Yn 2019, dechreuom adolygiad o dystiolaeth am amrywiaeth ethnig o fewn y gweithlu ysgolion yng Nghymru, ar ran Llywodraeth Cymru. Adroddom ein canfyddiadau i Lywodraeth Cymru ym mis Mai 2020, gan gynnwys rhestr o syniadau polisi er mwyn helpu i wneud y gweithlu ysgolion yng Nghymru’n fwy amrywiol.
Darllen ein hadroddiad ar gynrychiolaeth lleiafrifoedd ethnig o fewn y gweithlu ysgolion yng Nghymru o Fai 2020.
Beth ddywedodd y dystiolaeth?
Archwiliodd ein hymchwil y graddau y mae’r gweithlu ysgolion yng Nghymru yn cynrychioli poblogaeth ehangach y wlad o ran ethnigrwydd.
Er bod nifer yr athrawon a chynorthwywyr addysgu o gymunedau Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol sy’n gweithio yn ysgolion Cymru wedi cynyddu dros y blynyddoedd diwethaf, canfuom fod amrywiaeth ethnig yn y proffesiwn wedi methu cadw i fyny â’r newidiadau yng nghyfansoddiad cymdeithasol Cymru.
Hefyd, edrychodd ein hymchwil ar arfer orau o fannau eraill yn y Deyrnas Unedig ac o broffesiynau eraill, lle y defnyddiwyd gwahanol strategaethau i gynyddu amrywiaeth y gweithlu. Helpodd hyn i ni ddatblygu cyfres o syniadau polisi (i Lywodraeth Cymru eu hystyried), er mwyn helpu i wneud gweithlu ysgolion Cymru yn fwy amrywiol o lawer.
Dod o hyd i ffordd ymlaen: gwrando ar bartneriaid
Ddiwedd 2020, dechreuom siarad ag ymarferwyr, rhanddeiliaid a sefydliadau sy’n cynrychioli cymunedau amrywiol i adeiladu ar ein canfyddiadau yn ein hadroddiad cam dau ac i ddatblygu cyfres derfynol o argymhellion i Lywodraeth Cymru.
Cyfarfuom â llawer o sefydliadau ac unigolion a fu’n hael iawn yn rhannu’u barn ar y materion a godwyd ac ar y syniadau polisi a amlinellom yn ein hadroddiad yn 2020.
Hefyd, cynhaliom gyfres o grwpiau ffocws gydag ymarferwyr a rhanddeiliaid Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol. Ein nod trwy’r grwpiau ffocws hyn oedd dysgu am:
- eu profiadau bywyd o’r system addysg yng Nghymru
- eu barn am yr hyn y mae angen ei wneud i wneud y gweithlu ysgolion yn fwy amrywiol.
Helpodd y cipolygon a gawsom o wrando ar eraill i ni ddatblygu ein hargymhellion ymhellach. Cyflwynom yr argymhellion hynny i Lywodraeth Cymru yng Ngorffennaf 2021, ac maent wedi llywio cynllun gweithredu ar gynyddu amrywiaeth ethnig y gweithlu ysgolion yng Nghymru.
Cysylltu â ni
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y gwaith hwn, Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld..