Os yw ymarfer seiliedig ar dystiolaeth o ddiddordeb i chi, gallwch gael at EBSCO drwy eich PDP. Dyma gronfa ddata fwyaf y byd o ymchwil testun llawn ar gyfer gweithwyr addysg proffesiynol ac mae’n cwmpasu pob lefel addysg ac arbenigedd.
Gall cofrestreion gael at becyn Education Source a chasgliad eLyfrau addysg EBSCO. Mae’r ddau adnodd yn tyfu’n gyson ac yn cynnwys:
- bron i 2,000 o gyfnodolion testun llawn
- crynodebau ar gyfer dros 3,500 o gyfnodolion
- dros 530 o lyfrau testun llawn
- dros 2,500 o bapurau cynhadledd testun llawn, sy’n gysylltiedig ag addysg
- cyfeiriadau ar gyfer dros 6 miliwn o erthyglau, gan gynnwys adolygiadau o lyfrau
I gael at EBSCO yn eich PDP, cliciwch ar yr opsiwn ‘help ac adnoddau’ ar ddangosfwrdd eich PDP.
Mae nifer o gadwrfeydd a chronfeydd data ffynhonnell agored sy’n cynnig mynediad i erthyglau cyfnodolion, llyfrau a thraethodau ymchwil.
Porth Ymchwil Aberystwyth - Porth Ymchwil Aberystwyth yw ystorfa ymchwil sefydliadol Prifysgol Aberystwyth.
Cardiff Metropolitan Research Repository (DSpace) - DSpace yw ystorfa sefydliadol Prifysgol Metropolitan Caerdydd sy'n rhoi mynediad i holl allbwn ymchwil ac ysgolheigaidd arall y Brifysgol.
Cronfa - Cronfa yw ystorfa ymchwil sefydliadol Prifysgol Abertawe.
Digital Education Resource Archive (DERA) - DERA dyma ystorfa o ddogfennau a gyhoeddir yn electronig gan y llywodraeth a sefydliadau eraill ym maes addysg, hyfforddiant, plant a theuluoedd.
Directory of Open Access Books - Mae DAOB yn hwyluso'r broses o chwilio am lyfrau Mynediad Agored.
Directory of Open Access Journals - Cyfeiriadur ar-lein mewn mynegai yw DOAJ sy'n rhoi mynediad i siwrnalau mynediad agored sydd wedi eu hadolygu gan gydweithwyr.
ERIC Institute of Education Services - Llyfrgell ar-lein o ymchwil a gwybodaeth addysg a noddir gan yr Institute of Education Sciences (IES) o Adran Addysg yr UDA yw ERIC.
GwaithIeuenctidCymru – GwaithIeuenctidCymru yw’r adnodd gwybodaeth blaenllaw ar gyfer gwaith ieuenctid yng Nghymru. Nod y wefan yw darparu amrywiaeth o wybodaeth hanesyddol a chyfredol i ymarferwyr, myfyrwyr a rheolwyr gwaith ieuenctid yng Nghymru a fydd yn helpu i ddatblygu meddwl ac ymarfer.
Llyfrgell Ymchwil Meistr mewn Ymchwil Addysgol - Dyma gasgliad chwiliadwy o brosiectau dosbarth a arweinir gan athrawon a gynhaliwyd fel rhan o'r Meistr mewn Ymarfer Addysgol (MYA).
Ystorfa Ymchwil Prifysgol Monash - Mae'r ystorfa, a chasgliad papurau'r Gyfadran Addysg yn benodol, yn archif digidol mynediad agored o gyhoeddiadau ymchwil y gellir eu lawrlwytho.
Llyfrgell OAPEN - Mae Llyfrgell OAPEN yn cynnwys llyfrau academaidd y mae modd eu cyrchu am ddim, yn bennaf ym maes dyniaethau a gwyddorau cymdeithasol.
MESH - Nod MESH yw cysylltu addysgwyr â chrynodebau a ffynonellau ymchwil addysgol.
Open Book Publishers - Mae OBP yn cyhoeddi ymchwil academaidd mynediad agored o ansawdd uchel yn y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol.
OpenDOAR - Mae Open DOAR yn gyfeiriadur o ystorfeydd academaidd mynediad agored.
ORCA - Ystorfa ddigidol o holl allbwn ymchwil Prifysgol Caerdydd yw ORCA. Mae testun llawn cyhoeddiadau ar gael am ddim lle'n bosibl.
ORO –Ystorfa'r Brifysgol Agored yw Open Research Online (ORO) sy'n cynnwys dros 30,000 o allbynnau ymchwil.
Springer Open - Mae Springer Open yn cynnig lle i ymchwilwyr o feysydd gwyddoniaeth, technoleg, meddygaeth, y dyniaethau a'r gwyddorau cymdeithasol i gyhoeddi siwrnalau a llyfrau mynediad agored.
Y Gyfnewidfa Ddysgu –Dyma wefan a letyir gan CGA sy'n darparu ymarferwyr â mynediad i gronfa ddata chwiliadwy o gyfleoedd dysgu rhanbarthol, cenedlaethol a rhyngwladol ar gyfer pynciau STEM, TGCh a phynciau Cyfrifiadureg.
Cylchgrawn Addysg Cymru - Cyfnodolyn Mynediad Agored, dwyieithog sy’n cyhoeddi ymchwil lleol a rhyngwladol ar bolisi ac ymarfer addysg yng Nghymru, o dan adrannau academaidd ac ymarferwyr.
Wiley Open - Mae Mynediad Agored Widely yn rhaglen o siwrnalau mynediad agored llawn.
- Yn gyffredinol, mae deunydd ymchwil ar gael yn yr iaith y cafodd y gwaith ei gyflwyno'n wreiddiol.
- Nid yw Cyngor y Gweithlu Addysg yn gyfrifol am gynnwys y dolenni allanol.
- Gwneir pob ymdrech i gynnal cywirdeb yr wybodaeth yn y tudalennau hyn, fodd bynnag, gall pethau newid o bryd i'w gilydd. Os ydych chi'n darganfod unrhyw ddolenni sydd ddim yn gweithio neu'n ymwybodol o unrhyw ddolenni eraill ddylid eu cynnwys ar y wefan hon, rhowch wybod i ni: Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.