Gallwch gwblhau Sefydlu trwy waith addysgu cyflenwi byrdymor ad hoc, ac nid oes terfyn amser ar ba mor hir sydd gennych i gwblhau’ch cyfnod Sefydlu ar ôl i chi ennill Statws Athro Cymwysedig (SAC).
Os ydych chi’n cwblhau Sefydlu trwy waith cyflenwi mae’n ofynnol i chi gwblhau isafswm o 380 o sesiynau. Diffinnir sesiwn fel un bore neu brynhawn llawn yn addysgu fel athro cymwysedig. Nid yw sesiynau a gwblheir fel gweithiwr cymorth dysgu / goruchwyliwr cyflenwi mewn ysgol yn gallu cyfrif.
Rhaid i bob cyfnod o gyflogaeth yr ydych yn ei gyflawni fel athro cymwysedig o un sesiwn ysgol neu ragor gyfrif tuag at eich cyfnod Sefydlu, a rhaid iddi gael ei gofnodi gyda ni. Nid oes dim hyblygrwydd ynghylch hyn ac ni allwch chi na’r ysgolion ofyn i gyfnod o gyflogaeth beidio â chyfrif tuag at Sefydlu. Nid yw gwaith cyflenwi byrdymor a wnaethpwyd cyn mis Medi 2012 yn gallu cyfrif tuag at Sefydlu.
Cyflwyno gwaith papur
Os ydych chi’n athro newydd gymhwyso (ANG) sy’n gwneud gwaith cyflenwi, rhaid ichi gyflwyno’r ffurflen hysbysu Sefydlu fel athro cyflenwi byrdymor i ni. Ar ôl inni dderbyn a phrosesu’ch ffurflen, byddwn yn anfon manylion atoch trwy e-bost ynghylch sut i greu’ch cyfrif FyCGA, a hefyd sut i gofnodi’ch sesiynau cyflenwi gyda ni.
Os bydd eich amgylchiadau cyflogaeth yn newid ar unrhyw adeg yn ystod eich cyfnod Sefydlu, Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.i gael cyngor.
Cofnodi sesiynau cyflenwi byrdymor
Ni sy'n yn gyfrifol am gadw cofnod cywir canolog o sesiynau cyflenwi a gwblheir.
Yn ogystal â chofnodi sesiynau gyda ni mae hefyd yn ofynnol i chi gael gwirio’ch sesiynau gan yr ysgolion yr ydych wedi gweithio ynddyn nhw. Mae'n rhaid i chi gofnodi'r rhain yn yr adran cofnod presenoldeb yn eich proffil Sefydlu. Mae’r ffurflen cofnod presenoldeb yn cael ei chadw oddi ar lein ac yna ei lanlwytho i’ch proffil Sefydlu yn unol â’r amserlenni a nodir yn eich proffil.
Dyrannu Gwirwyr Allanol
Dyrennir gwiriwr allanol i bob ANG sy’n cyflawni Sefydlu yng Nghymru. Ar ôl i wiriwr allanol gael ei ddyrannu bydd ei enw i’w weld trwy eich cyfrif FyCGA. Bydd eich gwiriwr allanol yn cysylltu â chi’n uniongyrchol trwy e-bost. Os oes unrhyw newidiadau i’r cyfeiriad e-bost a roesoch ar y ffurflen hysbysu, dylech Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.. Dysgwch fwy am y broses o ddyrannu gwirwyr allanol i ANGau.
Proffil Sefydlu ar-lein
Fel ANG mae’n ofynnol i chi gwblhau a chynnal eich Proffil Sefydlu ar-lein trwy’r Pasbort Dysgu Proffesiynol. Chi sy’n gyfrifol am gynnal eich Proffil Sefydlu ac am ganfod a chofnodi tystiolaeth o sut yr ydych yn bodloni’r safonau proffesiynol ar gyfer addysgu ac arweinyddiaeth trwy eich ymarfer proffesiynol.
Bydd eich Proffil Sefydlu ar-lein i’w weld ar ôl i ni gael a phrosesu’ch ffurflen hysbysu Sefydlu fel athro cyflenwi byrdymor, ac i’ch sesiwn gyntaf o waith cyflenwi gael ei chofnodi gyda ni.