Llais addysgwyr yng Nghymru: Canlyniadau'r arolwg cenedlaethol o'r gweithlu
Dydd Iau, 21 Hydref 2021, 10:30 am-12:00pm
Ynglŷn â'r brîff polisi
Ffocws ein brîff polisi eleni oedd canfyddiadau'r arolwg cenedlaethol o'r gweithlu addysg i Gymru 2021 , a gynhaliwyd ar y cyd â Llywodraeth Cymru, undebau llafur a phartneriaid allweddol eraill.
Taflodd y digwyddiad oleuni ar nifer o faterion sy'n effeithio ar ein cofrestreion ar draws pob sector (ysgolion, addysg bellach, dysgu seiliedig ar waith a gwaith ieuenctid). Roedd y rhain yn cynnws baich gwaith, lles, dysgu proffesiynol ac effaith COVID-19.
Daeth tua 100 o fynychwyr, gan gynnwys gwneuthwyr polisi, rhanddeiliaid addysg a chofrestreion CGA, ynghyd i drafod the themâu a thueddiadau sy'n dod i'r amlwg a'u goblygiadau posibl. Roedd hefyd yn gyfle iddynt gael atebion i'w cwestiynau llosg gan ein panel o arbenigwyr cenedlaethol.
Lawrlwythiadau
Cyflwyniad Brîff Polisi 2021 (PwyntPwer) - dwyieithog
Cyflwyniad Brîff Polisi 2021 (PDF) - dwyieithog