
Beth i’w wneud os ydych yn cyflogi Athro Newydd Gymhwyso (ANG)
Mae rhwymedigaeth statudol ar ysgolion i roi cymorth Sefydlu i ANG. Os yw eich ysgol wedi cyflogi athro ysgol newydd, gwiriwch a yw wedi cwblhau cyfnod Sefydlu. Os nad yw, rhaid ichi gyflwyno’r Ffurflen Hysbysu Sefydlu i CGA cyn pen 10 diwrnod gwaith ar ôl iddo ddechrau ei gyflogaeth yn yr ysgol. Rhaid i’r ysgol enwi mentor sefydlu a fydd yn rhoi’r cymorth Sefydlu priodol i’r ANG o ddydd i ddydd.
Wrth lenwi’r Ffurflen Hysbysu Sefydlu dylech sicrhau y caiff pob adran ei llenwi’n llawn. Sicrhewch hefyd fod y ffurflen wedi cael ei llofnodi gan yr holl bartïon. Ar ôl i CGA gael a phrosesu’r ffurflen wedi’i llenwi, caiff neges e-bost ei hanfon at yr ANG a’r mentor sefydlu, gyda chopi at y Pennaeth, yn cadarnhau bod y gwaith papur wedi dod i law. Dylid cyflwyno Ffurflen Hysbysu Sefydlu i CGA cyn pen 10 diwrnod gwaith ar ddechrau pob cyfnod newydd o gyflogaeth.
Gofynion Sefydlu
Er mwyn cyflawni cyfnod Sefydlu yng Nghymru rhaid i ANG fod â SAC a rhaid iddynt fod wedi’u cofrestru gyda CGA yng nghategori athro ysgol. Nid yw unrhyw gyfnodau o gyflogaeth cyn cofrestru yn y categori cywir yn gallu cyfrif tuag at Sefydlu. Cliciwch yma i wneud cais i gofrestru gyda CGA.
Tri thymor ysgol, neu gyfnod cyfwerth, yw’r cyfnod Sefydlu. Rhaid i ANG nad ydynt yn cael eu cyflogi amser llawn, neu sy’n cyflawni cyfnod Sefydlu trwy waith cyflenwi byrdymor, gwblhau 380 o sesiynau o leiaf. Diffinnir sesiwn fel un bore neu brynhawn llawn mewn ysgol. Dim ond cyfnodau o gyflogaeth lle mae’r ANG yn cael ei gyflogi fel athro cymwysedig a all gyfrif tuag at Sefydlu. Ni fydd unrhyw gyfnodau o gyflogaeth fel goruchwyliwr cyflenwi neu gynorthwyydd addysgu / gweithiwr cymorth dysgu yn cyfrif tuag at Sefydlu
Cyllid Sefydlu
Mae Llywodraeth Cymru’n rhoi cyllid i ysgolion i gynorthwyo â’r gwaith o ddarparu hawl statudol yr ANG i 10% o leihad yn ei amserlen (yn ychwanegol at ei amser CPA). Caiff cyllid ei ryddhau’n ôl-weithredol ar ôl diwedd pob tymor academaidd (neu’n gynharach os bydd cyflogaeth yr athro’n dod i ben). Dim ond ar ôl i’r Ffurflen Hawlio Cyllid Sefydlu ddod i law yn unol â’r amserlenni isod y caiff y cyllid ei ryddhau.
I gael mwy o wybodaeth am y trefniadau cyllido, edrychwch ar ganllawiau CGA.
Amserlen
Isod cewch fanylion dyddiadau pwysig o ran cyflwyno gwaith papur i CGA ar gyfer athrawon ysgol sy’n cyflawni cyfnod Sefydlu.
Tymor yr hydref 2019
Cam gweithredu | Dyddiad cau |
---|---|
Cyflwyno Ffurflen Hysbysu Sefydlu ar gyfer athrawon sy’n dechrau cyfnod Sefydlu mewn ysgol newydd ar ddechrau tymor yr hydref. | 13/09/2019 |
Dyddiad cau terfynol i gyflwyno Ffurflenni Hawlio Cyllid Sefydlu sydd heb eu cyflwyno ar gyfer athrawon a gwblhaodd gyfnod Sefydlu yn ystod tymor yr haf. | 13/09/2019 |
Cyflwyno Ffurflenni Hawlio Cyllid Sefydlu ar gyfer athrawon a gwblhaodd gyfnod Sefydlu yn ystod tymor yr hydref. | 20/12/2019 |
Tymor y gwanwyn 2020
Cam gweithredu | Dyddiad cau |
---|---|
Cyflwyno Ffurflen Hysbysu Sefydlu ar gyfer athrawon sy’n dechrau cyfnod Sefydlu mewn ysgol newydd ar ddechrau tymor y gwanwyn. | 17/01/2020 |
Dyddiad cau terfynol i gyflwyno Ffurflenni Hawlio Cyllid Sefydlu sydd heb eu cyflwyno ar gyfer athrawon a gwblhaodd gyfnod Sefydlu yn ystod tymor yr hydref. | 17/01/2020 |
Cyflwyno Ffurflenni Hawlio Cyllid Sefydlu ar gyfer athrawon a gwblhaodd gyfnod Sefydlu yn ystod tymor y gwanwyn. | 03/04/2020 |
Tymor yr haf 2020
Cam gweithredu | Dyddiad cau |
---|---|
Cyflwyno Ffurflen Hysbysu Sefydlu ar gyfer athrawon sy’n dechrau cyfnod Sefydlu mewn ysgol newydd ar ddechrau tymor yr haf. | 01/05/2020 |
Dyddiad cau terfynol i gyflwyno Ffurflenni Hawlio Cyllid Sefydlu sydd heb eu cyflwyno ar gyfer athrawon a gwblhaodd gyfnod Sefydlu yn ystod tymor y gwanwyn. | 01/05/2020 |
Cyflwyno Ffurflenni Hawlio Cyllid Sefydlu ar gyfer athrawon a gwblhaodd gyfnod Sefydlu yn ystod tymor yr haf. | 20/07/2020 |