Fel y rheoleiddiwr cenedlaethol annibynnol ar gyfer y gweithlu addysg yng Nghymru, mae gennym dros 80,000 o gofrestreion, sy’n cynnwys athrawon a staff cymorth dysgu mewn ysgolion a lleoliadau addysg bellach, gweithwyr ieuenctid a gweithwyr cymorth ieuenctid cymwys, ac ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith.
Mae ein Cofrestr o ymarferwyr addysg yng Nghymru (y Gofrestr) yn cadw gwybodaeth a data helaeth am y gweithlu addysg yng Nghymru, a ddefnyddiwn i chwarae rhan flaenllaw mewn datblygu ymchwil a pholisi addysg ar sail tystiolaeth.
Hefyd, rydym yn cynnal ac yn comisiynu ymchwil a dadansoddiadau, ac yn cefnogi ymarferwyr a allai fod yn ystyried ymgymryd â’u hymchwil eu hunain yn gysylltiedig ag ymarfer.
Mae adran hon ein gwefan yn eich galluogi i gael mynediad i’r wybodaeth a’r adnoddau hyn.