Mae’r ymchwil a luniwn yn helpu i sicrhau bod polisi addysg yng Nghymru wedi’i seilio ar dystiolaeth. Mae rhywfaint o’r ymchwil wedi’i wneud gennym ni, ond rydym hefyd yn comisiynu gwaith ymchwil.
Ymchwil bresennol
Cynyddu amrywiaeth o fewn y gweithlu ysgolion yng Nghymru
Yn 2019-21, fe gynhaliom brosiect ymchwil ynghylch ar ran Llywodraeth Cymru i gynyddu amrywiaeth ethnig y gweithlu ysgolion yng Nghymru. Dysgu rhagor am y prosiect
Adolygiad o'r safonau proffesiynol ar gyfer AB a dysgu seiliedig ar waith
Yn 2020-21, fe gynhaliom adolygiad o’r safonau proffesiynol ar gyfer athrawon addysg bellach ac ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith yng Nghymru. Dysgu rhagor am y prosiect
Adroddiadau ymchwil
Cynrychiolaeth lleiafrifoedd ethnig o fewn y gweithlu ysgolion yng Nghymru
Yn 2019, cawsom ein comisiynu gan Lywodraeth Cymru i gynnal adolygiad o dystiolaeth am amrywiaeth ethnig y gweithlu ysgolion yng Nghymru.
2019-20
Ar ddechrau 2020, ddechreuon ni adolygu'r data yn gysylltiedig ag amrywiaeth y gweithlu ysgolion yng Nghymru ac i ba raddau yr oedd yn cynrychioli poblogaeth ehangach y wlad. Hefyd, archwiliom enghreifftiau o arfer orau (o ardaloedd eraill yn y DU ac o broffesiynau eraill) i ystyried pa gamau y gellid eu cymryd i wneud y gweithlu’n fwy amrywiol yn ethnig.
Llywiodd y wybodaeth a gasglwyd gyfres o syniadau polisi i Lywodraeth Cymru eu hystyried.
Darllen ein hadroddiad o Fai 2020
2020-21
Gan adeiladur ar ganfyddiadau ein hadroddiad blaenorol yn 2020, bu i ni gyfarfod ag amrywiaeth o ymarferwyr, rhanddeiliaid a sefydliadau sy'n cynrychioli cymunedau amrywiol yng Nghymru er mwyn datblygu cyfres o argymhellion terfynol i Lywodraeth Cymru.
Bu i'r mewnwelediad a enillom trwy wrando ar eraill ein cynorthwyo wrth ddatblygu ymhellach y syniadau polisi o'n hadroddiad o Fai 2020 ac fe gyflwynom ein hargymhellion i Lywodraeth Cymru yng Ngorffennaf 2021.
Darllen ein hadroddiad o Orffennaf 2021
Y Dull Cenedlaethol ar gyfer Dysgu Proffesiynol: Y Cyfuniad Dysgu Proffesiynol 2.0
Yn 2019, cafodd CGA ei gomisiynu gan Lywodraeth Cymru i gynnal ymchwil yn archwilio modelau dysgu proffesiynol. Adeilada'r adroddiad hwn ar ymchwil flaenorol a gynhaliwyd gennym yn 2018 (gweler isod) ac mae'n ystyried sut y gellid sicrhau argaeledd ystod eang o gyfleoedd dysgu proffesiynol yn fwy cyson dros Gymru gyfan, gan uchafu'r effaith gadarnhaol ar broffesiynolion addysg a'u dysgwyr a chefnogi'r Dull Cenedlaethol ar gyfer Dysgu Proffesiynol.
Darllen ein hadroddiad ar y Dull Cenedlaethol ar gyfer Dysgu Proffesiynol: Y Cyfuniad Dysgu Proffesiynol 2.0
Y Dull Cenedlaethol ar gyfer Dysgu Proffesiynol: Y Cyfuniad Dysgu Proffesiynol
Lansiwyd y dull gweithredu cenedlaethol yn 2018, gyda gweledigaeth dysgu proffesiynol sy’n addas ar gyfer y system addysg Cymru wrth iddi esblygu. I gyfoethogi’r sail gwybodaeth ar gyfer y model ymddangosol, comisynodd Llywodraeth Cymru prosiectau ymchwil graddfa fach sy’n canolbwyntio ar y dull cenedlaethol a’i elfennau.
Ym Mehefin 2018, comisiynwyd CGA i ganolbwyntio ar y cyfuniad dysgu proffeisynol, sef un o wyth elfen sy’n rhan o’r model. Mae’r papur hwn yn un o’r rhain ac mae’n defnyddio adolygiad o lenyddiaeth a chyfweliadau â phobl allweddol i fynd i’r afael â’r ffyrdd y gallai’r ‘Cyfuniad Dysgu Proffesiynol’ alluogi’r model newydd i gael ei weithredu’n effeithiol. Mae hefyd yn ystyried pa amodau proffesiynol y bydd angen iddynt fod ar waith er mwyn i ymagwedd gyfunol at y dull cenedlaethol ar gyfer dysgu proffesiynol weithredu’n effeithiol yn ymarferol.
Stategaethau Cymell Addysg Athrawon
Mae Cyngor y Gweithlu Addysg wedi comisiynu pedwar adroddiad sy’n archwilio strategaethau cymell a gynlluniwyd i wella recriwtio a chadw athrawon o safon uchel mewn:
a) cyd-destunau rhyngwladol
b) amrywiaeth o broffesiynau eraill
c) Cymru o gymharu â Lloegr
Stategaethau Cymell Addysg Athrawon (Zip)
Strategaethau Cymell: Adroddiad Synoptig
Cymhelliadau Hyfforddi Athrawon yng Nghymru – Cyd-destun Polisi Rhyngwladol
Cymharu Cymhelliadau Hyfforddi Athrawon yng Nghymru a Lloegr
Recriwtio Graddedigion: Addysgu a Phroffesiynau Eraill
Ymchwil wedi’i archifo
Arolwg Cenedlaethol y Gweithlu Addysg 2017
Adroddiad ar ganfyddiadau'r Arolwg Cenedlaethol y Gweithlu Addysg 2017 a gynhaliwyd gan CGA.
Arolwg Cenedlaethol y Gweithlu Addysg 2017
Pwyllgor Cynghori Mudo (MAC) Galw am Dystiolaeth: Effaith Ymadael y DU o'r Undeb Ewropeaidd
Ym mis Gorffennaf 2017, comisiynodd Llywodraeth y DU y Pwyllgor Cynghori Mudo i gynghori ar effeithiau economaidd a chymdeithasol ymadawiad y DU o'r Undeb Ewropeaidd a chyhoeddodd alwad ddilynol am dystiolaeth ar 4 Awst 2017. Cyflwynodd Cyngor y Gweithlu Addysg dystiolaeth a dynnwyd o'r Gofrestr o Ymarferwyr, gan ddarparu rhywfaint o gyd-destun ynghylch polisi addysg yng Nghymru.
Pwyllgor Cynghori Mudo (MAC) Galw am Dystiolaeth: Effaith Ymadael y DU o'r Undeb Ewropeaidd
Galwad Am Dystiolaeth gan Bwyllgor Cynghori ar Ymfudo (PCY): Adolygiad Rhannol o Restr Prinder Galwedigaethau - Athrawon
Ym mis Mai 2016, ysgrifennodd yr Ysgrifennydd Cartref at gadeirydd y Pwyllgor Cynghori ar Ymfudo a'i gomisiynu i archwilio i ddarganfod a oes prinder athrawon, neu athrawon mewn pynciau penodol y byddai'n synhwyrol i'w llenwi drwy ymfudo Ardal Economaidd Ewropeaidd (AEE). Yn dilyn hyn, cyhoeddodd y PCY alwad am dystiolaeth. Gwahoddwyd Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA) gan y pwyllgor i ddarparu gwybodaeth i gefnogi eu hadolygiad.
Darparodd CGA ymateb a roddodd dimensiwn Cymreig gan ddefnyddio data gwerthfawr o'r Gofrestr Ymarferwyr, ac o arolygon ymarferwyr i gefnogi eu gwaith.
Galwad Am Dystiolaeth gan Bwyllgor Cynghori ar Ymfudo (PCY): Adolygiad Rhannol o Restr Prinder Galwedigaethau - Athrawon