Yn dilyn adborth gan ein cofrestreion, rydym wedi creu adran ymchwil i gefnogi ymarferwyr a allai fod yn ystyried ymgymryd ag ymchwil yn gysylltiedig ag ymarfer. Mae cyfoeth o adnoddau ar gael yma i’ch helpu i ddechrau.
Os oes gennych unrhyw awgrymiadau ar gyfer unrhyw ddeunydd ychwanegol a fyddai o gymorth i chi, rhowch wybod i ni Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.
Dechrau gwaith ymchwil
Bydd ein hadnoddau newydd a luniwyd gan Dr Andrew Davies o Brifysgol Aberystwyth a Dr Jane Waters o Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn eich helpu i ddechrau ar waith ymchwil. Dysgwch am rai o’r pethau allweddol y mae angen i chi eu hystyried wrth gynllunio’ch prosiect ymchwil, fel methodoleg ymchwil, cynnal adolygiad o lenyddiaeth, dod i gasgliadau a moeseg ymchwil.
Moeseg ymchwil
Mae ein hadnoddau moeseg ar gael yma, a luniwyd gan Dr Jane Waters a’i thîm ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant. Lluniwyd deunydd fideo cysylltiedig â chymorth Ysgol yr Olchfa.
Canllawiau ymchwil
Rydym wedi llunio nifer o ganllawiau ‘sut i’ defnyddiol i’ch tywys drwy’r broses o ysgrifennu adroddiad ymchwil a sefydlu clwb cyfnodolyn.
Mynediad i adnoddau
Mae nifer o gadwrfeydd a chronfeydd data ffynhonnell agored sy’n cynnig mynediad i erthyglau cyfnodolion, llyfrau a thraethodau ymchwil. Cymerwch olwg ar y rhest hon o wefannau defnyddiol i’ch helpu.
There are a number of open source repositories and databases that offer access to journal articles, books and theses. We’ve listed a number of useful sites [link to page] to help you.