gweithwyr cymorth dysgu addysg bellach
- athrawon ysgol
- athrawon cyflenwi ysgol
- gweithwyr cymorth dysgu ysgol
- gweithwyr cymorth dysgu cyflenwi ysgol
Fe gawsom 10,408 ateb (14.4%). Gallwch ddarllen yr adroddiad llawn yma . Ceir copi o'r rhagair a chopïau o bob holiadur yn atodiadau B - H sydd ar gael yma .
Diolch i’r cofrestreion a dreuliodd amser i gwblhau’r arolwg.